Addysg i Oedolion yn Ysgol Gwersyllt

Postiwyd ar gan karen.smith

Adult-Learners-Week-Gwersyllt-Class-3-725x415

English | Cymraeg

Mae rhieni wedi bod yn cael budd o ddosbarthiadau y mae Coleg Cambria wedi’u cynnal mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt i feithrin sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG/llythrennedd digidol.

Dechreuwyd Cwrs Rhagflas 5 wythnos yn dilyn cais gan ddirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt, Jacquie O’Toole, am gwrs i gynorthwyo rhieni i feithrin eu sgiliau yn amgylchedd yr ysgol.

Ar y cwrs, roedd 9 rhiant ac 1 nain sy’n gofalu am blant ei merch pan mae hi’n gweithio. Roedd y dysgwyr yn frwdfrydig iawn a chawson nhw eu hannog gan Pam McLean, tiwtor o Goleg Cambria, a Rachel Edge, cymhorthydd dysgu Dysgu fel Teulu, i sefyll asesiad Mathemateg a Saesneg i fesur lefel eu sgiliau. Wedi hynny, trafodwyd eu canlyniadau a phenderfynwyd ar dargedau unigol.

Ar ddiwedd y 5 wythnos, roedd y grŵp yn awyddus i barhau, felly sefydlwyd cwrs Mathemateg a Saesneg yn yr ysgol. Mae’r dysgwyr yn dod bob wythnos, ac maent yn gofyn am waith cartref fel astudiaeth bellach y gallent ei rannu gyda’u plant.

Dywedodd Kelly Thomas, sy’n dod i’r dosbarth:“Rydw i wedi mwynhau’r dosbarth yn fawr iawn. Mae Pam wedi bod yn hynod groesawgar, ac o’i herwydd mae’r dosbarth wedi bod yn un hwyl. Rydw i’n gobeithio cwblhau cyrsiau TGAU nesaf, ac yna mynd ymlaen i astudio cwrs mewn prifysgol. Mi fuaswn i’n hoffi diolch i Goleg Cambria am y cyfle hwn.”

Dywedodd Pam McLean:“Er bod y gwaith yn cael ei osod yn unigol, mae’r grŵp yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ac mewn gweithgareddau pâr hefyd. Nid oedd rhai rhieni wedi siarad gyda’i gilydd yn yr ysgol cyn i’r cwrs ddechrau, ac maen nhw rŵan yn dechrau annog ei gilydd i feithrin eu sgiliau.

“Mae wedi bod yn galonogol gweld y dysgwyr yn magu hyder ac yn meithrin sgiliau dros gyfnod byr o amser. Mae Coleg Cambria yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r ysgol flwyddyn nesaf, gan obeithio y bydd rhagor o rieni eisiau meithrin eu sgiliau.”

Bydd y dysgwyr yn parhau â’u hastudiaethau ym mis Medi 2018, ac wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau a’u hyder, byddant yn cael eu cofrestru ar gyfer cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Newyddion Coleg Cambria

More News Articles

  —