Ysbyty yn cyrraedd carreg filltir trwy gyflawni 100fed prentisiaeth

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Prentisiaid Sylfaen Anish Kuriakose, Jane Weston, Kathryn Dollery, Sion Treharne gyda (cefn o’r chwith) swyddog hyfforddi Joanna Davies o Hyfforddiant Cambrian Training, cydgysylltydd gwasanaethau gwesty Ysbyty Cyffredinol Bronglais Steve James. Y Prentis Uwch Mark Westlake, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rheolwr gweithrediadau cyfleusterau Stephen John a phennaeth lletygarwch Hyfforddiant Cambrian Chris Bason.

Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth yn elwa ar gyflawni ei 100fed prentisiaeth wedi’i darparu gan y darparwr dysgu sydd wedi ennill gwobrau, Hyfforddiant Cambrian.

Dechreuodd y bartneriaeth ddysgu rhwng yr ysbyty a Hyfforddiant Cambrian 15 mlynedd yn ôl ac mae 101 aelod o staff, ag oedrannau rhwng 17 a’r 60au, wedi cwblhau fframweithiau prentisiaeth ers hynny.

Mae’r prentisiaethau wedi bod mor llwyddiannus wrth ostwng lefelau salwch staff a gwella perfformiad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystyried defnyddio Bronglais fel model i’w cyflwyno mewn ysbytai eraill yn y flwyddyn newydd.

Mae’r fframweithiau sy’n cael eu cwblhau ym Mronglais yn amrywio o brentisiaethau sylfaen i uwch, gan gynnwys rheoli lletygarwch, goruchwylio lletygarwch, cadw tŷ, gwasanaethau bwyd a diod, sgiliau glanhau a gwasanaethau cymorth a gwasanaethau lletygarwch. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cyflwynodd Stephen John, rheolwr gweithrediadau cyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Lletygarwch i Mark Westlake a Phrentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) mewn Sgiliau Glanhau a Gwasanaethau Cefnogi i Kathryn Dolery, Sion Treharne, Anish Kuriakose a Jane Weston. Nid oedd Tim Jones a Marzena Wlodarczyk, sydd hefyd wedi cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen, yn gallu mynychu’r seremoni.

“Mae cyflawni’r 100fed prentisiaeth trwy Hyfforddiant Cambrian yn dangos y cyfnod cyson o fuddsoddi mewn staff yn yr ysbyty,” meddai Mr John. “Mae’r hyfforddiant wedi arwain at lefel sylweddol is o salwch ymhlith y staff ym Mronglais sydd â’r safonau glendid uchaf yn gyson.

“Mae’r hyfforddiant yn ysgogi’r gweithlu i fod yn awyddus i ddysgu a datblygu ac mae ganddynt fwy o gymhelliant, sy’n cael ei gadarnhau gan lefelau salwch a pherfformiad.”

Dywedodd cydlynydd gwasanaethau gwesty Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Steve James, ei fod yn falch iawn bod 101 aelod o staff cegin a domestig, porthorion a gyrwyr wedi cyflawni prentisiaethau dros y 15 mlynedd diwethaf.

“Yn fy marn i, mae hon wedi bod yn fenter wych a gwerth chweil sydd wedi bod yn fuddiol iawn i’r staff ac yn wych i’r ysbyty,” meddai. “Mae’r holl hyfforddiant yn y gwaith ac mae’r hyfforddwyr yn rhagorol, yn gwneud asesiad o lefel addysg pob aelod o staff ar y dechrau.

“Yn fy mhrofiad i, mae staff sydd wedi cael hyfforddiant da yn hapusach o lawer ac yn gymwys.”

Y swyddog hyfforddi Joanna Davies, o Cambrian Training, sydd â’r anrhydedd o fod wedi cyflwyno cymwysterau i brentis cyntaf a 100fed prentis y cwmni yn yr ysbyty. Ar ôl wyth mlynedd yn gweithio â’i thîm yn darparu cymwysterau yn yr ysbyty, gadawodd i redeg busnes â’i gŵr, Nick, am chwe blynedd cyn dychwelyd fis Tachwedd diwethaf.

“Fi oedd un o’r swyddogion hyfforddi cyntaf yn Ysbyty Bronglais 15 mlynedd yn ôl â’m tîm lletygarwch a oedd yn darparu amrywiaeth o gymwysterau,” meddai Joanna. “Mae’n fraint cael dod yn ôl i Hyfforddiant Cambrian a gallu parhau i ddarparu cymwysterau ym Mronglais.

“Rwy’n falch iawn bod yr ysbyty bellach wedi cyflawni mwy na 100 o fframweithiau prentisiaethau trwy barhau i weithio’n agos â Hyfforddiant Cambrian.”

Newyddion Cambrian Training

More News Articles

  —