Menywod uchelgeisiol Airbus UK yn cystadlu am wobr prentisiaeth genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae dwy fenyw ifanc ddawnus sy’n datblygu gyrfaoedd addawol gyda chynhyrchwr awyrennau blaengar yng Nghymru wedi’u cynnwys ar restr fer ar gyfer yr un wobr brentisiaeth genedlaethol fawreddog.

Mae Devon Sumner a Daniella Hughes, sy’n gweithio i Airbus UK ym Mrychdwn, wedi cyrraedd rownd derfynol categori Uwch Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014. Yn cystadlu am y wobr Uwch Brentis hefyd mae Luke Godrich, 20 oed o Dreforys, sy’n gweithio i’r DVLA yn Abertawe.

Maen nhw ymhlith 36 arall yn y rownd derfynol mewn 13 categori a fydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref. Trefnir y gwobrau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Devon Sumner gyda’r ymgynghorydd hyfforddiant prentis Kim Shallcross yn Airbus UK, Brychdwn

Mae gan Devon, 23 oed, eisoes CV i fod yn falch ohono. Mae hi wedi cwrdd â’r Frenhines ym Mhalas Buckingham, wedi tywys y Prif Weinidog, David Cameron, ar daith o’i gweithle yn Airbus UK ac wedi ymddangos ar y teledu.

Gan weithio fel Uwch Brentis gydag Airbus, Coleg Cambria a Phrifysgol Glyndŵr, mae ganddi res o gymwysterau sy’n cynnwys rhagoriaeth yn ei Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Awyrenegol ac NVQ Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth Peirianneg.

Eleni, dylai gyflawni Gradd Bagloriaeth dosbarth cyntaf gydag Anrhydedd mewn Peirianneg Awyrenegol a chyflawni statws peirianneg gorfforedig gydag RAeS. Mae hi wedi ennill Gwobr Ede & Ravenscroft ar gyfer gradd sylfaen hefyd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Gwobr Cyflawniad Eithriadol cenedlaethol EEF.

“Rwy’n credu fy mod i’n llysgennad gwych i brentisiaid a menywod mewn peirianneg”, meddai.

Daniella Hughes – yn angerddol am ei gyrfa gydag Airbus UK.

Fel myfyrwraig lwyddiannus, trodd Daniella ei chefn ar gwrs gradd mewn prifysgol ac aeth ar drywydd gyrfa gydag Airbus UK trwy Brentisiaeth Uwch mewn Logisteg Cadwyni Cyflenwi.

Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae ganddi lu o gymwysterau i’w henw gan gynnwys NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Perfformio Peirianneg, NVQ Lefel 3 mewn Rheolaeth Gweithrediadau Logisteg ac ERR, a BTEC Lefel 2 mewn Rheolaeth Cadwyni Cyflenwi. Ac ym mis Awst, pasiodd Daniella ei modiwl olaf Lefel 5 y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi.

Mae gwaith coleg yng Nghanolfan Reoli Coleg Cambria wedi ychwanegu at yr hyfforddiant uniongyrchol ym Mrychdwn a dyfarnwyd hi’n ‘Ddysgwr Warws y Flwyddyn 2014’ trwy ei NVQ Logisteg.

“Teimlaf yn angerddol am y cyfle a gynigir gan Airbus,” meddai Daniella. “Maen nhw wedi rhoi hyfforddiant amhrisiadwy i mi, teimlaf yn aelod gwerthfawr o’r sefydliad ac mae fy hyder wedi tyfu trwy gyfarfodydd gyda sawl arweinydd gwleidyddol a Phrif Swyddog Gweithredol Airbus.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae gan Uwch Brentisiaethau gymaint i’w gynnig â lle mewn prifysgol dda ac mae’n amlwg bod mwyfwy o ddysgwyr yng Nghymru’n dewis y llwybr hwn. Rhwng 2012-2013, crëwyd 2,275 o leoedd Uwch Brentisiaeth yng Nghymru o gymharu â dim ond 280 yn 2011/12.

“Diolch i’w Huwch Brentisiaethau, mae Devon, Daniella a Luke bellach yn symud ymlaen yn gyflym yn eu maes dethol. Mae pob un ohonynt yn fodelau rôl gwych i bobl ifanc sy’n ystyried gyrfaoedd tebyg ac rydw i wrth fy modd eu bod yn cael eu cydnabod fel hyn.

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —