Gyrfa Megan yn cyrraedd yr entrychion mewn cwmni awyrofod diolch i brentisiaeth

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae gyrfa’r llysgennad prentisiaethau peirianneg, Megan Christie yn cyrraedd yr entrychion gyda GE Aerospace Wales, Nantgarw lle mae’n aelod o dîm sy’n atgyweirio, cynnal ac ailwampio peiriannau awyrennau masnachol.

Megan Christie

Megan Christie, y mae ei gyrfa yn cyrraedd yr entrychion gyda GE Aerospace Wales.

Enillodd Megan, sy’n 21 oed ac yn byw yn Georgetown, Tredegar, wobr Ysbrydoli Sgiliau Cymru a medal arian fel rhan o dîm yn Rownd Derfynol WorldSkills UK yn 2022, a Gwobr Brentisiaeth yng Ngholeg y Cymoedd y llynedd.

Cafodd ei gwobrwyo am ei hymroddiad pan dderbyniodd farc rhagoriaeth ar gyfer pob un o’i 40 aseiniad yn ystod ei Phrentisiaeth mewn Peirianneg Awyrennol yng Ngholeg y Cymoedd.

Mae Megan bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 ar gyfer rownd derfynol Prentis y Flwyddyn.

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae Megan bellach yn astudio ar gyfer Gradd Peirianneg gyda Gradd Meistr Integredig mewn Peirianneg Dylunio (MEng) drwy’r Brifysgol Agored a fydd yn cymryd naw mlynedd ac yn arwain at ei nod yn y pen draw o fod yn Beiriannydd Siartredig.

Yn ei rôl fel llysgennad prentisiaeth, mae’n siarad mewn ysgolion a cholegau, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau STEM ac yn mynychu ffeiriau gyrfa i hyrwyddo peirianneg fel gyrfa. Mae hi hefyd yn mentora prentisiaid newydd yn GE Aerospace Wales.

Yn ystod ei phrentisiaeth, enillodd sgiliau a phrofiad gwerthfawr ar draws y cwmni ac mae’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at nod ei chyflogwr o ailwampio peiriannau yn y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel posibl.

“Mae’r sgiliau a ddysgais i drwy weithio mewn amrywiol weithdai trwsio peiriannau awyrennau fel rhan o’m prentisiaeth wedi fy ngalluogi i ennill gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy y byddaf yn eu cario gyda mi am weddill fy ngyrfa,” meddai Megan, a hoffai ddod yn beiriannydd dylunio.

“Mae hefyd wedi rhoi cyfleoedd i mi weithio o fewn y gymuned leol fel llysgennad prentisiaeth. Uchafbwynt personol oedd pan gefais wahoddiad i siarad â pheirianwyr yn fy hen goleg. Roedd yn hyfryd gweld lle dechreuais a’r hyn yr oeddwn wedi’i gyflawni ers gadael fy ngholeg, ac roedd y cyfan diolch i’m prentisiaeth.”

Dywedodd Jake Thomas, arweinydd prentisiaid GE Aerospace Wales:
“Mae Megan yn brentis gwych ac yn esiampl anhygoel. Mae hi wedi chwalu’r ystrydeb mai dim ond i ddynion mae peirianneg trwy arwain y ffordd gydag ansawdd ei gwaith a’i hagwedd gadarnhaol.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Megan a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL:
“Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy’n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —