Angharad yn rhagori mewn dysgu ymarferol ac yn cael ei rhoi ar restr fer ar gyfer gwobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Angharad Jones at work at Plas Arthur Leisure Centre, Llangefni.

Angharad Jones wrth ei gwaith yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni.

Mae Angharad Jones yn brawf bod llawer mwy o lwybrau i ddysgu nag arholiadau ysgol. Trwy’r rhaglen Ymgysylltu â Hyfforddeiaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai, canfu Angharad ei hun ar leoliad yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.

Mae’r ferch 18 oed wedi dangos brwdfrydedd mawr tuag at ddysgu ymarferol, gan gyflawni Tystysgrif Lefel 1 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid gan ddatblygu i NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Gweithredol. Mae hi bellach ar raglen brentisiaeth gyda Chyngor Sir Ynys Môn ac yn bwriadu gwneud cwrs gofal plant ychwanegol yng nghanolfan ddydd Ysgol Feithrin.

Mae ei rhestr o gyrsiau canolfan hamdden llwyddiannus yn cynnwys hyfforddwr campfa, erobeg dŵr, pêl-droed, tennis, hyfforddiant cylched a hyfforddwr nofio, a hyfforddiant achubwr bywydau.

Fel gwobr am ei llwyddiant, mae wedi cael ei rhoi ar restr fer ar gyfer gwobr Dysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn dathlu cyflawniadau eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaeth, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwobrau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cael eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan bartner y cyfryngau, Media Wales.

Yn yr ysgol, cafodd Angharad ddiagnosis o ddyslecsia yn 11 oed, cafodd ei bwlio ac roedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi gartref wth i’w rhieni wahanu. Cyflwynodd newid ysgol heriau ychwanegol ac fe wnaeth salwch yn ystod ei harholiadau olygu na chafodd y canlyniadau yr oedd yn gobeithio amdanynt.

“Mae fy mam, fy chwaer Louise a fy mrawd Andrew wedi bod yn gefn mawr i mi. Rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd yr wyf yn dysgu nawr a hoffwn ddiolch i Mair Eluned, y swyddog atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, a Janice Owen yn y coleg am eu cefnogaeth.”

Dywedodd Eric Christie, arweinydd tîm ymgysylltu Grŵp Llandrillo Menai: “Mae Angharad wedi canfod lleoliad sydd wedi rhyddhau ei photensial ar gyfer dysgu.”

Mi wnaeth Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, longyfarch Angharad a’r 32 ymgeisydd arall ar y rhestr fer. “Rydym yn falch o ddarparu un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyda chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell uwchlaw 80 y cant,” dywedodd.

“Mae datblygu pobl â sgiliau yn hanfodol i’n heconomi. Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniad. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr, sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i gefnogi eu prentisiaid, yr un mor bwysig.”

More News Articles

  —