Gwobr Genedlaethol i April sy’n Batrum i Ferched ym Myd Amaeth

Postiwyd ar gan karen.smith

April Davies gyda’i gwobr Prentis y Flwyddyn.

Mae merch ifanc sy’n batrwm ar gyfer eraill sy’n dymuno cael gyrfa ym myd amaeth, sy’n dal yn llawn dynion, wedi ennill gwobr Prentis y Flwyddyn, Cymru.

Cyflwynwyd y wobr i April Davies, 21 oed, o Ddolfor, ger y Drenewydd, yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2013, a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

“Mae’n deimlad rhyfeddol ennill y wobr a chael fy nghydnabod am wneud rhywbeth sy’n wahanol i’r hyn y mae merched yn arfer ei wneud,” meddai April. “Roedd yn deimlad ‘Waw’ pan glywais fy mod wedi ennill gwobr mor fawr â hon.”

The awards recognise the outstanding achievements of learners, employers and providers involved in the delivery of quality apprenticeships and other work-based learning programmes across Wales. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn ogystal â gorfod ymdopi â’r ffaith nad oedd ganddi gefndir amaethyddol, April oedd yr unig ferch ar ei chwrs dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Powys (campws y Drenewydd, Grŵp NPTC erbyn hyn) am bedair blynedd.

Serch hynny, aeth yn ei blaen i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Amaethyddiaeth. Roedd yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos tra oedd yn gweithio i Ben Beddoes ar ei fferm, Common Piece Farm, yr Ystog, a’i fusnes hufen iâ Dairy Dreams.

Roedd ei lleoliad gwaith yn golygu ei bod yn gorfod cyrraedd y fferm erbyn pump o’r gloch y bore weithiau i helpu i odro ac roedd yn cael blas ar bob agwedd ar y busnes, yn cynnwys defnyddio peiriannau mawr y fferm a helpu i redeg a hyrwyddo’r busnes hufen iâ.
Erbyn hyn, mae Lantra, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Diwydiannau’r Tir, yn defnyddio April, fel astudiaeth achos i ddenu merched ifanc eraill i’r diwydiant.

“Roeddwn i’n gwybod y byddai’n anodd gan nad ydw i’n dod o deulu amaethyddol ond roeddwn i’n benderfynol o lwyddo,” meddai. “Rwy wedi bod yn lwcus iawn i gael lleoliad gwaith gyda chyflogwr sydd â ffydd yn fy ngallu ac mae wedi rhoi cyfle i mi roi’r sgiliau busnes a ddysgais yn y coleg ar waith ar y fferm ac yn y busnes hufen iâ.”

Yn ogystal â’i swydd lawn amser, mae April wedi cychwyn ffermio defaid ar raddfa fach ac mae’n gobeithio datblygu hyn yn y dyfodol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: “Mae’r Gwobrau Prentisiaethau yn gyfle i ni ddathlu’r gwahanol sgiliau sydd gan ein pobl ifanc i’w cynnig a’r ymroddiad a ddangosir gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr haeddiannol.

“Roedd yn bleser gwirioneddol cael cyfarfod â phobl ifanc sy’n gweithio mor galed, sydd mor uchelgeisiol ac sydd wedi cyflawni cymaint, a’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant sydd wedi mynd yr ail filltir i helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial. Maen nhw’n haeddu eu canmol ac yn ysbrydoliaeth i bobl eraill.

“Mae’r cyhoeddiad am y gyllideb yn ddiweddar wedi cadarnhau y daw £12.5 miliwn yn ychwanegol i ymestyn ein rhaglen Twf Swyddi Cymru am bedwaredd flwyddyn. Mae hyn yn golygu y gallwn greu dros 4,000 o swyddi ychwanegol ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn 2015-16. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £20 miliwn arall yn 2015-16 i gefnogi prentisiaethau. Mae hyn yn newyddion gwych i’n pobl ifanc a’n cyflogwyr ni a bydd yn golygu y gallwn wneud gwahaniaeth mawr.”

Mae’r gwobrau, sy’n tynnu sylw at ragoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, yn cael eu noddi gan Pearson PLC gyda chymorth ein partner yn y cyfryngau, Media Wales.

More News Articles

  —