Gallwch chi ddarganfod eich angerdd dros ddysgu a meithrin eich sgiliau – fel y gwnaeth Lucy!

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Eleni, cynhelir Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru rhwng Hydref 17 a 23 a’i nod yw ysbrydoli rhagor o bobl i ddarganfod angerdd dros ddysgu a meithrin eu sgiliau.

Lucy Williams sat at her office desk

Lucy Williams, mae prentisiaethau wedi’i helpu hi i ddod yn rheolwr gofal.

Pobl fel Lucy Williams, 40 oed, o Dreharris. Cafodd bywyd Lucy ei drawsnewid wrth iddi ddatblygu o fod yn weithiwr ffatri di-waith heb gymwysterau i fod yn rheolwr gofal o fewn 14 blynedd, diolch i gymorth Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Wythnos Addysg Oedolion yn cyfeirio pobl at gannoedd o gyrsiau di-dâl, ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, sesiynau profi, digwyddiadau, dyddiau agored ac adnoddau dysgu sydd am ddim ac ar gael i bawb. Ewch i adultlearnersweek.wales i gael manylion llawn yr hyn a gynigir ym mis Hydref.

Caiff oedolion gyfle i ddarganfod eu hangerdd dros ddysgu, gloywi eu sgiliau, gwella’u hiechyd a’u llesiant, datblygu eu gyrfa neu geisio cyngor ac arweiniad arbenigol i fanteisio ar ail gyfle a newid eu stori.

Mae prentisiaethau’n cynnig y cyfuniad delfrydol o ddysgu ac ennill cyflog, fel y gall prentisiaid barhau â’u haddysg ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth weithio ochr yn ochr â staff profiadol.

Maent yn agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac fe gaiff pob prentis gefnogaeth bwrpasol. Mae prentisiaethau ar gael ar bedair lefel, gyda rhywbeth sy’n addas i bob dysgwr mewn 23 o sectorau.

Roedd Lucy’n oedolyn erbyn iddi ddarganfod ei hangerdd dros ddysgu a datblygu ei sgiliau. Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at Brentisiaethau Uwch mewn Paratoi i Arwain a Rheoli (Lefel 4) a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefel 5).

Mae wedi canfod yr union alwedigaeth iddi hi, diolch i gefnogaeth ac arweiniad y darparwr hyfforddiant Educ8 Training. Diolch i’w hangerdd dros ddysgu, mae Lucy wedi llwyddo i ddringo i sicrhau swydd ei breuddwydion yn rheolwr gwasanaethau galwedigaethol gyda Values in Care. Ymunodd â’r sector yn 26 oed ar Brentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Roedd gen i ddiddordeb erioed mewn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ond wnes i osgoi’r llwybr hwnnw gan fy mod i’n meddwl bod rhaid cael cymwysterau,” esboniodd Lucy. “Doedd gen i ddim diddordeb yn yr ysgol ac fe adewais i heb yr un TGAU a mynd yn syth i weithio mewn ffatri.

“Pan wnes i ddechrau fy NVQ, roedd yn teimlo’n naturiol achos ro’n i’n dysgu rhywbeth roeddwn i’n angerddol amdano. Mae’n amlwg mai dyna’r peth iawn i mi neu fyddwn i ddim yn dal yma nawr.

“Mae prentisiaethau wedi fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa achos mae’r holl wybodaeth a sgiliau rwy wedi’u dysgu trwy astudio wedi fy helpu i gyrraedd lle’r ydw i eisiau bod yn y cwmni. Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sdim ots pa mor hen ydych chi.”

Dywedodd Sandy Hale, asesydd gydag Educ8 Training, bod Lucy yn “berson pobl sydd ag empathi a sgiliau cyfathrebu da”.

“Yn y sector gofal, mae llawer o reolwyr wedi gweithio’u ffordd i fyny ac, yn aml, maen nhw’n gweld gofynion academaidd Prentisiaeth Uwch yn eithaf anodd,” meddai. “Nawr bod Lucy wedi cael dyrchafiad ac wrthi’n ffurfio timau newydd, mae’n deall pa mor berthnasol a phwysig yw ehangu ei gwybodaeth a sut mae hynny’n mynd i’w helpu yn ei gwaith.”

Bydd dros 10,000 o oedolion ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr Wythnos Addysg Oedolion, a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Bydd cyngor ac arweiniad arbenigol ar gael am ailhyfforddi, cyfrifon dysgu personol, gofal plant, a cholli swydd ar wefan Cymru’n Gweithio Cymru’n Gweithio.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Educ8 Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —