Entrepreneur clustogwaith o Ganolbarth Cymru yn ychwanegu gwobr prentisiaeth at ei chasgliad

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae’r entrepreneur Dr Ali J. Wright, sy’n awyddus i sefydlu academi hyfforddi clustogwaith yn y Canolbarth, wedi ychwanegu gwobr brentisiaeth o fri at ei chasgliad cynyddol o wobrau.

Needle Rock receiving their award.

Perchennog Needle Rock Dr Ali J. Wright yn derbyn gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn gan Richard Spear, rheolwr gyfarwyddwr ACT Limited, y noddwr.

Cafodd Needle Rock, sef cwmni Ali sydd wedi ei leoli yn Llanrhystud, ger Aberystwyth, ers 2013, ei enwi’n Gyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024, a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.

Mae Ali yn gyn-arolygydd iechyd planhigion i Lywodraeth y DU, ond mae bellach yn meithrin prentisiaid ar ôl troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes ar gyfer creu clustogwaith unigryw ac arbennig sydd wedi ennill gwobrau.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru, sy’n cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau arbenigol a sefydliad dyfarnu ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n arddangos llwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae Needle Rockwedi yn gwmni sydd wedi ei achredu gan yr Association of Master Upholsterers and Soft Furnishers, ac mae’n cynnig portffolio amrywiol o glustogwaith traddodiadol a modern ar gyfer cartrefi, tafarndai, clybiau, bwytai, carafanau, cychod cul a chartrefi modur.

“Dw i wrth fy modd yn llwyr, mae’n anhygoel cael cydnabyddiaeth fel hyn,” meddai Ali, a oedd yn teimlo’n eithaf emosiynol ar ôl derbyn y wobr.

“Dw i wedi bod mewn busnes ers 11 mlynedd ac wedi bod yn meithrin prentisiaid am y tair blynedd diwethaf gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

“Bydd y wobr hon yn dod â chyhoeddusrwydd i’r cwmni a dw i hefyd yn awyddus i sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock. Dw i’n teimlo fy mod i wedi bod ar daith ar ôl cael gwahanol yrfaoedd sydd wedi f’arwain at yr union fan lle dw i heddiw. Hwn yw’r darn olaf o’r jig-so fel petai.

“Mae buddsoddi mewn gweithwyr ifanc yn golygu lot fawr o waith ond mae hefyd yn dod â budd sylweddol. Mae cyfraniad ein prentisiaid at fusnes Needle Rock wedi bod yn anhygoel. Mae trosiant y cwmni wedi treblu, ac mae ein gweithdy bellach ar agor am 50 o wythnosau’r flwyddyn.”

Enillodd y cwmni wobr Microfusnes y Flwyddyn 2023 y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac mae ganddo bedwar gweithiwr a gafodd eu recriwtio gyda chymorth dwy o raglenni Llywodraeth Cymru, sef y rhaglen flaenorol, Kickstart, a’r rhaglen bresennol Thwf Swyddi Cymru +.

Uchelgais Ali yw sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock i lenwi’r bwlch ar gyfer prentisiaethau clustogwaith yng Nghymru, ac mae am greu fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 ar gyfer Sgiliau Clustogwaith Uwch.

Mae dau brentis cyntaf Needle Rock, Roselin Morgan a Jason Vale wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu, ac maent bellach wedi cofrestru ar Brentisiaeth Lefel 2 arall mewn Technegau Gwella Busnes.

Fis Tachwedd diwethaf, enillodd Jason wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Academi Sgiliau Cymru 2023. Ar hyn o bryd mae Jason a Roselin yn mentora’r ddau aelod diweddaraf sy’n dilyn yr un llwybr dysgu, ac yn cael eu tywys gan Myrick Training a Needle Rock.

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig Needle Rock a’r enillwyr eraill, ond hefyd yr holl gyflogwyr, prentisiaid, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.

“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch y cyfraniad mawr y gall prentisiaethau ei wneud yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw’n rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —