Llwyddiant yn dilyn trallod wrth i Ashley feithrin gyrfa gyda chwmni cyfreithiol

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae gŵr ifanc o Gaerdydd, sydd wedi dangos ymroddiad syfrdanol i greu bywyd gwell iddo ei hun ar ôl dechrau caled iawn, wedi’i gynnwys ar restr fer ar gyfer gwobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog.

Mae Ashley Coleman, 18 oed, yn rownd derfynol categori Lefel Un Dysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014. Bydd yn ymuno â 35 arall yn y rownd derfynol mewn 13 categori mewn seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

Ashley Coleman – sydd wedi’i gymell i gyflawni gyrfa dda.

Trefnir y gwobrau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Ashley wrth ei fodd fod ei ymdrechion wedi talu ffordd ac mae wedi sicrhau prentisiaeth gyda’r cwmni cyfreithiol masnachol Darwin Gray.

Cafodd ei dynnu allan o’r ysgol gynradd a’i addysgu gartref, wedyn bu rhaid iddo adael ei gartref yn ifanc. Heb gymwysterau TGAU a rhagolygon cyfyngedig, roedd yn benderfynol o weithio i gael cymwysterau a gweithiodd yn eithriadol o galed ar raglen ymgysylltu gydag ACT Training.

Gwellodd ei hyder a sicrhaodd leoliad yn Darwin Gray, lle creodd gymaint o argraff ar y rheolwyr nes iddynt gynnig prentisiaeth iddo.

“Rydw i’n hapus iawn i gael llwyddiant o’r diwedd” meddai. “Mae fy hyder a’m sgiliau wedi gwella cymaint ac mae gennyf fwy o gymhelliant nag erioed i gyflawni gyrfa dda.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae hyfforddiant galwedigaethol yn darparu sgiliau, cymwysterau a’r profiad y mae eu hangen ar ddysgwyr ac yn helpu’n busnesau i dyfu. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni gydnabod cyfoeth y doniau sydd gennym yng Nghymru.

“Mae’r ymroddiad y mae Ashley wedi’i ddangos i wella’i ragolygon yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae ei esiampl yn profi fod hyfforddeiaeth yn llwybr gwych i brentisiaeth. Rydw i mor falch ei fod bellach wedi cael y cyfle i barhau i ddatblygu ei sgiliau a’i wybodaeth.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i Ashley yn y Gwobrau Prentisiaeth.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —