Busnes adeiladu teuluol o Orllewin Cymru yn ennill gwobr brentisiaeth uchel ei bri

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Cafodd busnes adeiladu teuluol llwyddiannus TRJ Cyf, a sefydlwyd gan y cyn-brentis T. Richard Jones yn 1935, ei enwi’n Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024.

TRJ receiving their award.

Mae swyddog gwerth cymdeithasol a hyfforddiant TRJ Cyf, Stuart Thomas, yn derbyn gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn gan Rachel Mooney, pennaeth dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau Addysg a Gwella Iechyd Cymru, noddwr.

Tua 89 mlynedd ar ôl i Mr Jones lansio’r busnes yn Rhydaman, mae TRJ yn dal i gyflogi prentisiaid, gan sicrhau llif cyson o dalent adeiladu ar gyfer y de-orllewin.

Mae trydedd genhedlaeth y teulu bellach yn rhedeg y cwmni sy’n cyflogi 160 o bobl – gan gynnwys 16 prentis – a thua 100 o is-gontractwyr lleol.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae TRJ wedi cyflogi 43 o brentisiaid, ac mae’n cefnogi rhaglenni prentisiaethau a rennir a rhaglenni prentisiaethau traddodiadol trwy Cyfle Building Skills a Choleg Sir Gâr.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau a sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd Stuart Thomas, swyddog gwerth cymdeithasol a hyfforddiant TRJ Cyf: “Mae cymaint o ymdrech yn mynd i mewn i brentisiaethau – fel rydyn ni wedi clywed gan y bobl anhygoel sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori heno – ac mae’n wych ein bod ni wedi cael ein cydnabod am gael pobl ar gam cyntaf eu gyrfa.

“Dw i mor falch dros TRJ ein bod ni wedi cyrraedd y safonau a’r rhagoriaeth uchel sydd eu hangen i ennill y wobr hon.

“Mae dysgu a datblygu yn rhan allweddol o ymrwymiad y cwmni i ddatblygu gyrfaoedd ein gweithwyr. “Dechreuodd y sylfaenydd ei yrfa fel saer prentis. Ac fe adeiladodd y cwmni gan bwysleisio wrth eraill bwysigrwydd addysg a datblygu.”

Mae prentisiaethau wrth wraidd TRJ Cyf, sy’n defnyddio’r dywediad ‘adeiladu ar sylfaen gadarn’. Mae naw o gyn-brentisiaid bellach yn meddu ar rolau rheoli neu oruchwylio. Cyflwynir ystod eang o brentisiaethau masnach adeiladu gan Goleg Sir Gâr, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Penybont.

Mae cyfarwyddwr TRJ Cyf, Owain Jones, yn ymddiriedolwr CITB ac yn ymwneud â’r gwaith o ddatblygu model cyflawni newydd ar gyfer hyfforddiant adeiladu. Treialodd y cwmni Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil, mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr a CITB. Cwblhawyd y cwrs gan 30 o brentisiaid.

Mae prentisiaid yn dysgu amrywiaeth o sgiliau adeiladu ar draws y busnes, gyda chymorth porth dysgu ar-lein.

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fe hoffwn i longyfarch nid yn unig TRJ Cyf ac enillwyr eraill y Gwobrau, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.

“Mae’n bwysig arddangos eu llwyddiannau, gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Dw i am longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae eu straeon nhw ynghylch yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael yn drawiadol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaol a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Fe fyddan nhw’n rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —