Blwyddyn gofiadwy i Matthew’r cigydd o Gymru
Bu’n flwyddyn gofiadwy i’r cigydd ifanc o Gymru, Matthew Edwards, ers iddo gyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (Gwobrau VQ) yng Nghymru yn 2014.
Mae Matthew, 23 oed, sy’n gweithio i S.A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd yn y Swistir ac wedi’i enwi’n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru.
A’r penwythnos diwethaf, enillodd y llysgennad ar gyfer prentisiaethau rownd Cymru yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth gyntaf Worldskills UK. Rhaid iddo nawr aros tan fis Awst i weld a ydyw’n un o’r chwe chigydd uchaf eu sgôr o rowndiau cyfunol Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr i gymhwyso am rownd derfynol y Sioe Sgiliau, a gynhelir yn yr NEC Birmingham o 19 i 21 Tachwedd.
Mae’r Matthew diymhongar yn eithaf digyffro am y cyfan. Dywed mai’r cymwysterau galwedigaethol a enillodd a’r gefnogaeth i hyfforddi a gafodd gan ei gyflogwr Steve Vaughan a’r darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng sydd wrth wraidd ei lwyddiant.
O gael ei gymell gan ei ddymuniad i fod y cigydd gorau posibl, breuddwydia Matthew o berchen ar y siop lle mae’n gweithio un diwrnod. Wedi cyflawni Prentisiaeth Sylfaen, mae’n gweithio nawr tuag at Brentisiaeth mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod ac mae’n bwriadu symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd i roi iddo’r sgiliau i redeg busnes.
Mae Matthew yn hyrwyddwr mawr o gymwysterau galwedigaethol a dysgu yn y gwaith ac fe ddychwelodd i’w hen ysgol, sef Ysgol Gyfun Castell Alun, Yr Hob ger Wrecsam yn ddiweddar i siarad am brentisiaethau mewn rôl lysgenhadol.
“Dewisais brentisiaeth i ddatblygu fy nealltwriaeth o gigyddiaeth ac i ddysgu popeth a allaf i’m helpu i gyflawni fy nod o berchen ar siop gigydd a throsglwyddo fy ngwybodaeth i gigyddion ifanc a brwd eraill,” meddai.
“Rydw i wedi datblygu fy sgiliau trwy ddysgu yn y gwaith ac o gael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Heb os, byddwn i ddim wedi cyrraedd lle ydw i heddiw heb gymwysterau galwedigaethol a’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan Steve a Helen Vaughan.”
Cynhelir y Gwobrau VQ yng Nghymru ar 9 Mehefin eleni a’r Diwrnod VQ cenedlaethol y diwrnod canlynol. Mae’r Diwrnod VQ yn ddathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru.
Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn bwysicach i’r economi a’r unigolyn; cyflwynant y cyflogeion hyfforddedig, talentog y mae busnesau’n gweiddi amdanynt ac yn sicrhau bod gan y bobl ifanc y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.
Cynorthwya Gwobrau VQ i roi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol. Trefnir y Gwobrau VQ yng Nghymru gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru. Ariennir y gwobrau a phrentisiaeth Matthew yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Ceir dau gategori gwobrau: Dysgwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu rhoi ar y rhestr fer o geisiadau ac yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd ar 9 Mehefin.
More News Articles
« Trin gwallt yn agor y drws i fyd o gyfleoedd i’r cyfarwyddwr artistig Casey — Simon yn perffeithio’i sgiliau gwaith coed i gystadlu yn erbyn goreuon y byd »