Chwant rhagor o brentisiaethau ar gwmni bwyd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Elfen ganolog yn llwyddiant un o brif gyflogwyr Merthyr Tudful i feithrin gweithlu medrus yw’r gallu i greu ei hyfforddwyr mewnol ei hun i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr.

Mae Kepak Group Limited yn buddsoddi yn ei ddoniau a’i gyfleusterau ei hunan fel rhan o strategaeth dysgu a datblygu egnïol, gyda chynllun ar gyfer datblygu sgiliau, prentisiaethau, cynllunio olyniaeth a datblygu rheolwyr.

Trainee butcher Henry cutting meat on butcher's table

Henry Lawson, cigydd dan hyfforddiant yn y Kepak Group.

“Yn fuan iawn, datblygodd hwn yn fframwaith sy’n troi gweithwyr di-grefft yn weithwyr lled-grefftus mewn dim ond tri mis,” meddai Jeremy Jones, rheolwr gweithrediadau adnoddau dynol gyda’r cwmni bwyd rhyngwladol sy’n arbenigo mewn cynhyrchu cig ar safle Merthyr Tudful.

“Yna, maen nhw’n symud ymlaen yn syth i brentisiaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhaglen â’n matrics hyfforddi ym mhob adran ac mae angen o leiaf 17 o dasgau ar bob prentis er mwyn dod yn gwbl grefftus.”

Yn awr, mae Kepak Group wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.

Ddim ond 18 mis ar ôl i Kepak fabwysiadu’r drefn hyfforddi newydd hon sy’n seiliedig ar waith, mae’r cwmni eisoes wedi elwa o weld gostyngiad o 15% yn nhrosiant staff ac mae’r prentisiaid cyntaf eisoes yn symud i fyny i swyddi uwch.

Ar hyn o bryd, mae deugain o weithwyr yn dilyn prentisiaethau sy’n cynnwys Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod (Lefelau 2 a 3), Sgiliau’r Diwydiant Bwyd (Lefelau 2 a 3), Arwain Tîm Bwyd (Lefel 2), Rheoli Bwyd (Lefel 3), Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd (Lefel 4), a Rheolaeth (Lefel 4 a 5). Goruchwylir pob cwrs gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae’r prentisiaethau wedi arwain at well perfformiad ac elw mewn adrannau lle mae prentisiaid yn dysgu eu crefft, gyda hyfforddwyr i ffwrdd o’r gwaith yn goruchwylio eu datblygiad ac yn creu cynlluniau dysgu unigol mewn cydweithrediad â’u darparwr hyfforddiant.

Gyda dros 800 o weithwyr ar ei lyfrau, mae gan y cwmni gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y dysgwyr fel bod tua 100 yn gwneud prentisiaeth ar y tro. Bydd hyn yn cynnwys staff newydd, staff presennol sy’n symud i swyddi newydd a phrentisiaid sy’n symud ymlaen i brentisiaeth ar y lefel nesaf.

Datblygwyd y strategaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian a dywedodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes y cwmni ym maes gweithgynhyrchu bwyd: “Yn syml iawn, mae Kepak wedi ymrwymo 100% i’r rhaglen brentisiaethau ac i’w staff.

“Maen nhw’n buddsoddi yn eu staff ac yn y gymuned leol er mwyn gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol a dylid eu defnyddio fel patrwm o sut i gynnal rhaglen brentisiaethau er mwyn cadw gweithlu am oes.”

Wrth longyfarch Kepak Group a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.

“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

Hyfforddiant Cambrian

llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —