Cylchlythyr NTfW – Mehefin 2015

Postiwyd ar gan karen.smith











Gwobrau Prentisiaethau Cymru – Amser cau: hanner dydd, dydd Gwener 26 Mehefin 2015

aac-en
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn cydnabod ac yn mawrygu cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy Brentisiaethau ac i gefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant.

Yn ogystal, mae’r Gwobrau’n ffordd wych o werthuso gwaith hyfforddi a datblygu, ac o ysgogi unrhyw weithlu neu ddysgwr. Y nod fydd dathlu llwyddiant a disgwylir y bydd dros 400 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru yn yr achlysur arbennig hwn.

Felly cofiwch anfon eich ceisiadau i mewn cyn hanner dydd ar ddydd Gwener 26 Mehefin 2015.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Yn ôl i’r brig»

Saer dawnus a pherchennog meithrinfeydd ysbrydoledig yn ennill Gwobrau VQ

vq-awards
Roedd saer o Sgwad Deyrnas Unedig Worldskills a pherchennog ysbrydoledig tair meithrinfa i blant yn dathlu neithiwr (9 Mehefin) ar ôl iddynt ennill y prif Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) yng Nghymru.

Enwyd cyn fyfyriwr Coleg Sir Gâr, Simon McCall yn Ddysgwr VQ y Flwyddyn. Mae Simon yn 21 oed ac o Gapel Dewi ger Caerfyrddin, yn enillydd medal arian Ewropeaidd ac fe gafodd le yn Sgwad y DU Worldskills yn gynharach eleni.

Enwyd Jenine Gill, sy’n cyflogi 55 aelod o staff ym meithrinfeydd plant Little Inspirations yn Llantrisant, Rhydyfelin a’r Barri, yn Gyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Cynhaliwyd y Gwobrau VQ, sy’n dathlu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru, ar noswyl Diwrnod VQ ledled y DU.
Darllen mwy …

Yn ôl i’r brig»

Dirprwy Weinidog yn apelio am help i godi proffil cymwysterau galwedigaethol

deputy-minister
Mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, wedi apelio ar y “gymuned alwedigaethol” yng Nghymru i fynd ati i sicrhau bod y llwybr galwedigaethol at yrfa lwyddiannus yn cael cymaint o sylw â’r llwybr academaidd trwy brifysgol.

“Os nad prifysgol yw’r ffordd i chi, mae dewis amgen effeithiol ar gael ond, yn aml, mae’n rhy anodd dod o hyd i gyngor, yn rhy anodd cael gwybod sut i ymgeisio ac yn rhy anodd canfod pa gyfleoedd sydd ar gael,” dywedodd wrth wahoddedigion yn noson Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) Cymru yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

“Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni ganfod ffordd well o roi gwybod i bobl ifanc ac oedolion am y cyfleoedd dysgu galwedigaethol ac ymarferol sydd ar gael iddynt.

“Cymwysterau galwedigaethol yw sylfaen gyrfa lwyddiannus ac mae llawer o reolwyr ac entrepreneuriaid amlycaf y wlad, fel Syr Terry Matthews, wedi dilyn y llwybr galwedigaethol.”

Dywedodd fod sgiliau’n bwysicach nag erioed a bod toriadau ariannol yn golygu y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru a chyflogwyr sy’n cyd-fuddsoddi â nhw rannu cyfrifoldeb dros ariannu hyfforddiant ar y lefelau cyfredol. Roedd buddsoddi mewn cymwysterau galwedigaethol eisoes yn dwyn ffrwyth i rai cyflogwyr.

Cyfeiriodd at astudiaethau oedd yn dangos bod prentis, ar gyfartaledd, yn cynyddu cynhyrchiant o £214 yr wythnos, ond mai dim ond 13 y cant o fusnesau Cymru sy’n cynnig prentisiaethau ffurfiol, o’i gymharu â 15 y cant yn y Deyrnas Unedig yn gyfan.

Roedd cyfanswm o 29 y cant o gyflogwyr Cymru’n bwriadu cynnig prentisiaethau ffurfiol yn y dyfodol ac roedd 90 y cant o’r rhai oedd wedi ariannu hyfforddiant yn y flwyddyn ddiwethaf yn dweud bod cymwysterau galwedigaethol yn helpu staff i wneud eu gwaith yn well. Dywedodd 86 y cant bod y cymwysterau’n arwain yn uniongyrchol at well perfformiad yn y busnes.

“Mae ymwneud â chyflogwyr yn hanfodol er mwyn creu’r amodau iawn fel y gall busnesau yng Nghymru dyfu a ffynnu,” meddai. “Mae’r Porth Sgiliau’n ei gwneud yn fwy hwylus i gyflogwyr ac unigolion gael gafael ar y swyddi, y sgiliau a’r cyngor sydd ar gael iddynt.

“Ym mis Ionawr, cyhoeddais y byddai £2.4 miliwn ar gael i’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg a fydd yn cyfeirio cymorth i fusnesau yng Nghymru trwy ddatblygu cynlluniau hyblyg, o dan arweiniad y diwydiant, lle nad yw’r ddarpariaeth ar gael eisoes.

“Yn ogystal, bydd Rhaglen Blaenoriaeth Sgiliau yn helpu cyflogwyr i ddatblygu darpariaeth sy’n ymateb i’w hanghenion nhw. Bydd Llywodraeth Cymru’n dal i helpu pobl ifanc i wella’u sgiliau a’r dewisiadau sydd ganddynt mewn bywyd.

“Bydd uno rhaglenni hyfforddi a chyflogadwyedd yn help i greu llwybrau di-dor ar gyfer symud ymlaen. Os parhawn i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael a manteision pendant cymwysterau galwedigaethol, rwy’n argyhoeddedig y bydd pobl yng Nghymru’n dal i’n rhyfeddu â’u doniau, eu hysgogiad a’u hymroddiad.”

Croesawyd pwyslais y Dirprwy Weinidog ar hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol er mwyn i ddysgwyr gael gwybod am y dewisiadau sydd ar gael iddynt gan Peter Rees, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Judith Evans, cadeirydd ColegauCymru.

Yn ôl i’r brig»

Pedwar o Gymry Ifanc yn mynd i Ornest WorldSkills Brazil 2015

worldskills-team-uk-montage
Mae pedwar o brentisiaid a dysgwyr mwyaf dawnus Cymru wedi llwyddo i ennill lle mewn tîm a fydd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig yng ngornest WorldSkills São Paulo 2015 yn ystod yr haf.

WorldSkills yw’r gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf yn y byd. Bob dwy flynedd, mae tua tua mil o bobl ifanc, 18-25 oed, o bob rhan o’r byd, yn dod ynghyd i gystadlu am fedalau mewn dros 40 o wahanol sgiliau yn cynnwys Gosod Gwaith Trydan, Weldio, Dylunio Gwefannau, Coginio a Gosod Brics.

Mae pedwar o Gymru – Eleni Constantinou, 21, o Gaerffili sy’n trin gwallt; Elijah Sumner, 20, o Fae Caerdydd sy’n dechnegydd moduron; Luke Elsmore, 20, o’r Coed Duon sy’n astudio rheolaeth ddiwydiannol; ac Owain Jones, 21, o Flaenau Ffestiniog sy’n astudio gwaith coed – wedi’u henwi ymhlith dim ond 41 aelod o dîm y Deyrnas Unedig a fydd yn teithio i Frasil ar gyfer rownd derfynol WorldSkills yn yr haf.

Cafodd y pedwar eu dewis yn dilyn wythnos o gystadlu brwd, ar ôl cyrraedd rhestr fer Sgwad y Deyrnas Unedig. Roedd hyn yn dilyn 11 mis o hyfforddiant yn eu sgil arbennig nhw gyda chefnogaeth eu darparwr hyfforddiant, eu coleg, eu cyflogwr a’u rheolwr hyfforddiant.

Dywedodd Eleni Constantinou, 21, o Gaerffili sy’n cystadlu ym maes Trin Gwallt:
“Dw i wedi gwirioni fy mod yn mynd i WorldSkills São Paulo ym Mrasil. Does dim ots pa mor dda y gwnaf i yn y gystadleuaeth hon, dwi’n meddwl y bydd cyrraedd Brasil yn brofiad gwych ynddo’i hunan. Wedi dweud hynny, rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn achos dyma pryd mae’r gystadleuaeth yn dechrau go iawn yn fy meddwl i. Er fy mod i eisiau gwneud yn dda i fi fy hunan, fe hoffwn i ennill er mwyn fy nheulu. Rwy’n dod o deulu o drinwyr gwallt ac maen nhw wedi bod o help mawr i mi gyrraedd lle ydw i heddiw.”

Dywedodd Elijah Sumner, 20 oed o Fae Caerdydd, sy’n dechnegydd moduron, ei fod wrth ei fodd ei fod wedi’i ddewis:

“Mae’n dal yn teimlo’n eitha swreal. Mae’n anodd credu y bydda i’n teithio i Frasil i gynrychioli’r Deyrnas Unedig. Gobeithio’n fawr y bydd hyn yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn. Mae’n gyfle gwych ac mae wedi bod yn brofiad gwych hyd yma.”

Dywedodd Luke Elsmore, 20, o’r Coed Duon sy’n cystadlu yn yr adran Rheolaeth Ddiwydiannol:
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth. Mae’n grêt cael cyfle i fy mhrofi fy hunan ar lefel fyd-eang. Mae’n anrhydedd cael cynrychioli Cymru a’r Deyrnas Unedig ac rwy’n falch bod pobl yn teimlo mod i’n gallu cystadlu ar lefel mor uchel.”

Un arall a fydd yn teithio i Frasil ym mis Awst yw Owain Jones, 21 oed, o Flaenau Ffestiniog – cystadleuydd yn yr adran Gwaith Saer.

“Mae hyn yn gyffrous iawn. Dwi’n edrych ymlaen at fynd i São Paulo, er y bydd rhaid i mi weithio’n galed iawn. Bydd rhaid i mi fod ar fy ngorau. Dwi wedi bod yn cystadlu i gyrraedd y lefel hon ers i mi ddechrau yn y coleg a rŵan mi fydda i’n cystadlu ar lefel fyd-eang ac felly mae popeth wedi arwain at hyn.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Llongyfarchiadau enfawr i’r pedwar cystadleuydd. Rwy wrth fy modd mai cystadleuwyr o Gymru fydd deg y cant o Sgwad y Deyrnas Unedig ac y bydd Eleni, Elijah, Luke ac Owain yn mynd i Frasil yn ystod yr haf i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth fyd-eang.
“Maen nhw wedi cyflawni camp fawr. Mae’r pedwar wedi dangos eu bod yn eithriadol o ddawnus a’u bod wedi meithrin sgiliau ardderchog ac fe allan nhw ymfalchïo yn hynny.”

Llongyfarchwyd y pedwar gan Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg hefyd:
“Trwy annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn cystadlaethau fel WorldSkills a chystadlu yn erbyn y goreuon, nid yn unig ym Mhrydain ond ledled byd, gallwn rannu arferion gorau mewn Prentisiaethau ac addysg alwedigaethol, a helpu i annog pobl ifanc eraill yng Nghymru i anelu at y safonau uchel hyn.
“Rwy’n dymuno’r gorau i’r pedwar ar eu taith i Frasil a gobeithio’n fawr y byddan nhw’n dod â medalau adref i Gymru.”

Dywedodd Barry Liles, Hyrwyddwr WorldSkills yng Nghymru ac Aelod o Fwrdd Find a Future, sy’n rheoli ymgais y Deyrnas Unedig yn y Gystadleuaeth WorldSkills: “Gyda balchder a phleser mawr, rwy’n llongyfarch y pedwar person ifanc hyn sydd wedi ennill eu lle yn Nhîm y Deyrnas Unedig.

“Mae cystadlaethau sgiliau’n dangos cymaint y gall unigolion a sefydliadau ei gyflawni trwy addysg bellach, hyfforddiant sgiliau a Phrentisiaethau o safon uchel.

Wrth barhau i annog pobl i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau galwedigaethol, byddwn yn cyrraedd ein nod o godi safonau a lefelau sgiliau, a bydd hynny, yn y pen draw, yn rhoi hwb i economi Cymru.”

Trwy gymryd rhan yn y Gystadleuaeth WorldSkills, mae’r Deyrnas Unedig yn gallu rhannu arferion gorau ym maes Prentisiaethau ac addysg alwedigaethol gan hybu rhagoriaeth mewn sgiliau yn y gweithle. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod cymryd rhan yn gallu gwneud rhyfeddodau i yrfa person ifanc. Mae rhai sydd wedi cystadlu o’r blaen yn dweud bod y profiad wedi golygu eu bod o leiaf bum mlynedd ar y blaen o ran sgiliau, gwybodaeth ac aeddfedrwydd.

Yn ôl i’r brig»

Claire yn ennill Gwobr Ysbrydoli! am helpu cymuned yn ôl i fyd addysg

claire-arnold
Mae mam i dri o Sir Benfro sydd wedi helpu oedolion yn ei chymuned i fynd yn ôl i fyd addysg wedi ennill y brif wobr mewn seremoni fawreddog. Cyflwynwyd gwobr Dysgwr y Flwyddyn, Cymru i Claire Arnold yng Ngwobrau Ysbrydoli! Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2015.

Gadawodd Claire, sy’n 39 oed erbyn hyn, yr ysgol yn 15 oed heb gymwysterau ond aeth ymlaen i sefydlu cwrs gradd yn y gymuned i bobl yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Cynhaliwyd Wythnos Addysg Oedolion rhwng 13 ac 19 Mehefin ac mae’n dathlu dysgu gydol oes, boed hynny yn seiliedig ar waith, yn rhan o gwrs addysg yn y gymuned, mewn coleg, mewn prifysgol neu dros y we. Mae yn ei phedwaredd flwyddyn ar hugain erbyn hyn a’r nod yw hyrwyddo’r gwahanol gyrsiau sydd ar gael i oedolion, o ieithoedd i gyfrifiadureg, ac o ofal plant i gyllid.

Cynhelir yGwobrau Ysbrydoli! ychydig cyn Wythnos Addysg Oedolion bob blwyddyn. Y nod yw dathlu llwyddiant dysgwyr eithriadol yng Nghymru sydd wedi dangos angerdd, ymroddiad a brwdfrydedd arbennig, yn aml o dan amgylchiadau anodd.

“Ro’n i’n ei chael yn anodd yn yr ysgol. Doeddwn i ddim yn disgleiriio,” meddai Claire, a enillodd y Wobr Cynnydd Dysgu hefyd. “Roeddwn i eisiau bod yn athrawes. Ro’n i bob amser yn gwneud taflenni gwaith i’r plant yn fy nosbarth amser chwarae ar ddiwrnodau gwlyb. Ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n ddigon da.”

Aeth Claire, sy’n byw yn St Twynnells yn Sir Benfro, i weithio mewn cartref hen bobl a threuliodd rai blynyddoedd yn gynorthwyydd gofal.

“Nid dyna oeddwn i eisiau ei wneud ond doeddwn i ddim wedi canolbwyntio yn yr ysgol uwchradd a doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i wireddu fy uchelgais i fod yn athrawes,” medai Claire sy’n byw gyda’i gŵr Matthew a’i phlant Cara, 17; Euan, 14, ac Amelia, sy’n dair.

Ddeng mlynedd ar ôl gadael yr ysgol, clywodd Claire am swydd cynorthwyydd cymorth dysgu yn ei hen ysgol gynradd, Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen.

“Ges i’r swydd ac ro’n i wrth fy modd,” meddai. “Roedd gweithio gyda phlant yn rhoi pleser mawr i mi ac roedd addysg wedi newid gymaint. Ro’n i’n gwylio’r athrawon ac yn dysgu oddi wrthyn nhw ac fe feddyliais, efallai y gallaf i wneud hynna.”
Awgrymodd y pennaeth bod Claire yn ymuno â phrosiect newydd i roi addysg i oedolion yn y gymuned ac fe lwyddodd hi a 15 arall i gwblhau Gradd Sylfaen ar gyfer Cynorthwywyr Cymorth Dysgu.
“Roedden ni’n teithio i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, awr i ffwrdd, ac fe sylweddolais i bod hynny’n golygu nad oedd yr addysg ar gael i bawb,” meddai. “Felly, pan oedd arian ar gael, gofynnais a oedd rhywbeth y gellid ei wneud i helpu pobl oedd yn awyddus i ddysgu ond yn cael trafferthion oherwydd gofal plant a thrafnidiaeth.”

Mae Claire wedi cydweithio’n agos â theuluoedd sipsiwn yr ardal ac fe drefnodd i gwrs TGAU mathemateg gael ei gynnal yn Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen gyda Sir Benfro yn Dysgu.

“Roedd yn dechrau am 5 o’r gloch ac roedd gennym ni glwb plant ac felly doedd gofal plant ddim yn broblem,” meddai Claire. “Y flwyddyn wedyn, fe ddechreuon ni gwrs TGAU Saesneg, a gwyddoniaeth y flwyddyn ar ôl hynny.”

Erbyn hynny, roedd Claire wedi cwblhau Gradd BA Cydanrhydedd mewn Addysg a Chynwysiant Cymdeithasol ac fe drefnodd, gyda phennaeth yr ysgol, Shelley Morris, i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant redeg yr un graddau yn yr ysgol yng Nghil-maen.

Tra oedd yn helpu pobl eraill, roedd yn cwblhau ei gradd ei hunan ac yn byw mewn carafan sefydlog heb gysylltiad â’r rhyngrwyd.

“Roedden ni’n adeiladu tŷ ac felly buon ni’n byw yn y garafan am bedair blynedd,” meddai.
“Roeddwn i’n arfer mynd i dŷ fy chwaer yng nghyfraith bob nos i ddefnyddio’u cyfrifiadur nhw pan oedd y plant yn y gwely.”

“Rwy’n cadw mewn cysylltiad â’r cyrsiau gradd yng Nghil-maen,” meddai Claire, sy’n paratoi i ennill gradd mewn Addysg Gynradd a SAC.
“Mae yno bobl o bob oedran ac rwy’n falch iawn o’r hyn y mae’r cynllun wedi’i gyflawni – mae yno tua 20 myfyriwr y flwyddyn. Dydw i byth eisiau stopio dysgu Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.”

Trefnir Wythnos Addysg Oedolion gan NIACE Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi cyfle i bawb ddysgu rhywbeth newydd – boed hynny o gartref, yn y gweithle neu yn eich cymuned.

“Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod pobl sydd wedi cymryd y cam hwnnw a dylai eu hesiampl nhw annog unrhyw un sy’n credu ei bod hi’n rhy hwyr neu’n rhy anodd i ddysgu sgil newydd.

“Gobeithio y bydd Wythnos Addysg Oedolion yn annog oedolion ledled Cymru i ddysgu mwy am sgiliau a gyrfaoedd posibl trwy fynd i ddigwyddiadau yn eu hardal. Yn ogystal, gall oedolion ddefnyddio’r Porth Sgiliau i gael cyngor ac arweiniad am yrfaoedd, er mwyn gwella’u sgiliau a’u cyfle o gael gwaith neu fynd yn ôl i weithio.”

Dywedodd Cerys Furlong, Cyfarwyddwr NIACE Cymru: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn ein hatgoffa o rym dysgu ac mae pob stori’n dystiolaeth o waith caled y dysgwyr a’r tiwtoriaid. “Mae pob enillydd wedi dod yn bell ac wedi dangos ymroddiad a brwdfrydedd a dymunwn bob llwyddiant i bob un ohonynt yn y dyfodol. Gall pawb gymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion trwy ymuno â digwyddiad di-dâl yn eu hardal nhw ar bopeth o gymorth cyntaf i ffotograffiaeth ddigidol.”

Yn ôl i’r brig»

Fideo Ymwybyddiaeth Iaith Newydd

lisa-lloyd
Mae Llywodraeth Cymru a Chwmni IAITH wedi diweddaru ei fideo ymwybyddiaeth iaith ‘Ein Hiaith: Our Language’ i’w wneud yn fwy perthnasol i’r sector hyfforddiant Ol-16. Wnaeth Lisa Lloyd o Aspiration Training (rhan o Vocational Skills Partnership (VSP) Wales) cymryd rhan yn y fideo newydd. Mae’n bosib dod o hyd i’r fideo ’20 Llais: 20 Voices’ yma.

Yn ôl i’r brig»

ADCDF – Dinasyddiaeth fyd-eang

Mae’r digwyddiadau isod yn ddathliadau ac yn ddiwrnodau ymwybyddiaeth; mae pob un yn cynnwys manylion gwefannau a defnyddiau cymorth i’ch helpu i gynllunio gweithgareddau i ddysgwyr.

dharma-day2 Gorffennaf 2015 Diwrnod Dharma – Cewch wybod mwy am Ddiwrnod Dharma, un o’r dyddiadau pwysicaf yng nghalendar y Bwdhyddion.

 
 
 
 
 
 
nelson-mandela-day18 Gorffennaf 2015 Diwrnod Mandela – Nod Diwrnod Mandela yw anrhydeddu gwaddol cyn-Lywydd De Affrica ac ysbrydoli pobl i weithredu er mwyn newid y byd er gwell.

Dilynwch y ddolen isod i weld rhagor o adnoddau’n ymwneud â dathliadau, diwrnodau ymwybyddiaeth ac wythnosau gweithredu trwy gydol y flwyddyn. http://www.educationscotland.gov.uk/resources/r/resourcecalendar/july.asp

Yn ôl i’r brig»

SkillsCymru – Cwrdd â’r Tîm

skills-cymru-logo
Ymunwch â thîm SkillsCymru yn y naill neu’r llall o’r digwyddiadau Cwrdd â’r Tîm i gael sgwrs anffurfiol dros goffi a theisen. Piciwch draw am 10 munud neu arhoswch am awr. Cewch ymweld rhwng 8.30 a 10.30 y bore yn y canolfannau isod:

  • Dydd Mawrth 14 Gorffennaf 2015 yn The Village Hotel, Caerdydd
  • Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015 yn Venue Cymru, Llandudno

Atebwch erbyn dydd Mercher 8 Gorffennaf i gadw lle.
Natasha Messer 01823 362800
Ebost: Natasha.Messer@prospects.co.uk

Yn ôl i’r brig»

Newyddion gan y Rhanbarthau
Back to top»

MBE i gyn-Gyfarwyddwr Gweithrediadau Adran Hyfforddi Acorn

barbara-poole-mbe
Dyfarnwyd yr MBE i Barbara Poole, cyn-Gyfarwyddwr Gweithrediadau Acorn yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei gwasanaethau i ddysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Ymddeolodd Barbara, o Gaerffili, y llynedd ar ôl treulio deng mlynedd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Adran Hyfforddi Acorn. Bu ganddi ran hollbwysig yn datblygu rhaglenni dysgu yng Nghymru gan gynnig llwybr amgen i gannoedd o bobl a’u galluogi i ddysgu wrth weithio, gan ennill profiad gwerthfawr wrth wneud hynny.

Cyn ymuno ag Acorn, dechreuodd Barbara weithio ym maes hyfforddu gyda darparwr hyfforddiant Prydeinig yn 1984. Bu ganddi nifer o swyddi ledled Cymru a Lloegr, cyn dod yn Gyfarwyddwr gydag Acorn yn 2000.

Yn y blynyddoedd diwethaf, penodwyd Barbara’n Is-gadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn rhanbarth y De-ddwyrain. Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr ar Fwrdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a bu’n cynrychioli rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant Cymru yng ngwaith Llywodraeth Cymru ym maes Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Dywedodd Barbara: “Mae’n fraint fawr i mi gael yr MBE. Mae’n dangos pa mor bwysig yw dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ac rwy’n falch o fod wedi cael y cyfle i weithio yn y maes hwn gydag Acorn gan gynrychioli’r rhwydwaith darparwyr.”

Ac meddai: “Nid gwobr i mi yn unig yw hon, ond gwobr i’r holl staff cydwybodol sy’n gweithio yn Adran Hyfforddi Acorn.”

Yn ôl i’r brig»

Dirprwy Weinidog yn Gwobrwyo Prentisiaid Gorau i Seremoni Cyflwyno Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Consortiwm Grŵp Llandrillo Menai

apprentice-awards-consortium
Daeth dros 100 o wahoddedigion ynghyd i Seremoni Cyflwyno Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Consortiwm Grŵp Llandrillo Menai a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Orme View yng Ngholeg Llandrillo, lle derbyniodd y prentisiaid gorau o bob cwr o Ogledd Cymru wobrau gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

Roedd y seremoni’n dathlu llwyddiannau dysgwyr eithriadol sy’n dysgu yn y gweithle ac sydd wedi jyglo gofynion gwaith ac astudio’n llwyddiannus, gan gyflawni eu fframwaith hyfforddi a chymwysterau. Eleni, mewn cydweithrediad â phartneriaid y consortiwm, sef Hyfforddiant Arfon Dwyfor a Hyfforddiant Gogledd Cymru, roedd y seremoni’n cynnwys gwobr ‘Prentis y Flwyddyn’.

Arweinydd y digwyddiad oedd Dafydd Evans, Pennaeth Coleg Llandrillo, a’r wraig wadd oedd Julie James AS, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

Uchafbwynt y digwyddiad oedd gweld prentis ym maes Tyrbinau Gwynt yn curo bron i 3,000 prentis arall, gan ennill y teitl o fri, ‘Prentis y Flwyddyn 2015’. Enwebodd tri aelod y consortiwm dysgu seiliedig ar waith, sef Grŵp Llandrillo Menai, Hyfforddiant Gogledd Cymru a Hyfforddiant Arfon Dwyfor, un dysgwr yr un ar gyfer y wobr ‘Prentis y Flwyddyn’, a Llewelyn Edwards, 21 oed, sy’n dod o Langollen ac yn astudio yng Ngholeg Llandrillo, a enillodd y teitl mwyaf anrhydeddus hwn. Darllen mwy …

Yn ôl i’r brig»

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – Cynigydd a Ffefrir ar gyfer Cynllun Hyfforddi Adeiladwyr

citb-logo
Consortiwm o dan arweiniad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw’r cynigydd a ffefrir i ddatblygu cynllun hyfforddi newydd ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru, cyhoeddodd Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) heddiw.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd CITB Cymru Wales gynlluniau i fuddsoddi hyd at £5m mewn cynllun newydd. Daeth nifer o gynigion o safon uchel i law a’r consortiwm o dan arweiniad y Brifysgol a gafodd y sgôr uchaf yn y broses gynnig.
Yn awr, bydd yn cydweithio â’r CITB ar fanylion y cynllun a fydd yn sicrhau hyfforddiant i ddiwallu anghenion cyflogwyr yn y diwydiant adeiladu ledled Cymru.

Ymhlith y partneriaid sy’n cefnogi consortiwm Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mae’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB), Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Coleg Cambria, Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Coleg y Cymoedd, Sgiliau Adeiladu Cyfle, Tidal Lagoon Power ltd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaeth Strategol CITB yng Nghymru, Mark Bodger:

“Rydym yn rhagweld twf blynyddol o 3.4% yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf ac mae bylchau yn yr hyfforddiant yn y maes ledled y wlad. Mae’n amser da i ymateb i anghenion y diwydiant a chydweithio i ddatblygu model hyfforddiant sy’n addas at y diben ac yn addasu i’r newidiadau yn anghenion y diwydiant.

“Yn dilyn cyfarfod o Fwrdd CITB yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf lle bu’r aelodau’n ystyried canlyniad y broses hyd yma, byddwn yn cydweithio â’r consortiwm dros y misoedd nesaf i bennu cwmpas ein cynlluniau a’u datblygu. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno manylion y rhaglen cyn diwedd y flwyddyn.’

Dywedodd Kathryn David, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’r CITB a phartneriaid ledled Cymru ar y cynllun newydd cyffrous hwn a fydd yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant i unigolion a chwmnïau adeiladu ledled Cymru. Byddwn yn cydweithio’n agos â’n partneriaid mewn colegau i ddiwallu anghenion y sector adeiladu o ran dysgu a datblygu.”

Back to top»

Pobl ifanc o Gasnewydd yn rhoi eu gwobr o £3500 i elusen

mfl-dosh-handover
Mae enillwyr adran Gymreig cystadleuaeth rheoli arian sy’n rhedeg trwy’r Deyrnas Unedig wedi rhoi £3,500 i elusen leol, The Brightside Trust. Enillodd y tîm o wyth o bobl ifanc rhwng 17 a 23 oed o Gasnewydd y brif wobr yn Her Arian am Oes 2015 a drefnir gan y Lloyds Banking Group.

Nod Arian am Oes yw ysbrydoli pobl mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau rheoli arian. Cafodd yr enillwyr, tîm o’r enw DOSH (Defining Our Spending Habits), wobr o £3,500 gan y Lloyds Banking Group i’w roi i elusen o’u dewis nhw.

Cyflwynwyd y siec o £3,500 gan aelodau DOSH, sy’n gweithio ar raglenni dysgu gydag Acorn Learning Solutions, i The Brightside Trust, sy’n elusen fentora ar-lein i bobl ifanc, ar 18 Mehefin yn Somerton House, Casnewydd.

Dywedodd Susanne Maskrey, Dirprwy Brif Weithredwr The Brightside Trust:

“Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i DOSH am eu rhodd i The Brightside Trust. Mae’n wych gweld pobl ifanc yn helpu pobl o’r un oed â nhw i feithrin sgiliau rheoli arian. Rydyn ni yn The Brightside Trust yn ceisio sicrhau bod rhagor o bobl ifanc yn cael cyfle i gael addysg a gyrfa a bydd y rhodd hon yn ein helpu i gefnogi rhagor o bobl ifanc yn y gymuned.

