Dros 100 yn chwifio’r faner dros Gymru yng nghystadleuaeth sgiliau DU

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Dros 100 o bobl ifanc yn chwifio’r faner dros Gymru yng nghystadleuaeth sgiliau mwyaf y DU

WorldSkillsUK Finalists and Tutors standing in front of banners

Bydd gan Gymru dîm o 112 o fyfyrwyr ifanc a phrentisiaid yn cystadlu i fod ar y brig yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK.

O’r 442 ar draws y DU, cafodd y 112 aelod o dîm Cymru eu dewis yn dilyn eu perfformiad yn ystod cyfres o gystadlaethau rhanbarthol herio, ac eleni, mae chwarter o gystadleuwyr y rowndiau terfynol yn Gymry.

Bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn cystadlu ar gyfer medalau aur, arian ac efydd drwy gydol mis Tachwedd, gyda 50 o rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn cael eu cynnal mewn naw o leoliadau amrywiol.

Daw’r cystadlu i ben gyda seremoni i ddathlu ym Manceinion Fwyaf, â’r enillwyr yn cael eu coroni fel y goreuon yn eu crefft.

O Electroneg Ddiwydiannol yn Abertawe i Patisserie a Melysion yng Nghaerdydd a Cynnal a Chadw Awyrennau yng Nglannau Dyfrdwy, bydd pobl ifanc ar draws Gymru yn profi eu sgiliau mewn 37 o gategorïau gwahanol.

Yn ogystal â rhoi hwb i’w sgiliau a’u hyder, gall cystadleuwyr sy’n gwneud argraff dda o dan bwysau’r rownd terfynol cenedlaethol gael y cyfle i gynrychioli’r DU yn y “Gemau Olympaidd Sgiliau” yn Shanghai 2026.

Mae Saskia Prothero o Ben-y-bont yn cystadlu yng ngategori Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd hi: “Mae bod ar restr fer rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn deimlad anhygoel. Rwyf wedi bod yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn, felly mae cael y cyfle i arddangos fy sgiliau i weithwyr proffesiynol yn fy maes yn anrhydedd.

Mae’r cystadlaethau wedi rhoi’r hyder imi fwrw ymlaen gyda fy ngyrfa, ac rwyf wedi cyfarfod nifer o ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Rwyf wedi ennill profiad ymarferol go iawn, ac rwyf yn gobeithio fy mod wedi llwyddo i wneud digon i gystadlu’n rhyngwladol yn y blynyddoedd i ddod.”

Yn ogystal â’r cystadlu, bydd cystadleuwyr ac ymwelwyr hefyd yn gallu siarad â chyflogwyr ac arbenigwyr diwydiant er mwyn cael cyngor ac arweiniad tra’n mynychu’r digwyddiadau.

Bydd cyfle i’r rheini na all fod yn bresennol yn y digwyddiadau ym Manceinion i wylio ar ddarllediad arbennig ar-lein, a fydd yn cynnwys cystadlu yn ogystal â chyfweliadau a chyngor gan enillwyr blaenorol, arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd.

Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Cymru:

“Hoffwn longyfarch y cystadleuwyr o Gymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol. Rydym yn hynod o falch bod gennym gymaint o bobl ifanc talentog yn cynrychioli Cymru a’n gweithlu medrus.”

“Os ydych am ddod i’r digwyddiad neu am ei wylio ar-lein, rydym yn gobeithio y bydd y rowndiau terfynol yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan a datblygu eu sgiliau i safon fyd-eang.

Rydw i a thîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru yn dymuno pob lwc i holl gystadleuwyr y rowndiau terfynol. Da iawn, pawb!”

Mae rhaglenni datblygu WorldSkills UK, sy’n seiliedig ar gystadleuaeth, wedi’u cynllunio gan arbenigwyr yn y diwydiant i arfogi pobl ifanc, gan gynnwys y rheini ag anableddau dysgu neu anghenion ychwanegol, â’r sgiliau i fod yn barod at waith.

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan ymgeiswyr blaenorol, dywedodd 90% bod eu cyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfa wedi gwella, ac 86% yn nodi bod eu sgiliau cyflogadwyedd a rhai personol wedi gwella ar ôl cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru:

“Fel cenedl, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cenedlaethau’r dyfodol, ac mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd effeithiol o uwchsgilio pobl ifanc a’u harfogi â’r sgiliau i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol.

“Mae llwyddiant ein cystadleuwyr o Gymru bob blwyddyn yn tynnu sylw at y dalent a’r potensial sydd yma yng Nghymru, yn ogystal â’r cyfarwyddiad a’r hyfforddiant o’r safon uchaf maent yn eu cael. Mae cystadlaethau yn cynyddu’r broses o ddarparu a datblygu sgiliau ar hyd a lled y genedl yn sylweddol.

“Mae’r rhaglen WorldSkills yn helpu i ddarparu gweithlu talentog sy’n barod ar gyfer y dyfodol drwy ddarparu cyfle iddynt feistroli eu sgiliau ymarferol mewn awyrgylch cystadleuol, gan dynnu sylw at eu potensial ar lwyfan byd-eang.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Cymru

WorldSkillsUK

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —