Arbenigwyr sgiliau Cymru yn cael cydnabyddiaeth yn y Senedd

Postiwyd ar gan karen.smith

Winners (L to R) Joseph Massey, Elizabeth Forkuoh, Alfie Hopkin and Ethan Davies

Ennillwyr (C to Dd) Joseph Massey, Elizabeth Forkuoh, Alfie Hopkin and Ethan Davies

Mae cystadleuwyr o Gymru a ddewiswyd i gynrychioli’r DU yn y gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf yn y byd wedi cael cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau mewn digwyddiad dathlu yn y Senedd.

Cafodd pedwar aelod o Dîm y DU, a fydd yn teithio i rownd derfynol WorldSkills yn Abu Dhabi fis Hydref, ynghyd ag un o aelodau carfan EuroSkills y llynedd, fedalau aur a phlatinwm er cydnabyddiaeth yn y digwyddiad, a fynychwyd hefyd gan Dr Neil Bentley, Prif Weithredwr WorldSkills UK.

Aeth Joseph Massey, 23, o Goleg Cambria; Ethan Davies, 21, o Fynydd Isa; Alfie Hopkin, 18 ac Elizabeth Forkuoh, 20, y ddau o Lanelli, i’r digwyddiad gyda’u teuluoedd, eu tiwtoriaid a’u cyflogwyr i ddathlu llwyddiant eu cyflawniadau mewn pob math o ddiwydiannau, gan gynnwys Melino, Gwasanaethau Bwyty, Dylunio Gwefannau a Pheirianneg Awyrofod.

Yn ogystal, cafodd Nathan Jones, 20, o Gastell-nedd fedal aur i gydnabod ei fod wedi cael ei ddewis i gynrychioli’r DU yn y gystadleuaeth dylunio gwefannau yn EuroSkills yn Gothenberg y llynedd.

Meddai Joseph Massey, a fydd yn cystadlu yn y gystadleuaeth Peirianneg Awyrennol yn Abu Dhabi: “Mae WorldSkills eisoes wedi bod yn un o’r heriau mwyaf cyffrous ac anodd dwi wedi cymryd rhan ynddo erioed, a dwi’n gwybod y bydd y safon yn rownd derfynol y byd yn eithriadol o uchel. Dwi wedi dysgu cymaint o gymryd rhan yn y cystadlaethau, ac mae wedi fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa. Yn fwyaf arbennig, mae wedi fy helpu i ddeall sut gall peiriannau yr awyrennau dwi’n eu cynhyrchu gael eu cynnal a’u trwsio.

“Dwi’n dal i fethu credu y byddai’n cynrychioli’r DU. Dwi’n ei chael hi’n anodd coelio mod i wedi cyflawni’r fath gamp a dwi ddim yn meddwl y bydd y peth yn suddo i mewn yn iawn nes mod i’n camu ar yr awyren i Abu Dhabi!”

Wrth sôn am y digwyddiad, meddai Julie James: “Mae datblygu pobl fedrus yn hollbwysig i’n heconomi ac rydym ni wedi ymrwymo i godi safonau sgiliau ledled Cymru. Mae pob un o’r bobl ifanc hyn yn glod i’w diwydiannau, gan ddangos dawn heb ei hail, ac rwy’n hynod falch ein bod ni wedi gallu cydnabod hynny heddiw.

Mae cystadleuwyr o Gymru’n cynrychioli dros ddeg y cant o Dîm y DU, sy’n dangos safon y bobl ifanc sy’n cael eu meithrin gan golegau, cyflogwyr a rhieni ledled y wlad.

Hoffem ddymuno pob lwc i Joseph, Ethan, Alfie ac Elizabeth wrth iddyn nhw gynrychioli Cymru ar lwyfan fyd-eang ym mis Hydref.”

Cafodd enillwyr y medalau aur, arian ac efydd a fu’n cystadlu yn y Sioe Sgiliau yn Birmingham y llynedd eu gwahodd i ddigwyddiad dathlu yn Neuadd y Ddinas, lle rhoddodd hyrwyddwr WorldSkills yng Nghymru, Barry Liles, fedalau i’r bobl ifanc, a chafodd eu cyflogwyr, eu tiwtoriaid a’u teuluoedd eu cydnabod hefyd am eu cymorth a’u hanogaeth.

Meddai Julie James: “Mae’r digwyddiadau hyn yn dod â chystadleuwyr o wahanol gyfnodau yn y cylch cystadlu ynghyd. Rydym ni’n gobeithio y bydd clywed gan gystadleuwyr llwyddiannus eraill o Gymru yn ysbrydoli’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Sioe Sgiliau i ddilyn esiampl eu cyfoedion a gweithio tuag at gynrychioli eu gwlad ar lefel ryngwladol yn rownd derfynol WorldSkills 2019 yn Kazan.”

Mae’r cystadlaethau hyn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu gweithlu hynod fedrus ac unigolion heb eu hail.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.worldskillswales.org

More News Articles

  —