NTfW yn penodi pedwar cyfarwyddwr newydd i gryfhau’r bwrdd

Postiwyd ar gan karen.smith

The NTfW’s new board members (from left) Gareth Matthews, Ruth Collinge, Alan Mackey and Grant Santos.

Aelodau newydd bwrdd NTfW (o’r chwith) Gareth Matthews, Ruth Collinge, Alan Mackey a Grant Santos.

English | Cymraeg

Mae sefydliad sy’n cynrychioli’r rhwydwaith o ddarparwyr prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi cryfhau ei fwrdd â phedwar penodiad newydd.

Bydd llwyth gwaith Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cynyddu oherwydd yr heriau a’r cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil yr ardoll brentisiaethau a gyflwynwyd y mis diwethaf a nod Llywodraeth Cymru o sicrhau o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel i bobl o bob oed dros dymor y Cynulliad hwn.

Aelodau newydd y bwrdd yw Grant Santos, rheolwr gyfarwyddwr Educ8, Abercynon, Ruth Collinge, rheolwr contractau North Wales Training ym Mochdre, Bae Colwyn, Alan Mackey, cyfarwyddwr rhanbarthol Sgiliau Cymru yn PeoplePlus UK sy’n byw ym Mhorthcawl a Gareth Matthews, cyfarwyddwr gydag Itec Skills and Employment, Caerdydd.

Croesawyd aelodau newydd y bwrdd gan Sarah John, cadeirydd NTfW. “Maen nhw i gyd yn dod â chyfoeth o brofiad yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ac rwy’n gwybod eu bod yn awyddus i ddechrau ar unwaith ar y gwaith o gynrychioli’r rhwydwaith cyfan.

“Gyda dyfodiad Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru, mae’r NTfW wedi cynnal adolygiad o lywodraethiant y sefydliad, ynghyd â’i gynlluniau strategol a gweithredol,” meddai.

“Rydyn ni’n wynebu llawer o heriau a chyfleoedd newydd gyda dyfodiad yr ardoll brentisiaethau ac wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o sicrhau o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel ar gyfer pobl o bob oed dros dymor y Cynulliad hwn.

“Bydd aelodau ychwanegol y bwrdd yn galluogi’r NTfW i ymateb yn well i’r cynnydd yn y galw sydd ar y sefydliad o ran cynrychiolaeth allanol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu polisïau.

“Rydyn ni’n awyddus i sicrhau mai’r NTfW yw’r sefydliad awdurdodol y bydd yr holl unigolion a sefydliadau sy’n dymuno ymwneud â’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru yn troi ato’n naturiol.”

Bu Mrs Collinge yn aelod o fwrdd NTfW o’r blaen rhwng 2008 a 2012. Bu’n gweithio yn y diwydiant hyfforddi ers 22 o flynyddoedd ac mae wedi tyfu gyda North Wales Training gan ddechrau fel asesydd lletygarwch.

“Rwy’n ailymuno â’r bwrdd mewn cyfnod cyffrous iawn,” meddai. “Mae llawer iawn o waith i’w wneud ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi a helpu gyda’r rhai o’r prosiectau a chynrychioli gogledd Cymru. Rwy’n credu y gall yr NTfW fod yn llawer mwy dylanwadol yn y dyfodol.”

Bu Mr Mackey, sy’n byw ym Mhorthcawl, yn gweithio i PeoplePlus ers pum mlynedd a bu’n ddirprwy brif weithredwr TEC Gorllewin Cymru yn gynharach yn ei yrfa. Rhwng y cyfnodau hynny, bu mewn swyddi uchel yn y sector gwasanaethau ariannol am ddeng mlynedd.

Dywedodd ei fod yn gobeithio defnyddio’i wybodaeth o fyd busnes yng Nghymru a’r farchnad hyfforddiant a sgiliau i wneud cyfraniad gwerthfawr at fwrdd NTfW.

“Rwy’n falch o gael helpu i gefnogi’r NTfW a chyfrannu at rwydwaith y credaf y bydd yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr a phwysig iawn at hyfforddiant a sgiliau ledled Cymru,” meddai.

Bu Mr Santos yn gweithio i Educ8 ers degawd ac yn ymwneud â’r sector addysg a hyfforddiant ers dros 20 mlynedd. Mae’n ailymuno â bwrdd NTfW ar ôl absenoldeb o 18 mis.

“Mae dysgu seiliedig ar waith a’r NTfW wedi symud ymlaen yn fawr yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae gan y bwrdd agwedd newydd, ffres,” meddai. “Rwy’n credu’n gryf mewn dysgu seiliedig ar waith a dysgu galwedigaethol ers 20 mlynedd ac rwy’n awyddus i helpu i lywio’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru, dylanwadu arni a’i hyrwyddo.

“O Ystrad Mynach rwy’n dod ac rydw i’n awyddus i annog pobl y Cymoedd a Chymru gyfan i fod yn fwy uchelgeisiol a gweithio i wireddu eu breuddwydion.”

Mae gan Mr Matthews, sy’n dod o Ynyshir yng Nghwm Rhondda, dros 40 mlynedd o brofiad ym maes sgiliau a chyflogadwyedd mewn nifer o swyddi uchel mewn meysydd gweithredol a datblygu busnes.

Cyn ymuno ag Itec Skills and Employment, bu’n gyfarwyddwr gwasanaethau lles gyda Serco, yn gweithio ar gontractau cyflogadwyedd a sgiliau ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn ogystal, bu’n gyfarwyddwr gweithredol Working Links a bu ganddo nifer o uwch swyddi arweiniol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Cafodd ei gyfraniad i’r sector gwasanaethau cyflogaeth ei gydnabod â Gwobr Cyflawniad Oes ERSA yn 2014 a chafodd ei waith yn gwella ymgysylltiad cymunedol ac ansawdd bywyd yn y Rhyl ei gydnabod gan y Prif Weinidog.

“Rwy’n dod â gwybodaeth ac arbenigedd i’r bwrdd – ym maes cyflogadwyedd, rheoli contractau mawr i’r llywodraeth, gweithio i gwmnïau ar y FTSE 100 a chyflawni blaenoriaethau strategol,” meddai.

“Hoffwn helpu i roi’r NTfW mewn sefyllfa lle mae’n dylanwadu ar ffordd y llywodraeth o feddwl a’i pholisïau ac yn eu llunio’n rhaglenni. Y peth pwysig yw meithrin perthynas ac ymddiriedaeth er mwyn bod mewn sefyllfa lle rydyn ni’n dylanwadu ar bethau cyn iddynt ddigwydd.”

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy’n ymwneud â chyflenwi dysgu yn y gweithle yng Nghymru.

More News Articles

  —