Trafnidiaeth Cymru yn codi stêm i ennill gwobr brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae rhaglen brentisiaeth arloesol i yrwyr trenau wedi rhoi cyfle gwych i Trafnidiaeth Cymru ennill gwobr genedlaethol y mae pawb am ei hennill.

Transport for Wales receiving their award

Adam Bagwell o Trafnidiaeth Cymru yn derbyn gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn gan Bridget Moseley, pennaeth prentisiaethau ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, noddwr y categori.

Trafnidiaeth Cymru a enillodd y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yn seremoni wobrwyo Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau arbenigol a sefydliad dyfarnu ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2015 fel cwmni nid-er-elw i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth. Maent wedi croesawu dysgu seiliedig ar waith drwy recriwtio cannoedd o brentisiaid er mwyn gwella perfformiad a chynaliadwyedd y cwmni yn y tymor hir.

Recriwtiwyd y don gyntaf o brentisiaid yn 2019, ac erbyn 2021, roedd Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno’r rhaglen brentisiaeth gyntaf o’i bath i yrwyr trenau dan hyfforddiant yn y Deyrnas Unedig wedi’i dylunio mewn cydweithrediad â’r corff dyfarnu, EAL, a’i darparu mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd.

Mae’r rhaglen brentisiaeth eisoes wedi annog llu o recriwtiaid newydd o wahanol gefndiroedd i ymuno â’r diwydiant rheilffyrdd, gyda’r nod o ddenu mwy na 150 o brentisiaid newydd y flwyddyn dros y tair i bum mlynedd nesaf.

Ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflogi 189 o brentisiaid ac mae wedi recriwtio mwy na 300 dros y pum mlynedd diwethaf. Mae prentisiaethau, sydd hefyd yn cael eu darparu gan ALS Training, ar gael ar draws 12 maes o’r busnes ac maent yn cefnogi cynlluniau trawsnewid Trafnidiaeth Cymru.

Gan ganolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant, mae’r prentisiaethau wedi darparu cronfa gynaliadwy o dalent sy’n gydnaws â nodau ac amcanion y sefydliad, fel yr amlinellir yn ei strategaeth gorfforaethol a’i gynllun cydraddoldeb strategol.

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Adam Bagwell, rheolwr hyfforddiant gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Ar ôl blynyddoedd o waith caled, mae ennill y wobr wych hon yn coronni’r cwbl. Mae wedi bod yn ymdrech hir i gyrraedd y pwynt yma , ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr arbennig hon.

“Rydyn ni’n mynd trwy gyfnod o drawsnewid enfawr, ac mae angen llawer mwy o yrwyr a phobl mewn ystod o rolau y tu ôl i’r llenni.”

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig Trafnidiaeth Cymru ac enillwyr eraill y Gwobrau, ond hefyd yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.

“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw’n rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —