Arddangos Talent Cymru wrth i Enillwyr Cystadlaethau WorldSkills UK Gael Eu Coroni yn y Skills Show

Postiwyd ar gan karen.smith

Barry Liles, Principal Coleg Sir Gar and Ken Skates, Deputy Minister for Skills and Technology, with gold winning Environmental Science winners Bethanie Palmer and Andrew Dennis from Coleg Sir Gar.

Anrhydeddwyd pobl ifanc fwyaf medrus Cymru mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn y Sioe Sgiliau, a gymerodd le o 14 – 16 Tachwedd yn yr NEC Birmingham.

Daeth 15 medal yn ôl i Gymru, a 6 arall wedi derbyn cymeradwyaeth uchel, yng nghystadlaethau terfynol WorldSkills UK, gan gynnwys wyth gwobr Aur, tair gwobr Arian a phedair gwobr Efydd yn dilyn cystadlu yn erbyn y goreuon ledled y DU.

Cyflwynwyd y gwobrau aur i fyfyrwyr a hyfforddeion Cymru mewn Gwydr Lliw Pensaernïol, Plastro, Gwyddor Amgylcheddol, Gwaith Saer, Atgyweirio Cyrff Cerbydau Modur a Rheolaeth Ddiwydiannol.

Ymhlith yr enillwyr oedd y myfyrwyr o Goleg Sir Gâr, Bethanie Palmer ac Andrew Dennis, Eifion Jones o Goleg Menai, Owain Jones o Goleg Meirion Dwyfor, a myfyriwr Prifysgol y Drindod Dewi Sant – Abertawe, Christopher Woodley. Cafwyd enillwyr o Gymru hefyd mewn Adweitheg, Peintio Cerbydau Modur ac Atgyweirio Cyrff Cerbydau Modur, Technegydd TG Microsoft, a Gosodiadau Trydanol gan ennill cymysgedd o wobrau Arian ac Efydd.

Mae Cystadlaethau WorldSkills UK yn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion i fod yn uchelgeisiol wrth fynd ar drywydd sgiliau o’r radd uchaf a dyma yw uchafbwynt y Skills Show. Yn ystod y digwyddiad, brwydrodd dros 700 o brentisiaid, gweithwyr a dysgwyr mwyaf dawnus y DU – yn cynnwys 60 o Gymru mewn 70 o gystadlaethau’n amrywio o Wyddor Fforensig i Flodeuwriaeth i gael eu henwi’r ‘gorau yn y DU’ yn eu sgil dethol.

Enillodd cystadleuwyr Cymru eu lle yn y Skills Show ar ôl brwydro yn erbyn eu cymheiriaid. I ddechrau, bu iddynt gystadlu yn lleol, gyda’r

enillwyr yn cael eu gwahodd i gystadlu ar lefel genedlaethol, fel rhan o’r rhagbrofion a drefnwyd mewn colegau ar hyd a lled Cymru gan Skills Competition Wales (SCW).
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Skills Competition Wales yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu gweithlu medrus, gyda’r nod o hybu sgiliau lefel uchel yng Nghymru.

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Llongyfarchiadau i holl enillwyr y flwyddyn hon. Mae sgiliau’n hollbwysig i ddyfodol ein gwlad ac mae’n wych gweld cynifer o bobl ifanc ddawnus yn cymryd rhan ac yn dangos eu harbenigedd. Rwy’n gobeithio y bydd yr enillwyr heddiw’n ysbrydoli pobl eraill i ddechrau dysgu sgil newydd a allai arwain at yrfa newydd ac wedyn i ddod yn sêr y dyfodol.”

Gallai’r cystadleuwyr o gylch Cystadlaethau Worldskills UK eleni fod yn gymwys i gystadlu am le yn y tîm a fydd yn cynrychioli’r DU yn Worldskills Sao Paulo yn 2015. Cynhelir Cystadleuaeth WorldSkills bob dwy flynedd mewn dinasoedd ym mhedwar ban byd a hon yw’r gystadleuaeth sgiliau rhyngwladol fwyaf.

Ychwanegodd Keith Smith, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau a Chynrychiolydd Swyddogol y DU i WorldSkills International: “Rwy’n llongyfarch enillwyr WorldSkills UK. Mae’n rhaid wrth waith caled, penderfyniad a lefel uchel o sgiliau i gystadlu yn erbyn prentisiaid a dysgwyr mwyaf dawnus y DU.

“Trwy gynnal Rownd Derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK yn y Skills Show, gallwn arddangos a dathlu lefelau uchel y doniau sy’n dod i mewn i weithlu’r DU.”

Er mwyn cofrestru’ch diddordeb ar gyfer cylch nesaf Cystadlaethau Worldskills UK, ewch i www.worldskillsuk.org

More News Articles

  —