Kepak yn targedu prentisiaethau yng Nghymru i uwchsgilio’i weithlu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Prentisiaid Aaron Buckler a Rebecca Sage yn St Merryn Merthyr, yn y llun gyda chyfarwyddwr safle Kepak, Paul Hughes, rheolwr AD Karan Dyer a phennaeth uned busnes bwyd a diod Cwmni Cambrian Chris Jones.

Mae Kepak, y ffatri prosesu cig a’r lladd-dy mwyaf yng Nghymru, wedi cofrestru i Raglen Brentisiaeth Llywodraeth Cymru i uwchsgilio a datblygu ei weithlu.

Mae Kepak, sy’n cyflogi 768 o bobl yng nghyfleusterau arloesol y cwmni yn St Merryn Merthyr, yn uwchsgilio 50 o aelodau staff yn y cam cyntaf o brentisiaethau, gan gynyddu i ryw 100 aelod o staff ymhen blwyddyn.

Nod tymor hir y cwmni yw cynnig fframwaith prentisiaeth i’w holl staff ym Merthyr Tudful. Mae yna angen penodol i ddenu a datblygu cigyddion medrus gan fod prinder ohonynt ar draws diwydiant cig y DU.

Mae Kepak yn gweithio’n agos gyda’r darparwr dysgu yn y gwaith cenedlaethol, Hyfforddiant Cambrian, i gyflwyno prentisiaethau lefelau 2, 3 a 4 mewn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, Rheoli Bwyd, Arwain Tîm Bwyd a Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd.

Dywedodd Paul Hughes, Cyfarwyddwr Safle Kepak St Merryn Merthyr: “Un o brif werthoedd Kepak yw uchelgais. Rydym am fuddsoddi mewn Rhaglen Brentisiaeth sy’n rhoi cyfle i’n holl weithwyr dyfu a datblygu i’w llawn botensial yn y busnes a bodloni eu nodau personol eu hunain.

“Ceir prinder enfawr mewn sgiliau yn y diwydiant bwyd, yn enwedig yn y sector cig, ac mae disgwyl i hyn fod yn her hyd yn oed yn fwy i fusnesau fel ein rhai ni oni y cymerwn gamau cadarnhaol. Mae pwysigrwydd y sector cig wedi cael sylw ar hyd y pandemig.

“Ein blaenoriaeth ni yw uwchsgilio’n gweithlu presennol, yna byddwn yn edrych i ddenu staff newydd a chynnig llwybr gyrfa glir iddynt. Rydym yn gobeithio y gallwn ddenu ystod amrywiol o ddoniau i’n busnes. Ein nod yw cadw’r doniau hynny trwy gynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfa mewn ffordd ymarferol a gwerth chweil.

“Caiff Hyfforddiant Cambrian ei argymell yn gryf fel partner hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n amlwg eu bod yn rhannu’r un gwerthoedd â ni. Mae ganddynt angerdd i ddarparu hyfforddiant o safon, meithrin perthnasoedd gyda’n tîm ar y safle, helpu pobl eraill i gyflawni eu llawn botensial a herio’r status quo er mwyn cyflawni’u gwaith. Maen nhw hefyd wedi addasu eu ffordd o gyflwyno hyfforddiant er mwyn gweddu i anghenion ein busnes ym Merthyr.

“Credwn fod y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei rhoi i fusnesau fel ein un ni’n flaengar iawn. Mae’n gwneud y prentisiaethau hyn a chyfleoedd Twf Swyddi Cymru’n realiti.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o bobl leol yn ymuno â’n busnes a rhoi’r cyfleoedd hyfforddiant hyn iddynt yn ystod y misoedd nesaf.”

Dywedodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes bwyd a diod Hyfforddiant Cambrian: “Rydym wrth ein boddau o weithio gyda Kepak ac edrychwn ymlaen at gyflwyno ystod o brentisiaethau yn St Merryn Merthyr.

“Mae’n wych fod busnes o’r maint hwn yng Nghymru’n buddsoddi yn y dyfodol trwy ymrwymo i hyfforddi ac uwchsgilio’i weithlu. Mae’r cwmni’n cydnabod y manteision o ymgymryd yn llawn mewn prentisiaethau ac mae ganddo ddiddordeb hefyd yn rhaglen Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae’n amlwg bod Kepak yn ymrwymo i uwchsgilio a datblygu ei weithlu ac rwy’n falch y bydd ein rhaglen brentisiaethau’n helpu’r cwmni i wneud hynny.
 
“Gwna brentisiaethau gyfraniad enfawr at ein heconomi a ffurfiant ran dyngedfennol o’n hadferiad o effeithiau difrifol coronafeirws. Rydym eisoes ar y trywydd iawn i gyflawni’n nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor llywodraeth hwn, ond rydym yn gwneud mwy a bydd rhagor o gefnogaeth ar gael fel rhan o’r pecyn swyddi a sgiliau gwerth £40m a gyhoeddais ym mis Gorffennaf.
 
“Dymunaf y gorau i bob un prentis yn Kepak yn awr ac yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio bod eu profiad o’r brentisiaeth yn llawn boddhad ac yn werth chweil.”

Cwmni bwyd teuluol, sy’n wynebu’r dyfodol yw Kepak a chanddo dreftadaeth gyfoethog o dros 50 mlynedd o waith cig. Ar ôl sefydlu siop gigydd teuluol yn Nulyn ym 1966, mae Kepak wedi tyfu’n sylweddol ac erbyn heddiw, mae gan y grŵp drosiant o €1.6bn ac yn cyflogi dros 5,000 o bobl ar draws 12 safle gweithgynhyrchu yn Iwerddon a’r DU.

Mae Kepak yn cyflenwi toriadau dethol o gig i rai o’r enwau mwyaf yn y byd adwerthu, cyfanwerthu a gwasanaeth bwyd ledled Iwerddon, y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol.

Mae Kepak wedi buddsoddi erioed mewn gwelliant ac arloesedd parhaus yn y busnes cig, ar bob lefel, o’i ddechreuad di-nod i’w gweithrediad yn fyd-eang.

Mae gan Hyfforddiant Cambrian, sy’n 25 oed eleni, swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli a Llanfair-ym-Muallt. Mae gan y cwmni ryw 1,500 o ddysgwyr ar Raglenni Prentisiaeth a gyflwynir ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Ymhlith y prentisiaethau a gyflwynir gan y cwmni mae Lletygarwch, sy’n cynnwys Coginio Crefftus a Sefydliad Tafarnwyr Prydain, Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, Cigyddiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar Plant, Ceffylau, Gwasanaethau Ariannol, Arwain a Rheoli Tîm, Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu, Adwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy a Pheirianneg Dŵr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Hyfforddiant Cambrian

More News Articles

  —