Prentisiaethau yn hwb i yrfa addawol Adam

Postiwyd ar gan karen.smith

Adam Harvey has used apprenticeship programmes to develop his career.

Mae Adam Harvey wedi defnyddio’r rhaglenni prentisiaeth i ddatblygu ei yrfa.

Mae Adam Harvey wedi defnyddio rhaglen brentisiaeth Llywodraeth Cymru fel hwb i ddatblygu gyrfa gyffrous gyda chwmni o Gymru sy’n arbenigo mewn cynnyrch ar gyfer busnes manwerthu anifeiliaid anwes.

Ers ymuno â Magnet & Steel, Llandŵ fel gweithredwr cyffredinol warws yn 2007, mae wedi cael dyrchafiad i fod yn gyfarwyddwr gweithrediadau oherwydd ei gyfraniad eithriadol i dwf y busnes.

Mae gan Adam, sydd yn 28 oed o’r Barri, 13 TGAU, Prentisiaeth mewn Rheolaeth a Phrentisiaeth Uwch y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) Lefel 5 mewn Rheolaeth. Darparwyd ei hyfforddiant gan Itec Skills and Employment.

Fel gwobr am ei lwyddiant, mae wedi cael ei roi ar restr fer ar gyfer Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn dathlu cyflawniadau eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaeth, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwobrau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cael eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan bartner y cyfryngau, Media Wales.

Yn ystod ei Brentisiaeth Uwch, gweithiodd Adam gyda’r adran adnoddau dynol yn ysgrifennu a chyflwyno polisïau recriwtio a hyfforddiant newydd, sydd wedi lleihau trosiant staff a chostau ac wedi gwella perfformiad busnes.

Helpodd hefyd i ddatblygu a lansio cynnyrch 3D llwyddiannus o’r enw ‘Handipod’, glanweithydd cyflawn a dosbarthwr sachau anifail anwes, sydd wedi galluogi’r cwmni i arallgyfeirio i farchnadoedd newydd yn fyd-eang. Er mwyn cynyddu gwerthiant, mae wedi cyflwyno sianeli dosbarthu newydd ar ebay, Amazon a’r cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r prentisiaethau yn bendant wedi gwella fy rhagolygon cyflogaeth ac mae gennyf bellach gymwysterau i gyd-fynd â’m profiad,” meddai Adam, enillydd gwobr Dysgu i Oedolion Inspire yn 2014. “Hoffwn ddangos i ddysgwyr eraill eich bod yn gallu gadael yr ysgol yn 16 oed a datblygu ym myd gwaith.”

Dywedodd Phil Cartledge, rheolwr-gyfarwyddwr Magnet & Steel: “Mae Adam yn enghraifft ragorol o lwyddiant ac mae’n dangos cymaint y gellir ei gyflawni gan unigolyn ymroddedig trwy Brentisiaeth.”

Mi wnaeth Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, longyfarch Adam a’r 32 ymgeisydd arall ar y rhestr fer. “Rydym yn falch o ddarparu un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyda chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell uwchlaw 80 y cant,” dywedodd.

“Mae datblygu pobl â sgiliau yn hanfodol i’n heconomi. Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniad. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr, sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i gefnogi eu prentisiaid, yr un mor bwysig.”

More News Articles

  —