Trin gwallt yn agor y drws i fyd o gyfleoedd i’r cyfarwyddwr artistig Casey

Postiwyd ar gan karen.smith

18.05.15 mh VQ  Casey Coleman 1

Mae trin gwallt yn fwy na megis swydd o naw i bump, yn ôl Casey Coleman, y cyfarwyddwr artistig yn Ocean Hairdressing yng Nghaerdydd.

Esbonia Casey sut mae a wnelo’r diwydiant llawer mwy â chreadigedd gyda’r cyfle am yrfa mewn salonau, ond hefyd mewn steilio a dylunio ffasiwn, teledu a ffilmiau.

Ar ôl gweithio am gyfnod byr mewn salon, aeth ymlaen i weithio mewn canolfan alwadau cyn dychwelyd i addysg amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe lle dechreuodd ei gariad at drin gwallt.

“Roeddwn i am fod yn gynllunydd ffasiwn. Heb fynd i’r coleg yn amser llawn i ddechrau, fyddwn i ddim wedi datblygu i fod y steilydd ydw i nawr,” meddai Casey.

Ers hynny, mae wedi parhau â’i yrfa, gan ddod yn steilydd heb ei ail yn ei faes a chan deithio’r byd yn gweithio gyda’r brandiau mawr, yn ogystal ag yn Wythnos Ffasiwn Llundain a chael ei gynnwys yn Vogue.

Ond wrth wraidd ei lwyddiant oedd ei ddatblygiad parhaus gyda chymwysterau galwedigaethol. Astudiodd a phasiodd NVQ Lefel 2 a Lefel 3 mewn trin gwallt, NVQ Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr ac NVQ Lefel 1 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid trwy’r darparwr hyfforddiant Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae ei daith addysgol wedi ennill lle iddo yn rownd derfynol Gwobrau VQ mawreddog eleni. Mae’n un o chwech yn y rownd derfynol sy’n cystadlu am y teitl Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin, y noson cyn Diwrnod VQ, yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol – dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.

“Does dim ots ble ydych chi yn eich gyrfa, mae addysg barhaus a’r gallu i ddatblygu’ch sgiliau’n hollbwysig,” meddai. Mae angen i chi gadw dilyn cyrsiau ac ennill cymwysterau i sicrhau eich bod yn aros o flaen y gêm.

“Rhaid i chi gadw’n ddiymhongar. Mae mynd nôl i’r coleg ac yn astudio wrth weithio’n gwneud i chi edrych ar bopeth a wnewch ac yn eich helpu chi i wneud cynnydd.

“Hyd yn oed ar lefel cyfarwyddwr yn y salon, mae angen i chi sicrhau eich bod yn parhau â’r hyfforddiant ac rydym yn hyrwyddo dilyniant parhaus ar hyd y busnes trwy ddefnyddio cymwysterau a hyfforddiant.”

Dywedodd Bernie Wilkes, rheolwr y maes dysgu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Mae Casey’n wir ysbrydoliaeth i fyfyrwyr trin gwallt heddiw ac i’r dyfodol.”

Y dysgwyr eraill sydd yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn yw: James Pepper, 39, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol ar Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; cyn-ddysgwyr Coleg Penybont Michael Whippey, 23, prif hyfforddwr yng Nghanolfan Farchogaeth Fferm Shardeloes, Amersham; Paul Wiggins, 35, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yn Insurance Services BPW, Casnewydd; Serena Torrance, cyn ddysgwyr Ngholeg Penybont, 23, o Faesteg sy’n cymryd gradd troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r cyn ddysgwyr Coleg Sir Gâr Simon McCall, 21, o Capel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos yn glir dilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi llwyddo’n sylweddol yn eu maes.

Gan longyfarch Casey a’r pump arall sydd yn rownd derfynol Gwobrau VQ, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:

“Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,” meddai. “Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmnïoedd, a chwsmeriaid.

“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a’r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.”

More News Articles

  —