Andrew, dysgwr ysbrydoledig, ar restr fer am wobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae gŵr ifanc o Ogledd Cymru a chanddo anawsterau dysgu wedi’i ddisgrifio’n ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr fer am wobr genedlaethol fawreddog.

Andrew Lloyd – ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill.

Mae Andrew Lloyd, 19 oed, o Gonwy, wedi cyrraedd rownd derfynol categori Dysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn (Ymgysylltiad) yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014. Bydd yn ymuno â 35 arall yn y rownd derfynol mewn 13 categori mewn seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Andrew wedi dod o hyd i swydd a hobi newydd diolch i ddysgu seiliedig ar waith. Aeth at y darparwr dysgu A4E heb fawr o gyfeiriad na ffocws ar wahân i wybod ei fod am weithio yn yr awyr agored.

Fel rhan o’i hyfforddeiaeth, sicrhawyd lleoliad gwaith yn Conwy Water Gardens, a chan fod ei gyflogwr yn ystyried ei fod yn gymaint o gaffaeliad, cynigiwyd swydd barhaol iddo.

Roedd byw gydag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) a dyslecsia’n golygu bod gan Andrew ddiffyg cymhelliant a hyder ac roedd yn cael trafferth gyda grwpiau mawr o bobl hefyd. Ers dechrau ar raglenni gwasanaethau cwsmeriaid a chyfathrebiadau yn A4E, mae arweinwyr y cwrs wedi’i weld yn magu hyder ac yn dod yn aelod poblogaidd o’i grŵp.

Mae’n angerddol ynghylch ei waith a datblygodd ddiddordeb mawr mewn pysgod trofannol, gan ddechrau ei gasgliad ei hun hyd yn oed. “Nid oedd gennyf lawr o syniad beth roeddwn i am ei wneud ond erbyn hyn rwy’n wirioneddol hapus ac yn falch o’r gwaith rydw i wedi’i wneud,” meddai. “Rydw i wir yn mwynhau fy swydd yn Conwy Water Gardens.”

Dywedodd Carl Thompson, o A4E Cymru: “Mae Andrew’n weithiwr caled ac yn ysbrydoli dysgwyr eraill. Mae’n fodel rôl gwych ac yn haeddu cydnabyddiaeth.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae hyfforddiant galwedigaethol yn darparu i ddysgwyr y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad y mae arnynt eu hangen wrth helpu’n busnesau i dyfu. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni gydnabod y cyfoeth o ddoniau sydd gennym yng Nghymru.

“Mae stori Andrew’n ysbrydoledig. Mae’n dangos sut, o gael y cyfle a’r gefnogaeth iawn, y gellir rhoi hwb i sgiliau a hyder unigolyn, hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol. Mae Andrew’n llysgennad gwych i bobl ifanc sy’n cyflawni trwy ddysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Mae cyflogwyr fel Conwy Water Gardens, sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy raglenni dysgu seiliedig ar waith, yn elwa ar weithwyr hynod fedrus, uchel eu cymhelliant. Yn y cyfamser, mae unigolion fel Andrew yn ennill cymwysterau â pharch mawr amdanynt a phrofiad gwerthfawr o ofynion y gweithle.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i Andrew ar gyfer y gwobrau a gyrfa lwyddiannus.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —