Cyrraedd y rhestr fer drwy oresgyn rhwystrau sylweddol i wireddu ei breuddwyd trin gwallt

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Chelsea Fethney wedi gwrthod gadael i heriau mawr iawn yn ei bywyd ei hatal rhag gwireddu ei breuddwyd o ddod yn aelod cymwysedig o staff salon trin gwallt yn Abertawe.

Chelsea Fethney in the salon.

Mae Chelsea Fethney wedi goresgyn heriau i gyflawni ei breuddwyd.

Mae’r ferch 20 oed wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt er iddi fod hefyd yn cefnogi ei mam a’i brawd drwy gyfnodau anodd iawn ers oedran ifanc.

I goroni’r cwbl, mae Chelsea nawr wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, ac maent yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Byddai’n hawdd iddi fod wedi hel esgusodion, ond mae Chelsea benderfynol wedi defnyddio ei phrofiadau teuluol anodd i’w hysbrydoli i gael gyrfa lewyrchus.

“Rwyf wedi gweld fy nheulu yn cael trafferth dod o hyd i waith heb unrhyw gymwysterau. Mae hynny wastad wedi fy ngwthio i wneud yn well gyda fy ngyrfa fy hun,” meddai Chelsea, a wnaeth ei hyfforddiant drwy WBTA ym Mhort Talbot, un o bartneriaid cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Mae cwblhau fy Lefel 2 wedi rhoi’r hyder i mi fynd ymlaen i wneud Lefel 3 ac fe wnes i gwblhau cwrs estyn gwallt hefyd.”

Er gwaethaf ei bywyd cartref heriol, ni fethodd Chelsea un diwrnod o’i hyfforddiant ar y daith i ennill cymhwyster. Mae mor frwd dros ei swydd steilydd llawn amser yn Aspire Art of Hair fel ei bod wedi ysgwyddo amrywiaeth o dasgau eraill gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol y salon, marchnata a chysylltu â chleientiaid.

Mae hi wedi dod yn weithiwr gwerthfawr iawn ac mae bellach yn bwriadu datblygu rhagor o sgiliau trwy ymgymryd â chyrsiau newydd.

“Ers ymuno â’r salon, mae Chelsea wedi ffynnu a rhagori fel prentis,” meddai Jessica Powell, perchennog y salon. “Mae ei gallu i ddysgu ac addasu wedi dangos ei bod nid yn unig yn gallu trin gwallt yn wych, ond hefyd ei bod hi’n aelod allweddol o’n staff sydd wedi mynd o nerth i nerth wrth ennill rhagor o gleientiaid yn sgil ei hawydd cynyddol i wella’i hun.

“Mae hi’n drefnus, yn broffesiynol ac yn wastad yn sicrhau bod gan y salon yr wybodaeth ddiweddaraf o ran ffasiynau allweddol. Byddwn yn falch iawn pe gallai ennill y wobr hon a derbyn y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu gymaint.”

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Chelsea a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —