Hyder digidol – camu ymlaen!

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Wrth ddefnyddio fersiwn wedi’i theilwra o wasanaeth Mewnwelediadau Profiad Digidol Jisc gwelwyd bod hyder a gallu digidol staff addysgu ym maes dysgu seiliedig ar waith (DSW) wedi cynyddu’n sylweddol o 37% yn 2019 i 59% yn 2021. O ystyried manteision dysgu cyfunol a defnyddio technoleg i gefnogi dysgwyr gwasgaredig, mae angen llongyfarch pobl am hyn, yn sicr. Ar y llaw arall, mae’r ffaith bod dros draean o’r staff addysgu yn dal yn ansicr a heb lawer o hyder digidol yn dipyn o her. Felly, er bod camau breision wedi’u cymryd, mae mwy i’w wneud, fel bob amser, i gefnogi cydweithwyr a dysgwyr.

I’r perwyl hwnnw, rydym wrthi’n gweithio ar nifer o brosiectau i gefnogi datblygiad proffesiynol digidol, a rhoddir crynodeb ohonynt yma.

JISC infographic

Dylunio Dysgu
Y llynedd, cyhoeddodd Estyn Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol a oedd yn gwneud nifer o argymhellion, yn cynnwys bod Llywodraeth Cymru’n:

    Comisiynu dysgu proffesiynol ar gyfer y sector ôl-16, sy’n rhad ac am ddim i ddarparwyr ac yn eu helpu i ddatblygu arbenigedd penodol mewn dylunio, addysgu, hyfforddiant a dysgu o ran dysgu cyfunol a dysgu o bell ar gyfer eu sector i leihau amrywioldeb yn ansawdd y ddarpariaeth.

Mewn ymateb, rhoddodd Llywodraeth Cymru y dasg i Jisc o ddatblygu cyfres o weithdai i gefnogi’r gwaith o ddylunio dysgu o bell a dysgu cyfunol effeithiol, wedi’u haddasu ar gyfer ymarferwyr Addysg Bellach (AB), Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Oedolion yn y Gymuned, gan gydnabod gwahanol gyfleoedd, heriau a dulliau gweithredu pob sector. Cynlluniwyd y gweithdai i gael eu cyflwyno ar yr un pryd er mwyn cydweithio a rhannu profiadau.

Yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus, mae Jisc bellach wrthi’n datblygu cyfres o adnoddau na chaiff eu cyflwyno ar yr un pryd, wedi’u trefnu fesul tipyn bach fel y gall yr ymarferwyr ddysgu mewn ffordd hyblyg, ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw. Caiff yr adnoddau eu cyhoeddi, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar Hwb yn yr haf eleni.

Meithrin gallu digidol
Mae gwasanaeth Jisc, building digital capability (BDC), yn cael ei gynnig fel gwasanaeth cynhwysol i ddarparwyr hyfforddiant a sefydliadau Addysg Bellach i gydnabod yr angen i gyflymu twf yng ngalluoedd a hyder digidol ymarferwyr dysgu. Mae ‘discovery tool’ BDC yn galluogi staff a myfyrwyr i fyfyrio ar eu galluoedd digidol ac yn eu helpu i:

  • Nodi cryfderau cyfredol a meysydd i’w datblygu. Mae’n rhoi adroddiad personol i staff a myfyrwyr gydag awgrymiadau am y camau nesaf ac adnoddau
  • Canfod cyfleoedd lleol i ddatblygu
  • Rhoi darlun o’r ffordd y mae staff a myfyrwyr yn teimlo am eu sgiliau digidol gyda dangosfyrddau data

Yng Nghymru rydym wedi sefydlu model cenedlaethol wedi’i grwpio fel y gall Jisc weld data cyfanredol, dienw am y sector gan ein galluogi i nodi heriau a rennir a datblygu ffyrdd priodol o’u datrys.

Cwrs Crafted teaching: active learning
Bwriedir cynnal cwrs addysgeg ‘crafted teaching: active learning’ rhwng 11 Mai a 29 Mehefin. Mae’n gwrs achrededig, digidol, rhyngweithiol iawn. Ei fwriad yw helpu darparwyr prentisiaethau i adfer rhagoriaeth addysgu. Defnyddir dull ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ i feithrin cynaliadwyedd a pharatoi’r ffordd ar gyfer newidiadau ym maes addysgu a dysgu yn y sector. Mae’r cwrs ar gael am ddim gyda dau le ar gael i bob deiliad contract a gomisiynwyd neu gynrychiolydd priodol.

Offeryn dilysu digidol
Newydd sbon! Lansiwyd y digital elevation tool (DET) yn Digifest Jisc 2022. Ei fwriad yw rhoi offeryn hunanasesu ar-lein i uwch-arweinwyr strategol mewn Addysg Bellach a sefydliadau sgiliau fel y gallant ddilysu sefyllfa gyfredol eu sefydliad yn erbyn pum thema allweddol a mapio’u taith ddigidol ym mhob un o feysydd y model digidol. Os hoffech fod ymhlith y cyntaf i fabwysiadu’r gwasanaeth newydd hwn, rhowch wybod i ni.

Beth nesaf?
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r prosiectau hyn, cysylltwch â rheolwr eich cyfrif yn Jisc a fydd yn falch o’ch helpu.

Alyson Nicholson, Pennaeth Jisc Cymru
Ebost: Alyson.Nicholson@Jisc.ac.uk

Sylwch: Ariannir Jisc gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector DSW yng Nghymru trwy’r deiliaid contractau a gomisiynir, a hynny trwy ddull rhaeadru.

JISC Wales

More News Articles

  —