Ydi Cymru wedi colli cyfle?

Postiwyd ar gan karen.smith

Arwyn Watkins - Prif Weithredwr NTfW

A ninnau ar drothwy cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn y Celtic Manor ar 18 Hydref, dyma’r prif weithredwr, Arwyn Watkins, yn sôn am fater dadleuol sy’n amlwg ym meddyliau darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Ydi Cymru wedi colli cyfle?

Bydd llawer o’r bobl sy’n darllen hwn yn gwybod bod Bil Addysg (Cymru) ar ei ffordd trwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyda’r nod o fod yn ei le erbyn 2015. Credwn y dylai darparwyr dysgu seiliedig ar waith gael gwneud cyfraniad sylweddol at y ddeddfwriaeth newydd hon a fydd yn effeithio’n fawr ar ddyfodol gweithlu addysg a hyfforddiant Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi dymuniad i sicrhau bod llwybrau dysgu galwedigaethol yn cael yr un parch â rhai academaidd ac roedd hyn hefyd yn un o themâu yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru. Serch hynny, nid yw dysgu seiliedig ar waith yn cael ei enwi fel sector yn y Bil sy’n golygu bod cyfle euraid i dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi’r un parch i’r ddau lwybr dysgu wedi’i golli. Byddai dweud ein bod yn siomedig yn rhy wan o lawer.

Mae deddfwriaeth allweddol yn y Bil yn ymwneud â chreu Cyngor y Gweithlu Addysg – a fyddai’n cymryd lle Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) – i gofrestru a rheoleiddio athrawon a’r gweithlu ehangach. Maes arall o ddiddordeb yw asesu anghenion addysg a hyfforddiant ac addysg bellach arbenigol pobl ifanc ôl-16.

Bu’r Ffederasiwn yn awyddus iawn i sicrhau’r un parch i’r ddau llwybr ers ei ffurfio. Doedd dysgu seiliedig ar waith ddim yn fusnes i neb 12 mlynedd yn ôl ond erbyn hyn mae’n fusnes i bawb ac i ddefnyddio cymhariaeth o fyd pêl droed, rydym fel timau Abertawe a Chaerdydd yn yr uwchgynghrair. Mae’n ddiau bod llwyddiant darparwyr dysgu seiliedig ar waith wedi cyfrannu at roi lle amlwg iawn i NTfW ym maes polisi a thrafod addysg a sgiliau.

Yr her i ni’r darparwyr, fel timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd, yw cadw’n lle yn yr uwchgynghrair ac mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu y gallwn wneud hynny. Rydym wedi profi bod y sgiliau a’r arbenigedd gennym i droi datganiad polisi yn ddull gweithredu ymarferol ac mae gennym weithlu proffesiynol sydd â gwir ymdroddiad i’r safonau uchaf ac i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Mae’r Ffederasiwn wedi ymroi i fuddsoddi amser ac ymdrech yn ymgynghori â’i aelodau ynghylch proffesiynoli’r gweithlu ac fe gafwyd cefnogaeth ysgubol i weithdy ar y mater a gynhaliodd yng nghynhadledd flynyddol y llynedd.

Felly, pa fath o neges y mae Llywodraeth Cymru’n ei anfon trwy anwybyddu dysgu seiliedig ar waith wrth ddrafftio’r Bil? Cefais fy nghalonogi wrth ddarllen ymatebion Estyn a Colegau Cymru i’r gwaith craffu ar y Bil. Dywed Estyn: “Mae’n bwysig bod gan ddysgwyr a’u rhieni ffydd mewn gweithlu medrus sy’n cael ei reoleiddio’n dda. Byddai’r hyn y bwriedir i Gyngor y Gweithlu Addysg ei wneud yn ei alluogi i hyrwyddo safonau uchel ym maes ymddygiad proffesiynol ac i ddadansoddi data’n ymwneud â chynllunio’r gweithlu a chyfrannu at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.

“Rydym yn croesawu’r rhan y bydd y cyngor hwnnw’n ei chwarae yn y meysydd hyn gyda nifer o wahanol swyddi, yn enwedig yn y sector addysg bellach, gyda’r potensial o ehangu wedyn i gynnwys gweithwyr mewn dysgu seiliedig ar waith a’r gwasanaeth ieuenctid. Dylai’r ddeddfwriaeth hon gyfrannu at wella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith y gweithlu addysg. Byddai cofrestru staff llawn-amser mewn sefydliadau addysg bellach yn sicrhau yr un parch iddynt â staff academaidd mewn ysgolion ac yn helpu i sicrhau cydraddoldeb i staff o bob sector sy’n gweithio gyda dysgwyr 14-19 oed.”

Clywch, clywch! Dywed yr NTfW bod angen i hyn ddigwydd yn awr er budd ein gweithlu proffesiynol. Bydd rhywbryd yn y dyfodol yn rhy hwyr a bydd yn dal i gael effaith negyddol ar yr ymgais i sicrhau’r un parch i bawb.

Mae’r Ffederasiwn wedi cyfrannu tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy’n craffu ar y Bil a gobeithio y cawn ein gwahodd i gynnig tystiolaeth lafar. Yn ein hymateb, y cyfan a wnaethom oedd mynegi ein siom a thynnu sylw at y cyfle a gollwyd i hyrwyddo dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Mae angen rhoi lle amlwg i ddysgu seiliedig ar waith yn y Bil hwn, nid ei wthio i mewn wedyn, ar ôl sefydlu Cyngor y Gweithlu Addysg. Byddwn yn dal ati i bwyso ar y mater pwysig hwn wrth i’r Bil fynd trwy’r cyfnod craffu, hyd at 20 Tachwedd.

More News Articles

  —