Dywedodd Amy Louise Follett o DOSH, “Rhoddodd y prosiect yr hyder i ni gyfarfod â phobl newydd a datblygu sgiliau newydd, gan ddysgu rheoli ein harian a chael effaith gadarnhaol ar ein cymuned. Rydyn ni wrth ein bodd y gallwn ddefnyddio’r wobr i gyfrannu at achos mor dda.”

Cynhaliodd DOSH brosiect rheoli arian yn y gymuned yn gynharach eleni i ddangos i bobl oedd yn bwriadu mynd i’r brifysgol sut i reoli eu harian. Cynhaliwyd prosiect DOSH dros gyfnod o dri mis gyda chefnogaeth partneriaid Arian am Oes, sef ColegauCymru a Youth Cymru. Cymerodd dros 340 o dimau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ran yn y gystadleuaeth eleni.

Dywedodd David Rowsell, Pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn galluogi pobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig i ddysgu a rhannu sgiliau rheoli arian ymarferol trwy gynnal prosiect o’u dewis nhw er budd cymuned o’u dewis. Roeddwn yn cael fy nharo’n barhaus gan angerdd, dyfeisgarwch ac ymroddiad y timau eleni ac rwyf wedi fy ysbrydoli gan gefnogaeth a brwdfrydedd eu cymunedau.”

Dywedodd Rachel Dodge, rheolwr prosiectau gyda ColegauCymru, “Rwy’n falch iawn o dîm DOSH. Maen nhw wedi dysgu llawer trwy’r Her Arian am Oes ac rydyn ni’n falch eu bod nhw’n gallu cefnogi The Brightside Trust sy’n helpu pobl ifanc i gael cyfle am well dyfodol.”

Yn awr, mae DOSH a 50 o dimau eraill sydd wedi cyrraedd rownd derfynol yr Her trwy’r Deyrnas Unedig i gyd, yn cael cyfle i ymgeisio am un o ddeg grant o £1,000 a fydd yn eu galluogi i barhau â’r gwaith gwych y maen nhw wedi’i ddechrau yn eu cymunedau.

Trefnir yr Her Arian am Oes gan y Lloyds Banking Group mewn partneriaeth â’r Academi Sgiliau Genedlaethol Gwasanaethau Ariannol, UK Youth, Colegau Cymru, Youth Cymru, Young Scot a’r NOW Group. Mae rhaglen Arian am Oes yn rhan o gynllun Helping Britain Prosper y Grŵp ac mae wedi ymrwymo i achredu 4,000 o weithwyr cymorth cymunedol erbyn 2017 i gyflwyno addysg ariannol yn y rheng flaen.

Yn ôl i’r brig»

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

7 – 8 Hydref 2015
Skills Cymru – Venue Cymru, Llandudno
Ebost: gabrielle.mcevans@prospects.co.uk i gael gwybod rhagor.

21 – 22 Hydref 2015
Skills Cymru – Motorpoint Arena, Caerdydd
Ebost: gabrielle.mcevans@prospects.co.uk i gael gwybod rhagor.

29 Hydref 2015
Cynhadledd NTfW – Celtic Manor Hotel, Casnewydd
Ebost: karen.smith@ntfw.org i gael gwybod rhagor.

29 October 2015
Gwobrau Prentisiaethau Cymru – Celtic Manor Hotel, Casnewydd
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

19 – 21 Tachwedd 2015
The Skills Show – NEC Birmingham
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Yn ôl i’r brig»

Iaith Gymraeg/Diwylliant Cymreig

27 Mehefin – 3 Gorffennaf 2015
Wythnos Tafwyl, Caerdydd
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

4 – 5 Gorffennaf 2015
Ffair Tafwyl
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

20 – 23 Gorffennaf 2015
Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

24 – 26 Gorffennaf 2015
Big Cheese Festival, Caerffili
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

1 – 8 Awst 2015
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirionydd
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.

I gael gwybod rhagor am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill yng Nghymru, ewch i’r wefan hon:
http://www.visitwales.com/things-to-do/whats-on

Yn ôl i’r brig»
[TABLE=12]

Yn ôl i’r brig»

More News Articles

  —