Prentisiaethau yn sbarduno angerdd am addysg mewn ysgol gynradd

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Achieve More Training's Sebastian Vidal and Leah Wilde with apprentices Ceri Tait, Ruby Rose and Rebecca Jenkins, acting headteacher David Thomas and young pupils at Ysgol Maes y Felin, Holywell.

‌Achieve More Training gyda’r disgyblion ifanc Ysgol Maes y Felin.

Mae prentisiaethau wedi gwneud cyfraniad mawr i helpu Ysgol Maes y Felin i gyflawni ei hymrwymiad i ddarparu amgylchedd cefnogol a gofalgar sy’n tanio awydd gydol oes i ddysgu.

Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol gynradd yn Nhreffynnon bum prentis ond mae wedi cyflogi 27 dros y pum mlynedd diwethaf. Cyflwynir prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 mewn Gwasanaethau Addysgu a Dysgu Arbenigol, Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM mewn partneriaeth ag Achieve More Training.

Yn ôl y pennaeth dros dro, David Thomas, mae’r bartneriaeth yn gweithio’n dda ac yn cyflawni cenhadaeth yr ysgol i feithrin talent, ehangu gorwelion ac annog hunan-gred.

Bellach, mae’r ysgol ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn rownd derfynol Cyflogwr Canolig y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Trwy feithrin, mentora a buddsoddi yn nhwf prentisiaid, mae Ysgol Maes y Felin yn magu gweithlu ffyddlon a medrus sy’n darparu addysg o ansawdd uchel i’r disgyblion.

Mae’r prentisiaethau wedi’u teilwra i anghenion dysgwyr unigol, gyda’r rhai sy’n awyddus i ddod yn athrawon yn derbyn cefnogaeth bersonol i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi. Defnyddir offer digidol, llwyfannau ar-lein, meddalwedd addysgol ac efelychiadau rhithwir i gynnig cyfleoedd dysgu rhyngweithiol a deniadol.

Er mwyn helpu i recriwtio a chadw staff, cyflwynwyd mentrau i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, gyda’r prentisiaethau yn cael eu hyrwyddo yn y gymuned leol ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.

“Drwy gynnig prentisiaethau, rydyn ni wedi gallu manteisio ar grŵp o unigolion talentog sy’n cynnig safbwyntiau newydd, syniadau arloesol ac angerdd am addysg,” meddai Mr Thomas. “Mae eu cyfraniadau wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar gynhyrchiant, effeithiolrwydd a llwyddiant cyffredinol yr ysgol.

“Mae prentisiaethau wedi ein helpu ni i feithrin diwylliant o ddysgu a datblygu proffesiynol parhaus, gan godi ansawdd cyffredinol ein staff.”

Canmolodd Matthew Hilliker, Cyfarwyddwr Achieve More Training, ymrwymiad eithriadol yr ysgol i ddatblygu a chyflwyno rhaglen brentisiaeth ragorol.

“Trwy gydweithio ag Achieve More Training, mae’r ysgol yn sicrhau bod y rhaglen yn parhau’n berthnasol ac yn diwallu anghenion dysgwyr a’r sector addysg, sy’n newid yn gyson,” meddai.

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething Ysgol Maes Y Felin a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol.”‌

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 603000.

Back to top>>

More News Articles

  —