Cwmni o Dreffynnon yn llwyddo diolch i Dwf Swyddi Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, yn ymweld â Threffynnon heddiw i weld sut mae Twf Swyddi Cymru wedi helpu cwmni dylunio graffeg Daydream Designs i ehangu ei wasanaethau a throi cyfle gwaith yn swydd amser llawn.

Mae’r ymweliad yn digwydd wrth i’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y rhaglen hon, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ddangos ei bod yn parhau i ragori ar ei thargedau. Ar 10 Awst, roedd 8,349 o gyfleoedd gwaith wedi’u creu, a 6,352 o bobl ifanc wedi manteisio arnynt.

Mae Daydream Designs yn creu dyluniadau pwrpasol â llaw, gan gynnig gwasanaethau megis creu gwefannau, marchnata ar y we, datblygu brandiau a chreu arwyddion.

Mae Ffion Malwala wedi parhau i greu argraff ers iddi ddechrau ei chyfle gwaith chwe mis drwy’r darparwr hyfforddiant Coleg Cambria. Bellach mae’n weithiwr amser llawn sy’n chwarae rhan flaenllaw yng nghynhyrchiant ac ehangiad y cwmni.

Hyd yn hyn, mae 78% o’r bobl ifanc sydd wedi manteisio ar gyfleoedd gwaith Twf Swyddi Cymru wedi symud ymlaen i swyddi parhaol.

Yn ôl Daydream Desgins, mae elw’r cwmni ym maes Dylunio Graffeg wedi cynyddu 94% o ganlyniad i gyflogi Ffion.

Dywedodd Rob Saunders, Cyfarwyddwr Daydream Designs “Drwy gyflogi dylunydd ychwanegol yn y rôl hon, mae Daydream Designs wedi gallu datblygu ei gynhyrchiant a hefyd yr amrywiaeth o wasanaethau a gynigir gennym. “Mae hyn yn bennaf oherwydd agwedd flaengar ac arloesol Ffion at ei swydd a’i brwdfrydedd cyffredinol – sydd wedi creu argraff fawr arnom o’r cychwyn cyntaf.”

Dywedodd Ffion Malwala “Rwy’n teimlo mod i wedi datblygu’n fawr yn y rôl hon. Pan ddechreuais ar y gwaith, roeddwn yn newydd iawn i’r byd dylunio masnachol. Rwyf bellach yn hyderus i arwain prosiectau – rheoli amserlenni, disgwyliadau ac anghenion cleientiaid a’r broses gynhyrchu.”

Diolch i enwebiad gan Daydream Designs, mae Ffion ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaeth Cymru a gynhelir ar 18 Hydref.

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg “Mae’r ffigurau diweddaraf yn dweud y cyfan: mae Twf Sgiliau Cymru yn llwyddiant. Fel rydym wedi dweud o’r dechrau, un o brif fesurau llwyddiant y rhaglen yw faint o’r cyfleoedd gwaith sy’n parhau y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o 6 mis. Mae Ffion yn enghraifft arall o berson ifanc sydd wedi profi llwyddiant mawr drwy’r cyfle gwaith a gafodd ac wedi mynd ymlaen i gael swydd amser llawn gyda’r un cyflogwr. Mae’n glir faint mae Daydream Designs yn gwerthfawrogi gwaith Ffion. Mae’n amlwg ei bod wedi cael effaith fawr ar y cwmni gan eu helpu i ddatblygu ac ehangu a chynyddu ei elw. Dengys hyn faint o wahaniaeth all Twf Swyddi Cymru ei wneud i berson ifanc a’i gyflogwr.”

More News Articles

  —