Prentisiaethau yn rhan annatod o dwf darparwr gofal plant yn y De

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Little Inspirations director Jenine Gill with members of her team.

Cyfarwyddwr Little Inspirations, Jenine Gill, gydag aelodau o’i thîm.

Mae rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan annatod o dwf llwyddiannus Little Inspirations, darparwr gofal plant yn y de sydd wedi ennill sawl gwobr.

Ers ei ffurfio 20 mlynedd yn ôl, mae’r cwmni o Bontyclun wedi tyfu o un lleoliad i naw, ac erbyn hyn mae ganddo weithlu o 123. Darperir cyfleusterau gofal ar gyfer plant rhwng chwe wythnos a 12 oed o fwy na 400 o deuluoedd bob dydd ar draws Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Casnewydd a Merthyr Tudful.

Ar hyn o bryd mae gan y cwmni 20 o brentisiaid, ar ôl cyflogi 39 dros yr 17 mlynedd diwethaf. Mae cyfraddau cadw staff y cwmni ymhell yn uwch na chyfartaledd y diwydiant. Mae prentisiaethau yn gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn darparu llwybrau gyrfa iddynt.

‌Mae Little Inspirations bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 ar gyfer rownd derfynol Cyflogwr Canolig y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r darparwr hyfforddiant Educ8 Training yn gweithio’n agos gyda Little Inspirations i ddarparu prentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 5 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, Gwaith Chwarae, Rheoli, Gwasanaeth Cwsmeriaid ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae straeon am lwyddiant prentisiaid sy’n datblygu o fod ag ychydig gymwysterau i ddod yn rheolwyr, diolch i’r sgiliau a’r wybodaeth y maent wedi’u hennill, yn ysbrydoli recriwtiaid newydd.

Gan arwain drwy esiampl, mae cyfarwyddwr Little Inspirations, Jenine Gill, wedi cwblhau Prentisiaethau Uwch (Lefel 5) yn ogystal â TAR mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Er gwaethaf heriau’r pandemig, mae’r cwmni ar y blaen i darged cynllun busnes pum mlynedd a osodwyd yn 2020, wrth i’r elw gynyddu 69%.

“Mae ein rhaglen brentisiaethau wedi bod yn hynod o bwysig wrth alluogi’r cwmni i ehangu,” meddai Jenine, llysgennad brwd dros brentisiaethau sy’n hyrwyddo gofal plant fel gyrfa werth chweil. “Mae gennym dîm medrus, hyderus ac amrywiol iawn ac mae ein holl staff yn cael eu hannog i ddod â syniadau newydd i’r cwmni.”

Mae Jenine a Little Inspirations wedi ennill cyfres o wobrau cenedlaethol yn ystod y tair blynedd diwethaf, gan gynnwys Entrepreneur Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes De Cymru 2023.

Dywedodd Ann Nicholas, cyfarwyddwr cyfrifon cwsmeriaid Educ8 Training: “Mae ymrwymiad rhagorol Little Inspirations i brentisiaethau yn disgleirio, gan gael effaith sylweddol ar feithrin twf a datblygiad staff. Mae eu brwdfrydedd dros ddysgu seiliedig ar waith heb ei ail.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Little Inspirations a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Back to top>>

More News Articles

  —