Cwrs yn cynnig cychwyn cadarn i ddysgwr sydd wrth ei bodd yn trin gwallt

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Os ydych chi’n chwilio am yrfa sy’n cynnig cyfle i chi ymarfer eich dawn greadigol a rhoi hwb hirdymor i hyder a lles eich cleientiaid, efallai yr hoffech ystyried trin gwallt.

Apprentice Darla cutting hair with her tutor Charlotte

Darla, y prentis, gyda’i thiwtor Charlotte yn y salon.

Mae trin gwallt yn cynnwys llawer o sgiliau trosglwyddadwy ac mae’n aml yn cael ei chyfrif yn un o’r gyrfaoedd hapusaf a mwyaf boddhaus yn y byd.

Os ydych yn ystyried cychwyn eich taith yn y sector ond heb wybod ble i ddechrau, mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig y cwrs delfrydol.

Mae cymhwyster y darparwr hyfforddiant, ACT, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr, Lefel 1, yn cael ei gyflwyno mewn salonau ac mae’n cynnig amrywiaeth o sgiliau yn cynnwys technegau sylfaenol, cymorth gyda lliwio, a sut i godi’r gwallt i edrych yn berffaith. Mae dysgwyr yn elwa ar brofiad ymarferol, gan weithio llawn amser ar leoliad, a hynny’n arwain at brentisiaeth.

Un dysgwr sy’n elwa ar y cymorth a gynigir a’r sgiliau a ddysgir ar y rhaglen yw Darla Wathen o Gaerdydd.

Bu gan Darla ddiddordeb mewn gwallt erioed ac mae’r cymhwyster yn ffordd wych o ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i symud ymlaen yn y diwydiant, yn ogystal â magu hyder mewn salon.

Mae ar leoliad mewn salon leol, Henderson & Co. Mae’n cael ei chefnogi hefyd gan diwtor ACT, Charlotte Sims.

Yn ôl Darla: “Fy hoff beth am y lleoliad yw nad yw’n teimlo fel mynd i’r gwaith – mae fel mynd at fy ail deulu. Rwy wrth fy modd â’r cyngor y mae gwahanol steilwyr yn ei roi. Rwy’n dysgu ac yn datblygu bob dydd.”

Yn ogystal â dysgu sgiliau a thechnegau, mae Darla wedi dod yn llawer mwy hyderus. Meddai:

“Mae cefnogaeth fy nhiwtoriaid yn ACT wedi bod yn hollol anhygoel. Pan ddois i at ACT, ro’n i’n meddwl na fyddwn i’n gwneud dim gyda fy mywyd, ond fe wnaeth Charlotte fy helpu a gwneud i mi gredu ynof fi fy hun.

“Ro’n i’n berson pryderus iawn ac yn ofnadwy o nerfus am fynd i gyfweliadau, ond helpodd Charlotte fi i fod y fersiwn orau ohonof fy hun. Hebddi hi, fyddwn i ddim lle rydw i nawr.”
Mae Darla’n edrych ymlaen at ennill cymwysterau llawn trin gwallt ac mae’n awyddus i ddal ati i rannu ei chariad at wallt gyda chleientiaid.

Dywedodd y tiwtor Charlotte Sims:
“Pan ddechreuodd Darla yn ACT ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+, roedd ganddi lawer o botensial ond ychydig iawn o hyder ynddi hi ei hun. Cafodd Darla rai problemau ar y dechrau ond, ar ôl dod yn gyfarwydd â’r ganolfan a’r staff, dangosodd ei bod yn ddysgwr rhagorol.

“Mae Darla bob amser wedi ymdrechu 100% mewn unrhyw dasgau rydyn ni’n gofyn iddi eu gwneud ac roedden ni’n gwybod y byddai’n gaffaeliad i ryw salon gan ei bod yn amlwg o’r diwrnod cyntaf bod ganddi ddawn naturiol i drin gwallt.

“Daethon ni ar draws Henderson & Co ac, ar ôl siarad â pherchennog y salon, Kellie, roedden ni’n gwybod y byddai Darla’n cael cyfle anhygoel trwy fynd yno ar leoliad.

“Mae’r salon wedi’i chymryd o dan ei hadain, wedi ei chefnogi trwy ei holl hyfforddiant ac wir yn gwerthfawrogi ei chyfraniad i’r busnes.

“Mae Darla’n symud ymlaen trwy ei chwrs yn wych, ac mae’r holl staff mor falch ohoni ac wedi’u plesio o weld pa mor bell mae wedi dod.

“Mae gan Darla ddyfodol ardderchog o’i blaen ac rydyn ni’n llawn cyffro drosti.”

Meddai Mary Foley o ACT, asesydd Darla ar y cwrs:
“Pan ddechreuodd Darla ar y rhaglen roedd ganddi rai rhwystrau i’w goresgyn a doedd y sector addysg ddim wedi gwneud tegwch â hi. Unwaith y daeth yn gyfarwydd â threfn a staff ACT, dechreuodd ddod allan o’i chragen a dangos bod ganddi botensial mawr.

“Roedd Darla braidd yn nerfus mewn salon i ddechrau gan ei fod yn brofiad dieithr ond dyna’r peth gorau a wnaeth achos mae wedi rhagori ers hynny. Mae Darla wedi dangos, trwy benderfyniad, gwaith caled ac angerdd dros y diwydiant gwallt, bod modd goresgyn y rhwystrau hyn. Gwelwyd hyn hefyd yn y cynnydd a wnaeth gyda’i chymhwyster NVQL1 Trin Gwallt gan ei bod wedi ei gwblhau mewn dim ond chwe mis!

“Mae Darla wedi cael cynnig prentisiaeth trin gwallt Lefel 2 gyda Henderson & Co. Rydw i mor falch o Darla a’r cyfan mae hi wedi’i gyflawni gydag ACT, mae hi’n gaffaeliad gwych i’r salon ac mae ganddi yrfa ardderchog o’i blaen.”

Os ydych chi rhwng 16 ac 19 oed ac yr hoffech gael help i ddod o hyd i’ch gyrfa ddelfrydol, gallwch gofrestru ar gyfer Twf Swyddi Cymru+ unrhyw bryd yma.

ACT Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —