Alex, Prentis yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn mynd i India i gynrychioli Cymru yn Olympiad 2018 i gogyddion ifanc

Postiwyd ar gan karen.smith

Alex James

Alex James

English | Cymraeg

Bydd Alex James, prentis yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn mynd i India i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol anrhydeddus i gogyddion ifanc – Olympiad Rhyngwladol 2018 i Gogyddion Ifanc.

Yn dilyn cystadleuaeth fewnol ymhlith dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo’r Coleg, cafodd Alex – sy’n brentis ym mwyty Ewropeaidd modern CAVC, Y Dosbarth – ei ddewis. Roedd rhaid i bob un o’r myfyrwyr feddwl am bryd tri chwrs gan ddefnyddio basged arbennig o gynhyrchion.

Yn ymuno ag Alex, sy’n 18 oed ac yn dod o Gaerdydd, bydd Prif Ddarlithydd CAVC, John Crockett, a fydd yn gweithredu fel mentor pan fyddant yn hedfan i India yn y Flwyddyn Newydd. Bydd yn cael ei noddi gan Gymdeithas Perchnogion Gwestai Caerdydd, a noddodd y fyfyrwraig Amy Hoskins o CAVC hefyd, pan aeth hi i gynrychioli Cymru yn Olympiad Rhyngwladol y Cogyddion Ifanc ar ddechrau 2017.

“Mae hi’n fraint fawr i mi gael mynd i India i gystadlu yn Olympiad y Cogyddion Ifanc,”dywedodd Alex. “Mae’n mynd i fod yn rhyfeddol – yn brofiad gwych.

“Rydw i wir yn edrych ymlaen at hyn. Mae’n fy ngwneud i’n nerfus ond rydw i am beidio meddwl gormod am yr ochr yna i bethau, rhag teimlo dan bwysau!”

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Arlwyo, Lletygarwch a Gweithgynhyrchu Bwyd CAVC, Eric Couturier: “Mae hwn yn gyfle i newid bywyd i Alex. Bydd yn dangos ei sgiliau, ei greadigrwydd a’i ddawn yng nghanol rhai o gogyddion ifanc gorau’r byd ac fe fydd yn brofiad rhagorol iddo fe – rydyn ni i gyd yn falch iawn o Alex ac yn dymuno’n dda iawn iddo fe.”

Dywedodd Ben Underwood, Cadeirydd Cymdeithas Perchnogion Gwestai Caerdydd: “Mae fy nghydweithwyr a mi yng Nghymdeithas Perchnogion Gwestai Caerdydd yn falch iawn o gael gefnogi CAVC drwy anfon cogydd ifanc i’r digwyddiad Olympiad yn India. Mae’n anodd recriwtio cogyddion yn y diwydiant ac yn fwy felly yng Nghaerdydd. Felly mae’r ffaith bod gan gogyddion ifanc brwd gyfleuster mor arbennig i ddysgu eu crefft yn Y Dosbarth yn rhoi gobaith i ni y bydd y genhedlaeth nesaf o weithwyr lletygarwch proffesiynol yn un gref.

“Ar ôl cyfarfod Alex, roeddwn i’n teimlo bod ei ffocws a’i agwedd yn rhagorol; mae’n fy nharo i fel rhywun sy’n gwybod beth mae ei eisiau a beth yw ei ddyheadau ac rydw i’n siŵr y bydd yn gynrychiolydd arbennig iawn i Gymru.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dysgwch fwy am brentisiaethau heddiw

More News Articles

  —