Yma, mae Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, yn esbonio sut y gall busnesau oresgyn anawsterau cyflogi trwy fuddsoddi yn eu staff presennol
Mae uwchsgilio’n fater o bwys i unrhyw arweinydd busnes ar hyn o bryd. Bydd pawb sy’n gyfrifol am gyflogi yn gwybod pa mor anodd yw canfod gweithwyr addas mewn marchnad fwyfwy cystadleuol.
Ac os ydych chi’n teimlo bod y gronfa dalent yn crebachu, nid chi yw’r unig un.
Yn ôl adroddiad brawychus a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y CIPD, mae nifer y swyddi gwag oherwydd prinder sgiliau wedi mwy na dyblu yng Nghymru o 9,000 yn 2017 i 20,600 yn 2022. Ar yr un pryd, barnwyd bod dros draean o’r swyddi gwag yn ‘anodd eu llenwi’ oherwydd ansawdd yr ymgeiswyr a diffyg sgiliau angenrheidiol.
Felly, nid yw’n syndod bod busnesau’n troi at eu gweithlu presennol yn lle cyflogi o’r tu allan, gan uwchsgilio’u timau i helpu i bontio’r bwlch sgiliau cynyddol hwn.
Mae datblygu ac uwchsgilio ymhlith y ‘buddiannau’ pwysicaf y mae darpar-weithwyr yn chwilio amdanynt mewn busnes. Yn ôl data Global Talent Trends gan LinkedIn, mae cyfradd symudedd mewnol yn uwch mewn cwmnïau sy’n helpu eu gweithwyr i feithrin sgiliau nag mewn rhai nad ydynt yn blaenoriaethu datblygiad.
O gofio hynny, nid yw’n syndod bod dwy ran o dair o gyflogwyr yn buddsoddi mewn hyfforddiant i uwchsgilio’u gweithlu presennol.
Mae uwchsgilio’n fuddiol i fusnesau ac unigolion, yn ogystal â’r gweithlu ehangach. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd, trosglwyddadwy a dymunol iawn sy’n golygu bod cwmnïau’n cael ac yn cadw staff sydd â’r wybodaeth ddiweddaraf am eu rôl.
Yn ogystal, mae uwchsgilio’n gyfle i addasu swydd i ateb anghenion eich busnes, gan ddangos eich bod o’r farn ei bod yn werth buddsoddi mewn gweithwyr a’u cefnogi i wireddu eu dyheadau a symud ymlaen yn eu gyrfa.
Gall meddwl am fuddsoddi mewn uwchsgilio godi braw arnoch, ond ni ddylai wneud. ACT yw prif ddarparwr hyfforddiant Cymru ac rydym wedi cydweithio â dros 14,000 o fusnesau ledled y wlad yn eu helpu nhw a’u staff os oes ganddynt anghenion ym maes dysgu seiliedig ar waith, yn cynnwys prentisiaethau.
Mae’r cyrsiau’n amrywio o farchnata digidol a gwasanaethau cwsmeriaid i gyfrifeg a rheoli cyfleusterau, a llawer mwy. Maent yn addas ar gyfer gweithwyr sy’n dechrau ar eu taith mewn rôl benodol ac ar gyfer staff uwch sy’n ceisio rhoi hwb i’w sgiliau.
Caiff y cymwysterau eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac maent yn cynnig dulliau hyblyg o ddysgu yn y gweithle, mewn gweithdai ac ar-lein.
Er bod llawer o bobl o dan y camargraff mai ar gyfer swyddi penodol – gwaith corfforol yn aml – ac i bobl sy’n cychwyn eu gyrfa y mae prentisiaethau, ni allai hynny fod ymhellach o’r gwirionedd. Gall pobl o unrhyw oedran, mewn unrhyw sector, ac sydd wedi cael profiad ar unrhyw lefel wneud prentisiaethau.
Gellir cyflwyno prentisiaethau mewn ffordd hyblyg i ateb anghenion y sector, y busnes a’r dysgwr – naill ai trwy uwchsgilio rhywun sydd eisoes mewn swydd neu fel ffordd o gael mynediad i’ch sefydliad.
Gellir gwneud gwaith cwrs yn ymwneud â phrosiect y mae’r dysgwr yn awyddus i’w gynnal yn y cwmni, gan ddangos beth y mae’n rhaid ei wneud a’r cynllun gweithredu sy’n angenrheidiol er mwyn ei wneud.
Mae uwchsgilio’n prysur ddod nid yn unig yn un o fanteision ‘dymunol’ y swydd ond yn ffactor hanfodol ac nid yn unig i bobl sy’n chwilio am waith ond hefyd i fusnesau sy’n buddsoddi yn eu twf eu hunain yn ogystal â datblygiad y gweithwyr.
Os hoffech wybod sut y gall dysgu seiliedig ar waith weithio i chi, cyswllt ag ACT.
More News Articles
« Lansiodd Cymwysterau Cymru eu Hadroddiad Blynyddol — Enwebwch diwtor neu mentor sy’n ysbrydoli ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2024 »