Angen cynllun yn canolbwyntio ar sgiliau i ddod â chadernid economaidd i’r rhanbarth

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ar hyn o bryd mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De Orllewin a Chanolbarth Cymru yn gweithio ar draws chwe ardal yr Awdurdod Lleol I gael dealltwriaeth o sut mae COVID19 yn effeithio ar sectorau a busnesau yn y rhanbarth trwy ymgynghori â busnesau lleol.

Fel partneriaeth rydym yn ymwybodol iawn o’r straen sy’n cael ei roi ar fusnesau yn ystod y pandemig COVID-19 hwn ac rydym am gefnogi perchnogion busnesau I lywio trwy’r amseroedd digynsail hyn. Ym mis Gorffennaf cyflwynodd y tîm adroddiad I Lywodraeth Cymru yn amlinellu’r effaith economaidd ar y rhanbarth, gan roi gwell dealltwriaeth I gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru o lawer o wahanol brofiadau busnesau ledled y rhanbarth, gan dynnu sylw at y gefnogaeth ddilynol sy’n ofynnol iddynt allu,I symud ymlaen.

Mae Covid-19 wedi dod â phob her newydd inni a dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd yr RLSP yn gweithio ar gynllun newydd a fydd yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen I ddod â gwytnwch economaidd I’r rhanbarth.

Mae’r RLSP eisiau sicrhau bod llais busnesau Cymru a’r hunangyflogedig yn cael eu clywed, felly yn ystod mis Medi a mis Hydref bydd y tîm yn cynnal ymarferion ymgynghori pellach I ddod I ddeall yr hyn sydd ei angen ar fusnesau yn y tymor byr, canolig a hir. Bydd hyn yn caniatáu inni roi ymateb ar sail tystiolaeth trwy gydol y cyfnod adfer.

Bydd y tîm yn cynnal cyfweliadau â busnesau dros y ffôn yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd arolwg electronig ar gyfer busnesau sy’n dymuno ei lenwi eu hunain yn cael ei anfon allan yn fuan.

www.rlp.org.uk/cym

More News Articles

  —