Mae Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli! yn cael eu cydgysylltu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, Colegau Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Prifysgolion Cymru a Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru.
Y tu ôl i bob oedolyn llwyddiannus o ddysgwr mae yna diwtoriaid a mentoriaid sy’n ymroi i gyflwyno dysgu gydol oes, gan gyfrannu at genedlaethau’r dyfodol, a grymuso unigolion a chymunedau i agor drysau, darganfod llwybrau, a thrawsnewid eu bywydau trwy addysg.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd pobl i enwebu tiwtoriaid rhagorol yng Nghymru y mae eu hymroddiad, eu gwybodaeth a’u sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder a’r cymhelliant i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a byw bywydau iachach, llewyrchus.
Yn ogystal, bydd y gwobrau’n cydnabod eu cyfraniad gwerthfawr tuag at yr uchelgais i Gymru ddod yn genedl yr ail gyfle.
Categorïau’r gwobrau:
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Gweithle
Addysg Gymunedol
Cymraeg i Oedolion
Ysgol neu leoliad arall
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw dydd Llun 16 Ionawr 2023.