Prentisiaethau yn helpu Cigydd Cymreig arobryn i lansio busnes Newydd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae cigydd arobryn, sydd wedi cystadlu yn erbyn goreuon y byd yn ei grefft, yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn ystod ei brentisiaeth i agor siop newydd yn Farndon, ger Caer.

Ben Roberts outside his new shop in Farndon.

Ben Roberts tu allan i’w siop newydd Farndon.

Mae Ben Roberts, 32, yn agor Astley & Stratton yn Farndon, ger Caer, gan gymryd lle siop Cigyddion Griffiths oedd wedi ei lleoli ar y Stryd Fawr ers 200 mlynedd. Bu rheolwr blaenorol y siop, Jeremy Turner, yn gweithio yno am 46 o flynyddoedd.

Mae Ben, sy’n byw yn Rhostyllen, ger Wrecsam, yn edrych ymlaen at ddod â chymysgedd cyffrous o gigyddiaeth arloesol, traddodiadol a modern i’w gwsmeriaid, gan gynnwys prydau parod.

Mae’n canmol cyfres o brentisiaethau a gwblhaodd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru, am ddarparu’r sgiliau, y wybodaeth, y profiad a’r hyder iddo redeg busnes ei hun.

Fel aelod o Dîm Cigyddiaeth Crefft Cymru, enillodd fedal efydd yng nghystadleuaeth Pencampwr Prentis Cigydd yn Her Cigyddion y Byd 2022 yn yr Unol Daleithiau.

Dydd Llun nesaf, bydd Ben yn cystadlu i ddod yn Gigydd Crefft Gymreig y Flwyddyn ym Mhencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru yn ICC Cymru, Casnewydd a hoffai ennill lle yn nhîm Cymru i gystadlu yn Her Cigyddion y Byd 2025 yn Ffrainc.

“Byddaf yn defnyddio’r wybodaeth rydw i wedi’i dysgu dros y blynyddoedd o weithio mewn siop, gwneud fy mhrentisiaeth a dilyn y tueddiadau diweddaraf i gynnig profiad bwyd cyffrous i’m cwsmeriaid,” meddai Ben. “Gallent ddisgwyl gynnyrch arloesol, yn ogystal â thoriadau traddodiadol.

“Wrth gwblhau prentisiaethau gyda Hyfforddiant Cambrian a chystadlu yn Her Cigyddion y Byd, rwy’n teimlo fy mod i’n barod ar gyfer yr her nesaf o agor siop fy hun.”

Mae prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian wedi chwarae rhan allweddol yn ei ddatblygiad fel cigydd o’r radd flaenaf. Aeth ymlaen o fod yn Brentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgynhyrchu Bwyd i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4), cyn cwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli Busnes sydd wedi paratoi’r ffordd iddo redeg busnes ei hun.

Mae rhestr gynyddol Ben o wobrau yn cynnwys Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru a Gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn 2022 a chael ei benodi’n Llysgennad Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.

“Mi fydda i’n gweithio ar ben fy hun i ddechrau ond dwi’n bwriadu llogi prentis o fewn misoedd. Mae prentisiaethau wedi rhoi sylfaen o wybodaeth, profiad a hyder i mi, yn ogystal â dealltwriaeth o’r gwahanol agweddau ar redeg busnes a chynhyrchu cynnyrch o safon.

“Fy nod hirdymor yw sefydlu fy rhaglen brentisiaethau fy hun yn y siop, fel y gall cigyddion ifanc brofi’r un pethau yr wyf wedi cael y fraint o’u profi yn fy ngyrfa hyd yn hyn.

“Mae’n teimlo fel fy mod i wedi gwneud cylch cyflawn oherwydd dechreuais fy ngyrfa fel ‘butcher’s boy’ yn Holt 18 mlynedd yn ôl, ac rydw i nawr yn dechrau busnes 500 llath dros y ffin Seisnig yr ochr arall i Afon Dyfrdwy,” ychwanegodd Ben, a oedd gynt yn rheoli M. E. Evans Butchers, Overton-on-Dee a Wrecsam.

Mae Arwyn Watkins, OBE, Cadeirydd Gweithredol Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn dymuno llwyddiant i Ben gyda’i fenter fusnes.

“Mae Ben yn enghraifft wych o gynnydd gyrfa gan ddefnyddio rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi’r sgiliau a’r profiad iddo i lansio busnes ei hun,” meddai.

“Mae wedi ymrwymo’n llwyr i’w grefft sy’n cael ei bwysleisio gan ei ymrwymiad i Dîm Cigyddiaeth Crefft Cymru ac yn meincnodi ei hun yn erbyn cigyddion o bob rhan o’r DU ac ar draws y byd.”

Hyfforddiant Cambrian

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —