Prentisiaethau’n sylfaen ar gyfer dyfodol cwmni 150 oed

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cyfarwyddwr contractau Andrew Scott Ltd, Joe McLaughlin, a’r rheolwr contractau, Steve Rees.

Bu cwmni adeiladu hynaf Cymru, Andrew Scott Ltd, yn buddsoddi mewn Rhaglenni Prentisiaethau ers dros 50 mlynedd ac, wrth ddathlu ei ben blwydd yn 150 yn 2020, roedd yn dal i gynnig cyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus.

Ym marn y cwmni o Fargam, mae ymrwymiad i hyfforddi a datblygu gweithwyr yn hanfodol er mwyn llwyddo, ac mae ganddo dros 200 o staff ledled Cymru’n mwynhau gyrfaoedd maith a hapus.

Fel prentisiaid gyda’r cwmni y dechreuodd nifer o’r uwch-reolwyr presennol eu gyrfa ac mae’n dal yn benderfynol o wneud y defnydd gorau o’r ‘bunt Gymreig’ trwy recriwtio prentisiaid lleol a’u hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd maith.

Gwelir cryn dipyn o deyrngarwch i’r cwmni gan fod rhai o’r gweithwyr presennol yn perthyn i’r drydedd neu’r bedwaredd genhedlaeth o’i weithwyr.

Oherwydd ei ymroddiad i brentisiaethau, mae Andrew Scott Ltd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Rydym yn cymryd graddedigion, prentisiaid, hyfforddeion a phobl ar leoliad gwaith bob blwyddyn ac yn ymroi i gynnig cyfleoedd ar bob lefel i bobl o bob cefndir,” meddai Libby Jones, rheolwr cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol Andrew Scott Ltd, sydd wedi recriwtio 20 o brentisiaid ers 2015.

“Yn ogystal â rhaglenni hyfforddiant strwythuredig, rydym yn sicrhau bod ein holl staff, hen a newydd, yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad parhaus. Gan ein bod yn trefnu hyn ein hunain, mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein staff yn cael eu hyfforddi’n iawn a’u bod yn gwybod am ddatblygiadau diweddaraf y diwydiant.”

Yn ogystal â’r Rhaglen Brentisiaethau, mae’r cwmni’n defnyddio Cynllun Rhannu Prentisiaethau Cyfle sydd wedi helpu i gael lleoliadau i dros 50 o bobl. Mae CITB Cymru yn lleoli prentisiaid ar gyrsiau Gosod Brics, Gwaith Saer a Gweithredydd Adeiladu Peirianneg Sifil yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Castell-nedd Port Talbot.

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda’r darparwyr hyfforddiant i gadw golwg ar ddatblygiad y prentisiaid ac i benderfynu ar brentisiaethau newydd ac i rannu ymateb adeiladol am ansawdd yr hyfforddiant a roddir.

“Mae Andrew Scott Ltd bob amser yn mynd yr ail filltir wrth gefnogi’r rhai sy’n cael eu hyfforddi, gan fynd ati’n ofalus i ddewis mentoriaid ar gyfer y prentisiaid er mwyn iddynt wireddu eu potensial,” meddai Gareth David, cynghorydd hyfforddiant yng Ngholeg Sir Gâr.

“Mae’r ffaith fod gan gwmni Andrew Scott agwedd gynhwysol, gan hybu amrywiaeth a gweithio hyblyg, yn cyfrannu at ei lwyddiant. Dyma awyrgylch sy’n galluogi prentisiaid y cwmni i lwyddo a ffynnu.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
 
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
 
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
 
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —