Pwysau’n cynyddu ar Lywodraeth Cymru ar ôl cyhoeddi toriadau i brentisiaethau
Mae Llywodraeth Cymru o dan bwysau enfawr i warchod y cyllid ar gyfer prentisiaethau ar ôl y cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft heddiw am doriadau sylweddol a allai arwain at ryw 10,000 yn llai o brentisiaid.
Mae cynrychiolwyr cyflogwyr, yn cynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach a’r CBI, wedi llofnodi llythyr agored at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn amlinellu eu pryderon dwys ynghylch y toriadau arfaethedig o 24.2% – sy’n cyfateb i £35 miliwn – i brentisiaethau yn 2024-25.
Maent yn gofyn pam nad yw’r holl arian y maent yn ei dalu tuag at yr ardoll brentisiaethau yn cael ei fuddsoddi mewn prentisiaid, a honnir bod dros £80m yn cael ei wario mewn mannau eraill.
Mae’r toriadau y bwriedir eu gwneud yn gyfuniad o ostyngiad o 3.65% yn y gyllideb brentisiaethau a cholli cyllid blaenorol o’r Undeb Ewropeaidd, a oedd ar gael cyn dyddiau’r ardoll brentisiaethau. Mae cyflogwyr yn talu 0.5% o gyfanswm eu bil cyflog blynyddol tuag at yr ardoll.
Mae’r toriadau hyn yn ychwanegol at yr £17.5m a dorrwyd yn ddiweddar o gyllid prentisiaethau gan Lywodraeth Cymru.
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant, yn ymuno â chyflogwyr i alw am adolygiad brys gan Lywodraeth Cymru cyn i’r toriadau wneud niwed parhaol i’w raglen brentisiaethau flaenllaw.
Maent yn mynnu cael gwybod:
- A ydi cyflogwyr yn cael gwerth eu harian o dalu’r ardoll brentisiaethau, yr amcangyfrifir ei bod yn werth £190m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru?
- Beth sydd wedi digwydd i addewid Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ym mis Mawrth eleni, am £36m ychwanegol i wneud iawn am golli cyllid Ewropeaidd ar gyfer prentisiaethau?
Mae ymchwil manwl a wnaed gan ddarparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, sy’n cyflenwi prentisiaethau yng Nghymru, wedi datgelu bod cyflogwyr sy’n talu’r ardoll ar eu colled o dros £80m y flwyddyn.
Mae’r NTFW yn rhybuddio bod y toriadau’n bygwth cannoedd o swyddi yn y sector dysgu seiliedig ar waith. Maent yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu’r cyllid pontio angenrheidiol – i gymryd lle’r arian o’r Undeb Ewropeaidd a gollwyd yn dilyn Brexit – er budd dysgwyr, gwaith datblygu sgiliau, cynhyrchiant a thwf busnes yng Nghymru.
“Er gwaethaf negeseuon gwahanol gan Lywodraeth Cymru, mae’r galw am brentisiaethau’n dal yn gryf ymhlith dysgwyr a chyflogwyr, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau arfaethedig a allai gael canlyniadau trychinebus i Gymru,” meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW.
“Yn ogystal â’r cwestiwn a ydi taliadau’r ardoll yn rhoi gwerth am arian, mae pryder cynyddol hefyd y bydd y toriadau’n effeithio ar y sectorau lle mae’r angen mwyaf am weithlu medrus, yn cynnwys y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’r rhwydwaith wedi cael gwybod y bydd cynnydd yng nghyllideb prentisiaethau gradd. Ond mae’r data’n dangos bod prentisiaethau gradd yn recriwtio llai o ddysgwyr o ardaloedd difreintiedig na phrentisiaethau go iawn.
“Unwaith eto, bydd y bobl sydd wedi ymddieithrio fwyaf a’r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas yn cael eu taro gan doriadau enfawr.
“Mae rhai’n holi sut y gallai’r gweinidog flaenoriaethu sgiliau a phobl ifanc yn ei ddatganiad cenhadaeth ar yr economi yn ddiweddar ac yntau’n paratoi i dorri cyllideb prentisiaethau ar yr un pryd. Fel holl aelodau’r NTFW, mae cyflogwyr o’r farn bod ei ddatganiad yn gwrth-ddweud realiti’r sefyllfa a hoffent wybod beth yw ei flaenoriaethau newydd.
“Mae sgiliau ac addysg bellach yn sylfaenol i’n hadferiad economaidd. Dyma’r amser i fuddsoddi yn ein dysgwyr a’n gweithwyr.”
More News Articles
« Dysgwr yn creu argraff ar y teulu brenhinol gyda pherfformiad cerddorol yn Abaty Westminster — Cyrraedd y rhestr fer drwy oresgyn rhwystrau sylweddol i wireddu ei breuddwyd trin gwallt »