Mae ffederasiwn o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o Gymru wedi croesawu ymrwymiad yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 i fuddsoddi £18 miliwn yn ychwanegol mewn prentisiaethau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyfanswm o £140m ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW): “Rydyn ni’n croesawu’r £18 miliwn ychwanegol sydd i’w fuddsoddi mewn prentisiaethau yn unol â blaenoriaethau strategol yr NTfW a’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.
“Mae’r ymrwymiad hwn yn parhau â rhaglen uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yn gynharach eleni, i ddarparu 125,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Senedd hon.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i drafod gyda’r Gweinidog a gweld sut mae’r buddsoddiad yn gweithio o ran contractau yn y flwyddyn sydd i ddod.”
Mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru sy’n darparu prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru.