Taflen Newyddion – Tachwedd 2013

Postiwyd ar gan karen.smith













Darparwyr Hyfforddiant yn Cael Rhan Allweddol yn Llwybr Sgiliau Pobl Ifanc

Deputy Minister for Skills and Technology Ken Skates (second from left) with other speakers at the NTfW’s annual conference (from left) NTfW chairman Wynne Roberts, FSB Wales’ head of external affairs Iestyn Davies, NTfW chief executive Arwyn Watkins, Edge Foundation's chief executive Jan Hodges and Skills for Health senior consultant Jan Parfitt.

Mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, wedi galw ar ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru i chwarae rhan allweddol yn pennu llwybr clir i gyflogaeth, cyfleoedd a llwyddiant ar gyfer holl bobl ifanc Cymru.

Wrth annerch 160 o bobl yng nghynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, soniodd am y camau fyddai’n angenrheidiol er mwyn rhoi cefnogaeth, canllawiau a chyfle i bobl ifanc lwyddo.

Thema’r gynhadledd oedd ‘Meithrin Doniau: Adeiladu Gweithlu’r Dyfodol yng Nghymru’, a bu’n ystyried sut y gall darparwyr dysgu seiliedig ar waith gydweithio â rhanddeiliaid allweddol i ddiwallu anghenion economi a chyflogwyr Cymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint.

“Yn y dyddiau cyn datganoli, pennwyd nod uchelgeisiol o weld hanner ein pobl ifanc yn symud ymlaen i addysg uwch,” meddai’r Dirprwy Weinidog yn ei anerchiad mawr cyntaf yn y swydd. “Yr hyn na wnaethon ni, ond yr ydw i fel Gweinidog am ei wneud, yw sôn am yr hyn sy’n digwydd i’r hanner arall.”

Esboniodd fod cyfatebiaeth, cyflogadwedd ac ymgysylltiad yn allweddol er mwyn helpu pobl ifanc i fynd ar y llwybr iawn. “Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod y cyrsiau a’r rhaglenni a gynigir gan ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr eraill yn cyfateb i anghenion cyflogwyr.

“Rwy am sicrhau bod y cyrsiau a’r sgiliau a gynigir yn arwain at swyddi a thwf, gan helpu busnesau a datblygu pobl sydd mewn gwaith neu’n chwilio am waith. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd ac yn dal i ddigwydd yn y dyfodol, rwy am gyhoeddi datganiad polisi ar sgiliau yn fuan.”

Canmolodd ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith am chwarae “rhan hanfodol” yn diwallu anghenion busnesau ac addawodd y byddai Llywodraeth Cymru’n dal i gefnogi prentisiaethau a rhaglenni llwyddiannus eraill ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Ar gyflogadwyedd, pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog fod angen arfogi pobl ifanc â’r profiad, y sgiliau a’r agweddau angenrheidiol er mwyn cael a chadw gwaith.

Yna, i gloi, ar fater ymgysylltu, dywedodd y Dirprwy Weinidog ei bod yn bwysig dod i ddeall a disgwyl bod unigolion, ysgolion, cyflogwyr a’r Llywodraeth yn rhannu’r cyfrifoldeb dros sgiliau.

Roedd dulliau ariannu rhaglenni dysgu seiliedig ar waith yn y dyfodol yn thema allweddol gan brif weithredwr NTfW, Arwyn Watkins. Dywedodd ei bod yn rhaid i’r aelodau fod yn barod i chwilio am gyllid o lefydd heblaw Llywodraeth Cymru ac Ewrop yn y dyfodol, gan gydweithio i feddwl am atebion ym myd swyddi a sgiliau.

Rhybuddiodd nhw yn erbyn “cwsg-gerdded i’r dyfodol” gan gredu y byddai’r cyllid gan Lywodraeth Cymru’n parhau ar ei lefel bresennol. Roedd y dystiolaeth yn awgrymu y byddai llawer llai o arian cyhoeddus ar gael, a’r disgwyl oedd y byddai cyllideb Sefydliadau Addysg Bellach yn gostwng rhwng £15 miliwn ac £20 miliwn yn 2014-15.

“Er mwyn i’r rhwydwaith wireddu’r dyheadau ym maes dysgu seiliedig ar waith, bydd raid i ni sicrhau cyllid o ffynonellau gwahanol – cyflogwyr, dysgwyr neu noddwyr corfforaethol sy’n credu bod arnynt gyfrifoldeb cymdeithasol i fuddsoddi canran o’u helw er mwyn gwireddu dyheadau ieuenctid y wlad i feithrin sgiliau,” meddai Mr Watkins.

Apeliodd ar aelodau NTfW, Llywodraeth Cymru ac Estyn i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n ddoeth trwy gael gwared ar fiwrocratiaeth a dyblygu gwaith, a thargedu cyllid yn fwy penodol at gyflenwi sgiliau.

Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i gynnwys NTfW a chydnabod darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn y Bil Addysg (Cymru) newydd, sydd ag oblygiadau mawr i ddyfodol y gweithlu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Trwy anwybyddu darparwyr dysgu seiliedig ar waith, roedd Llywodraeth Cymru’n gwastraffu cyfle ardderchog i sicrhau bod dysgu galwedigaethol yn cael yr un parch ag addysg academaidd, meddai.

Un arall oedd o’r farn y dylai’r ddau lwybr gael yr un parch oedd Jan Hodges, prif weithredwr Edge Foundation a ddywedodd yr hoffai weld perthynas weithiol agosach â’r NTfW er mwyn dathlu dysgu galwediaethol.

Mewn araith heriol, galwodd Iestyn Davies, pennaeth materion allanol Ffederasiwn y Busnesau Bach ar aelodau NTfW i arwain y gwaith o ymgysylltu â busnesau bach a chanolig Cymru er mwyn darparu gweithlu medrus ar eu cyfer a thrawsnewid economi Cymru.

Dywedodd fod aelodau’r Ffederasiwn yn tueddu i feddwl mai rhywbeth i gwmnïau mawr oedd prentisiaethau, nid rhywbeth iddyn nhw. Mae angen i lwybrau i addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith gael eu marchnata yr un mor frwd ag addysg uwch, meddai.

Rhybuddiodd ef y cynadleddwyr y byddai’n rhaid gweithredu’n wahanol i ddarparu’r sgiliau y mae ar economi Cymru eu hangen yn awr ac i’r dyfodol, ac roedd o blaid rhannu prentisiaethau er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu sgiliau sy’n berthnasol i fusnesau o bob maint.

Y siaradwyr eraill oedd Jan Parfitt o Sgiliau Iechyd, a Joe Banks, pennaeth cymorth a chanllawiau ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Ar ôl y gynhadledd, cynhaliwyd cinio i gyflwyno Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Noddir y gynhadledd a’r gwobrau gan Pearson PLC a’r partner yn y cyfryngau yw Media Wales.

Yn ôl i’r brig»

Dathlu Llwyddiant y Goreuon yn Seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Cafwyd cyfle i ddathlu’r dechnoleg ddiweddaraf mewn busnesau blaengar, rhaglenni prentisiaethau pwrpasol sydd wedi’u cynllunio i ateb anghenion diwydiant, a llwyddiant ysbrydoledig unigolion mewn seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd neithiwr (Hydref 18).

Roedd seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn dwyn ynghyd y goreuon ymhlith dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant Cymru sydd wedi dangos ymroddiad llwyr i ddatblygu sgiliau a gwella busnesau.

Trefnwyd y gwobrau, sy’n dathlu rhagoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Cawsant eu noddi gan Pearson, gyda chymorth Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae’r gwobrau’n cydnabod llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau ac wedi dangos mentergarwch, creadigrwydd a gwir ymrwymiad i wella sgiliau er budd economi Cymru.

Mae prentisiaethau wrth galon effeithiolrwydd busnesau ac maent yn darparu pobl dalentog sydd â’r sgiliau angenrheidiol fel y gall cyflogwyr ffynnu a chystadlu. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dyma’r enillwyr: Cyflogwr Bychan y Flwyddyn: Gwesty Maes Manor, y Coed-duon. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Mabey Bridge Ltd, Cas-gwent. Macro-gyflogwr y Flwyddyn: Airbus Operations Ltd, Brychdyn. Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn: ISA Training, Pen-y-bont ar Ogwr. Gwobr i Ddarparwr Prentisiaethau am Ymatebolrwydd Cymdeithasol: Acorn, Casnewydd.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Alex Birbeck, Airbus Operations Ltd, Brychdyn. Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Paula Blundell, Ysgol Mynydd Isa, ger yr Wyddgrug. Prentis y Flwyddyn: April Davies, Dolfor, y Drenewydd. Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn: Nick Petrakis, ‘nickymichaels’, Caerdydd. Noddwr gan Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Dominic Evans, Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.
Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Lucy Price, Bangor. Twf Swyddi Cymru – Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn: Ffion Malwala, Prestatyn. Dysgwr y Flwyddyn – Camau at Waith: Nicola Sanigar, y Barri. Noddwr gan Hyfforddiant ACT.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: “Mae’r Gwobrau Prentisiaethau yn gyfle i ni ddathlu’r gwahanol sgiliau sydd gan ein pobl ifanc i’w cynnig a’r ymroddiad a ddangosir gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr haeddiannol.

“Roedd yn bleser gwirioneddol cael cyfarfod â phobl ifanc sy’n gweithio mor galed, sydd mor uchelgeisiol ac sydd wedi cyflawni cymaint, a’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant sydd wedi mynd yr ail filltir i helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial. Maen nhw’n haeddu eu canmol ac yn ysbrydoliaeth i bobl eraill.

“Mae’r cyhoeddiad am y gyllideb yn ddiweddar wedi cadarnhau y daw £12.5 miliwn yn ychwanegol i ymestyn ein rhaglen Twf Swyddi Cymru am bedwaredd flwyddyn. Mae hyn yn golygu y gallwn greu dros 4,000 o swyddi ychwanegol ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn 2015-16. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru’ buddsoddi £20 miliwn arall yn 2015-16 i gefnogi prentisiaethau. Mae hyn yn newyddion gwych i’n pobl ifanc a’n cyflogwyr ni a bydd yn golygu y gallwn wneud gwahaniaeth mawr.”

Dywedodd Arwyn Watkins, prif weithredwr NTfW: “Mae’r enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn enghreifftiau ardderchog o’r ffordd y gall cyflogwyr, prentisiaid, darparwyr hyfforddiant a Llywodraeth Cymru gydweithio i ddatblygu gweithlu effeithiol.

“Hoffwn ganmol Llywodraeth Cymru am ymrwymo i brentisiaethau o hyd a rhwydwaith yr NTfW am barhau i gyflenwi rhaglenni dysgu seiliedig ar waith o safon uchel sydd wedi rhoi Cymru yn y brif gynghrair. Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ffenest siop hollbwysig wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod llwybrau dysgu galwedigaethol yn cael yr un parch â’r rhai academaidd.”

Yr Enillwyr:

Daeth dwy wobr i Airbus Operations Ltd, sef un o’r gwneuthurwyr awyrennau mwyaf yn y byd, sy’n cynhyrchu adenydd ym Mrychdyn. Enillodd y cwmni y wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn ac enillodd un o’r gweithwyr, Alex Birbeck, 21 oed, wobr Prentis Uwch y Flwyddyn.

Rhaglen Brentisiaethau Airbus yw conglfaen ei strategaeth sgiliau. Mae’n llwyddo i gadw doniau y tu mewn i’r cwmni a’u datblygu gan sicrhau bod gweithlu medrus iawn gan un o brif wneuthurwyr awyrennau y byd. Mae’r busnes yn cyflogi 350 o brentisiaid ac yn dal i arwain yn y sector.

Yn ddiweddar, llwyddodd Alex o Fwcle i gwblhau Prentisiaeth Uwch mewn Peirianneg ac mae’n anelu at ennill Gradd mewn Peirianneg Awyrofod. Mae wedi cyfrannu’n bersonol at brosiectau fel Dylunio Awyrennau Teithiau Hir, lle’r oedd angen ateb peirianyddol i gwestiwn am set adenydd awyren A330.

Gwesty Maes Manor, y Coed-duon, oedd enillwyr gwobr Cyflogwr Bychan y Flwyddyn. Maent wedi llwyddo i godi morâl a chynhyrchiant ers iddynt sefydlu rhaglen brentisiaethau bron ddwy flynedd yn ôl. Erbyn hyn, mae’r gwesty’n cyflogi 10 prentis.

Aeth gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn i gwmni Mabey Bridge Ltd o Gas-gwent a lansiodd Raglen Brentisiaethau wyth mlynedd yn ôl i sicrhau cyflenwad cyson o wneuthurwyr i’r busnes llwyddiannus. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi dros 600 o bobl, yn cyflenwi dyfeisiau pontio dur, tyrau tyrbinau gwynt a gwaith dur strwythurol platiog trwm.

Mae’n un o brif gwmnïau’r byd yn y maes.

Ar ôl dod yn agos at y brig y llynedd, daeth tro ISA Training o Ben-y-bont ar Ogwr i gipio’r clod eleni wrth gael ei enwi’n Ddarparwr Prentisiaethau y Flwyddyn. ISA Training yw darparwr hyfforddiant annibynnol mwyaf Cymru ym maes trin gwallt a harddwch. Mae trosiant y busnes yn £3.5 miliwn erbyn hyn, ddeg gwaith yn uwch na 15 mlynedd yn ôl; mae nifer y dysgwyr wedi codi o 100 i dros 800 a nifer y cyflogwyr mae’n gweithio gyda nhw wedi codi o 35 i dros 400.

Acorn o Gasnewydd enillodd y Wobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol. Menywod agored i niwed o leiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, pobl sy’n gweithio yn y gymuned a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig – mae’r rhain ymhlith dros fil o ddysgwyr y mae’r cwmni wedi’u helpu i gwblhau gweithgareddau dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ar ôl ennill gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn y llynedd, mae Nick Petrakis, 27 oed, sydd â stori ysbrydoledig i’w hadrodd, wedi ychwanegu at ei gasgliad o dlysau eleni trwy gael ei enwi’n Brentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn. Mae wedi cyflawni uchelgais oes trwy agor salon drin gwallt lwyddiannus, ‘nickymichaels’ yng Nghyncoed, Caerdydd.

April Davies, merch benderfynol 21 oed o Ddolfor ger y Drenewydd aeth â gwobr Prentis y Flwyddyn ac mae’n esiampl ardderchog i ferched ifanc a hoffai weithio ym myd amaeth – sy’n dal yn llawn dynion. Nid ar fferm y magwyd April a hi oedd yr unig ferch ar ei chwrs dysgu seiliedig ar waith ond erbyn hyn mae’n gweithio i Dairy Dreams a Common Piece Farm, yr Ystog.

Aeth gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn i Paula Blundell, 40 oed, o Fryn-y-Baal ger yr Wyddgrug. Mae gan Paula un plentyn ac mae wedi profi nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Mae’n gynorthwyydd addysgu a goruchwylydd canol dydd yn Ysgol Mynydd Isa ac yn dweud bod cwblhau Prentisiaeth Sylfaen wedi agor byd newydd iddi.

Mae Dominic Evans, 18 oed, wedi arfer gweld ochr wahanol i’r Celtic Manor, Casnewydd gan ei fod yn gogydd dan hyfforddiant yno ond cafodd le ar y llwyfan neithiwr fel enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu).

Mae Lucy Price, 17 oed, yn cael ei chydnabod yn weithiwr eithriadol sydd â dyfodol disglair o’i blaen yn salon gwallt TH1 ym Mangor a hi oedd enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Lefel 1). Ffion Malwala, 24 oed, a enillodd wobr Twf Swyddi Cymru – Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn. Symudodd Ffion o Gaerdydd i Brestatyn ar ôl graddio i ddilyn gyrfa mewn dylunio graffig gyda Daydream Designs.

Nicola Sanigar, 35 oed, mam i bedwar o’r Barri a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn Camau at Waith. Mae Nicola wedi ennill cymwysterau gofal plant ac wedi cael swydd yn y Daisy Day Nursery.

Hefyd yn y rownd derfynol roedd: Cyflogwr Bach y Flwyddyn (hyd at 49 o weithwyr): Spirit Hair Team, Ystrad Mynach ac Amgueddfa Stori Caerdydd, Caerdydd. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (hyd at 5,000 o weithwyr): Cyngor Sir Ddinbych, Rhuthun a G. E. Aviation, Nantgarw. Macro-gyflogwr y Flwyddyn (dros 5,000 o weithwyr): BT, Caerdydd a Chyngor Sir y Fflint, yr Wyddgrug.

Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn: Coleg Cambria (Consortiwm Sgiliau Canolbarth a Gogledd Cymru), Wrecsam a Vocational Skills Partnership (Cymru) Ltd, Abercynon. Gwobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol: Coleg Cambria (Consortiwm Hyfforddi Canolbarth a Gogledd Cymru), Wrecsam.

Prentisiaeth Sylfaen y Flwyddyn: Joshua Jenkins, DRB Group, Cei Connah ac Ashley Jones, R. J. Auto Centre, Gorseinon. Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn a Phrentis y Flwyddyn: Emma Brooks, Jolly Tots Nursery, Llandrindod ac Aron Wyn Jones, Rehau Ltd, Blaenau Ffestiniog. Prentis Uwch y Flwyddyn: Daniel Holland, Airbus UK, Brychdyn ac Ann Roberts, Cymdeithas Cymorth Hafod, Cwmbrân.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Tamar Girdlestone, Amlwch a Shannon Mason, Caerdydd. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Jordan Jackson, Caerffili a Chloe Lodder, Cwmbrân. Dysgwr y Flwyddyn – Camau at Waith: Sean Parsons, Casnewydd a Kevin Price, Hengoed. Twf Swyddi Cymru – Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn: Gareth Carpenter, Casnewydd a Craig Wadley, Pencoed.

Yn ôl i’r brig»

Cymru’n dathlu dylanwad rhaglen rheoli arian

Left-Right Jeff Protheroe NTfW, Sarah Porretta Lloyds Bank, Bethan Phillips Money for Life Challenge Wales Ambassador, Janet Finch-Saunders, AM for Aberconwy and Rachel Dodge CollegesWales

Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, dathlwyd y dylanwad mae pobl ledled Cymru yn cael yn eu cymunedoedd yn sgil cymryd rhan yn rhaglen arobryn Banc Lloyds, Arian am Oes.

Mae Arian am Oes yn rhaglen rheoli arian personol, gyda’r bwriad o wella gwybodaeth, hyder a sgiliau cymunedau ledled y DU i helpu pobl i reoli eu harian yn well.

Mae cymunedau lleol yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel cwblhau cymwysterau hyfforddiant sydd wedi’u hariannu’n llawn, a chymryd rhan yn yr Her Arian am Oes i unigolion rhwng 16 a 24 oed.

Ers i’r rhaglen ddechrau yn 2010, mae mwy na 2,400 o bobl wedi cael eu hyfforddi i addysgu rheoli arian personol i gymunedau wrth ymgysylltu â 600 o sefydliadau ledled y DU.

Gwnaeth ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, sy’n cyflenwi’r rhaglen yng Nghymru, gynnal y digwyddiad yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd, i ddod â phobl ynghyd sydd wedi sicrhau bod Arian am Oes yn llwyddiant, ac i gyflwyno’r rhaglen i fwy o grwpiau cymunedol a darparwyr dysgu.

Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Llywodraeth Leol, Janet Finch-Saunders, AC Aberconwy, a wnaeth ganmol yr effaith gadarnhaol mae’r rhaglen yn ei chael ar gymunedau ac unigolion ledled Cymru.

“Yn dilyn yr argyfwng ariannol byd-eang, rydym i gyd wedi teimlo’r esgid yn gwasgu yn sgil y sefyllfa gyllidol anodd,” meddai. “Mae hyn wedi achosi cynnydd mewn dyled bersonol a chynnydd mewn benthycwyr arian parod.”

Mynegodd bryder fod mwy na 90,000 o bobl yng Nghymru wedi defnyddio gwasanaethau benthycwyr arian parod ac roedd hi’n frwdfrydig i hyrwyddo rhaglenni rheoli arian, fel Arian am Oes, i atal pobl rhag syrthio i gylch dieflig o ddyled.

Addawodd y byddai’n trafod y rhaglen Arian am Oes yn y Senedd, wrth i Fil Llythrennedd Ariannol Aelod Preifat, a gynigiwyd gan Bethan Jenkins AC Plaid Cymru, gael ei drafod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau i wneud y penderfyniadau cywir gyda’u harian rhwng y broses o ddysgu i ennill cyflog,” ychwanegodd. “Mae’r rhaglen Arian am Oes wedi’i chreu er mwyn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian yn llwyddiannus a chefnogi’r gymuned ehangach i wneud hynny.”

Dywedodd Allan Griffiths, Llysgennad Cymru Grŵp Bancio Lloyds: “Nod y rhaglen Arian am Oes yw sefydlu sgiliau arian mewn cymunedau ledled y wlad a’u helpu i ffynnu. Gwnaethom benderfynu ei bod yn amser nodi’r effaith fendigedig mae’r rhaglen wedi’i chael ledled Cymru.

“Drwy’r Her Arian am Oes, rydym wedi dyfarnu mwy na 350 o grantiau gwerth £500 i dimau o bobl ifanc ddatblygu prosiectau arloesol sy’n cael effaith barhaol ar wella eu sgiliau rheoli arian eu hunain, yn ogystal â’u ffrindiau â’u teuluoedd.

“Mae’n bwysig meddwl am yr effaith gadarnhaol mae rhaglen Arian am Oes wedi’i chael ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd yn parhau i’w chael ledled y wlad.”

Cyflwynodd ddyfarniadau i bum unigolyn a sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniadau aruthrol i lwyddiant y rhaglen yng Nghymru. Ar gyfer cymwysterau Arian am Oes, dyfarnwyd gwobr ymgysylltiad unigol i Siân McDonald o Gartrefi Dinas Casnewydd a derbyniodd Hayley Rees a Ros Protheroe o Hyfforddiant ACT Caerdydd, y wobr am ymgysylltu â sefydliadau.

Ar gyfer yr Her Arian am Oes, dyfarnwyd gwobr noddwr prosiect eithriadol i Ian Reynolds o’r Ganolfan Hyfforddiant a Chyflogaeth yn Abertawe, dyfarnwyd gwobr ymgysylltu â sefydliadau i Lucy Turtle, swyddog menter Coleg Gŵyr Abertawe a dyfarnwyd gwobr am gefnogaeth eithriadol i Kelly Jennings, cydlynydd dysgu a chyfoethogi Coleg y Cymoedd.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd rheolwr y rhaglen Arian am Oes yng Nghymru, Rachel Dodge o GolegauCymru; Llysgennad yr Her Arian am Oes Bethan Phllips; rheolwr gweithrediadau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Jeff Protheroe; swyddog cynhwysiant ariannol Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Paul Elliot; rheolwr cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro, Felix McLaughlin; a Rick Taylor, tiwtor sgiliau hanfodol yng Ngharchar Caerdydd.

Cafodd gweithdai eu cynnal gan Rick Taylor; Sumim Naher a Sian McDonald o Gartrefi Dinas Casnewydd; Lisa Chilcott o Gyngor ar Bopeth Cyngor Caerffili a Blaenau Gwent; a Jen Williams o Gymdeithas Tai Cadwyn.

Cafodd grwpiau rhwng 16 a 24 oed sydd am fod yn rhan o Her Arian am Oes eleni eu hannog i gyflwyno eu ceisiadau cyn y dyddiad cau ar 22 Tachwedd.

Yn ôl i’r brig»

Busnesau yng Nghymru’n elwa o fuddsoddi mewn gwaith datblygu arweinwyr a rheolwyr, yn ôl adroddiad newydd

Dywed cwmnïau yng Nghymru bod gwaith datblygu arweinwyr a rheolwyr wedi gwneud lles i’w busnesau mewn gwahanol ffyrdd, yn cynnwys ehangu’r busnes, arbed costau a cynhyrchu mwy.

Daw’r canfyddiadau o waith ymchwil diweddaraf Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru, sef canolfan ragoriaeth Llywodraeth Cymru ym maes sgiliau arwain a rheoli.

Mae’r adroddiad yn asesu sut y mae nifer o fusnesau Cymru wedi gwerthuso effaith gwaith datblygu arweinwyr a rheolwyr.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Ruth Wootton, rheolwr gyfarwyddwr Momentwm Consulting o Gasnewydd: “Roedd tystiolaeth gref fod y gwaith wedi cael effaith arwyddocaol a chadarnhaol ar berfformiad y busnesau a’u helw.

“Mewn geiriau eraill, mae’r gwaith ymchwil yn awgrymu bod cwmnïau sy’n buddsoddi er mwyn datblygu sgiliau eu rheolwyr a’u harweinwyr ar eu hennill yn fawr.”

O’r 10 busnes Cymreig a astudiwyd:

  • Roedd 8/10 yn gallu dangos tystiolaeth bod dangosyddion perfformiad y busnes wedi gwella;
  • Roedd 6/10 yn gallu dangos arbedion ariannol a ddaeth, yn eu barn nhw, yn llwyr neu’n rhannol o ganlyniad i waith datbygu arweinyddion a rheolwyr;
  • Roedd 7/10 yn gallu cyfeirio at dwf yn y busnes a ddaeth, yn eu barn nhw, yn llwyr neu yn rhannol o ganlyniad i’r gwaith datblygu arweinwyr a rheolwyr.

O’r 33 busnes y cysylltwyd â nhw’n wreiddiol, dywedodd 18 (55%) eu bod o’r farn fod y gwaith datblygu a rweinwyr a rheolwyr wedi arwain at ganlyniadau busnes penodol a/neu arbedion cost.

Dyma rai o’r meysydd lle cafwyd canlyniadau cadarnhaol:

  • Twf yn y busnes – cynnydd mewn trosiant ac elw;
  • Y busnes yn ehangu – arallgyfeirio i feysydd busnes eraill; agor adeiniau ychwanegol i’r busnes; prynu safle mwy;
  • Cynnydd yn y gwerthiant;
  • Cymryd rhagor o staff am fod y busnes yn tyfu;
  • Cadw staff, recriwtio staff ac arbedion ar hyfforddiant;
  • Gwell prosesau a chynhyrchiant a’r arbedion cost cysylltiedig;
  • Rheoli absenoldeb yn well gan arwain at well cyfraddau presenoldeb, ac arbedion cost cysylltiedig;
  • Rheoli pobl/perfformiad yn well a’r arbedion cost cysylltiedig.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru yw’r ganolfan ragoriaeth ar gyfer sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth yng Nghymru. Mae’n rhan o’r rhaglen Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli (ELMS). Mae ELMS yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth am Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru a’u gwasanaethau ar gael yn www.lmw.org.uk/cy/

Yn ôl i’r brig»

ADCDF – Dinasyddiaeth fyd-eang

Dathliadau a diwrnodau ymwybyddiaeth yw’r digwyddiadau isod. Mae pob digwyddiad yn cynnwys manylion gwefannau a defnyddiau i helpu i gynllunio gweithgareddau ar gyfer dysgwyr.

15 Tachwedd 2013 Children in Need – Mae Plant mewn Angen y BBC yn achlysur elusennol sy’n codi arian ar gyfer prosiectau ledled y Deyrnas Unedig i helpu plant.www.bbc.co.uk

28 Tachwedd-5 Rhagfyr 2013 Hanukkah – Caiff cannwyll ei chynnau ar y menorah bob nos yn ystod wyth diwrnod Gŵyl Oleuadau’r Iddewon.www.educationscotland.gov.uk

1 Rhagfyr 2013 Mae llawer o eglwysi Cristnogol y gorllewin yn meddwl am yr adfent fel cyfnod disgwylgar o baratoi at y Nadolig.www.educationscotland.gov.uk

1 Rhagfyr 2013 Diwrnod AIDS y Byd oedd y diwrnod iechyd byd-eang cyntaf ac mae’n cael ei gynnal bob blwyddyn er 1988.www.educationscotland.gov.uk

5 Rhagfyr 2013 Mae Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli yn gyfle i sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, a gwirfoddolwyr unigol, i roi gwybod i bobl am eu cyfraniad ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol.www.educationscotland.gov.uk

25 Rhagfyr 2013 Dathliad Cristnogol yw’r Nadolig i gofio am eni Iesu. Mae hefyd wedi dod yn ŵyl seciwlar boblogaidd pryd y mae teuluoedd yn dod ynghyd, yn mwynhau pryd arbennig o fwyd ac yn cyfnewid anrhegion.www.educationscotland.gov.uk

31 Rhagfyr 2013 Defnyddir y gair Hogmanay yn yr Alban am ddiwrnod olaf y flwyddyn. Gelwir y noson honno’n Nos Galan hefyd. Mae rhai o draddodiadau’r Alban ar gyfer croesawu’r Flwyddyn Newydd wedi’u mabwysiadu dros y byd.
Yn yr Alban, mae Hogmanay’n ddechrau dathliad sy’n para trwy’r nos tan fore Dydd Calan (1 Ionawr) neu, weithiau, tan 2 Ionawr sy’n Wyl Banc yn yr Alban. Yn yr Alban, mae Hogmanay wedi bod yn fwy o ddathliad na’r Nadolig.
Erbyn hyn, mae pobl mewn llawer o wledydd yn canu ‘Auld Lang Syne’ am hanner nos ar nos Galan. Cerdd draddodiadol a ailddehonglwyd gan Robert Burns ac yna’u gosod ar dôn benodol yw ‘Auld Lang Syne’.
www.educationscotland.gov.uk

Yn ôl i’r brig»

Meithrin Sgiliau Dwyieithog yn y Gweithle

Ar 18 Hydref 2013, cynhaliodd Hyrwyddwr Dwyieithrwydd NTfW weithdy rhyngweithiol yng Nghynhadledd Flynyddol NTfW yn y Celtic Manor. Yno, cafodd cynrychiolwyr darparwyr o bob rhan o Gymru gyfle i drafod manteision meithrin sgiliau dwyieithog eu staff, ac yna’r dysgwyr ar gyrsiau eu rhwydwaith, a’r rhwystrau sy’n atal hynny.

Trafodwyd y broses recriwtio gyfan, sy’n cynnwys hysbysebu swyddi yn Gymraeg/ddwyieithog a chynnal cyfweliadau yn ddwyieithog. Fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus staff, bu’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn trafod prosiect newydd gan CBAC, sef Dangosyddion Cymraeg yn y Gweithle, sy’n rhoi cyfle i ddarparwyr hyfforddiant asesu sgiliau Cymraeg eu staff er mwyn cael syniad o wir lefel eu sgiliau.

Mae’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd wir yn gwerthfawrogi cyfraniad y rhai a oedd yn bresennol a hoffai ddiolch i Glenda Brown o CBAC am noddi’r gweithdy a chyfrannu ato.

Os hoffech wybod rhagor, mae croeso i chi gysylltu â’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd ar ryan.evans@ntfw.org Os oes gennych gyfrif Moodle NTfW, gallwch fewngofnodi a mynd i dudalen yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd.

Yn ôl i’r brig»

Rhaglen Arian am Oes – Newyddion Cymru

Bu’n gyfnod prysur iawn i dîm Arian am Oes yng Nghymru yn ddiweddar. Dros yr wythnosau diwethaf, bu Rachel Dodge, ColegauCymru a Jeff Protheroe, NTfW ar daith o gwmpas Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o Raglen Arian am Oes ac fe gynhaliwyd Dathliad llwyddiannus iawn yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd.

Dyma ragor o fanylion am bob elfen o raglen Arian am Oes:

Her Arian am Oes
Cystadleuaeth yw’r Her i ganfod y ffyrdd mwyaf llwyddiannus ac arloesol o wella sgiliau rheoli arian ymhlith pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r cam cyntaf – cam y ceisiadau – yn tynnu at y terfyn. Y cam nesaf fydd rhoi grant o £200 i’r ymgeiswyr llwyddiannus i wireddu eu cynlluniau. Mae manylion yr Her i’w gweld yma: https://www.moneyforlifeprogramme.org.uk/the-challenge/

Arian ar gyfer Cymwysterau
Mae nifer o gymwysterau achrededig a gaiff eu hariannu’n llawn ar gael ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio yn y sectorau addysg a hyfforddiant. Dyma’r cymwysterau a gynigir:

  • Teach Me. Cwrs ar-lein, hunangyfeiriedig, gyda’r nod o ddatblygu dealltwriaeth yr ymarferwyr eu hunain ynghylch rheoli arian.
  • Teach Others. Bwriad y cwrs hwn (wedi’i seilio ar ddwy sesiwn undydd) yw rhoi’r sgiliau a’r hyder i ymarferwyr sydd heb gefndir ffurfiol ym maes addysgu, i gyflwyno sesiynau rheoli arian i grwpiau o bobl. Mae’r rhai sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn ennill cymhwyster Hwyluso Gallu Ariannol (Lefel 3).
  • Money Mentors. Nod y cwrs hwn (sydd hefyd wedi’i seilio ar ddwy sesiwn undydd) yw rhoi’r sgiliau a’r hyder i bob ymarferwr (beth bynnag yw eu cefndir) i gynnal sesiynau rheoli arian 1-1 gydag unigolion. Mae’r rhai sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn cael cymhwyster Sgiliau Mentora Cymheiriaid (Lefel 2).

Does dim rhaid dilyn y cyrsiau hyn yn eu trefn ond mae pob un yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer cyflwyno sesiynau rheoli arian i unigolion a/neu grwpiau o ddysgwyr. Cynhelir y cyrsiau ledled Cymru trwy gydol y flwyddyn ac mae modd eu cynnal ar safle’r darparwyr eu hunain os oes digon o alw. Mae manylion y cymwysterau a gynigir i’w gweld yma:
https://www.moneyforlifeprogramme.org.uk/get-involved/qualifications/

Os oes gennych gwestiwn am unrhyw ran o raglen Arian am Oes (yr Her a/neu’r Cymwysterau) mae croeso i chi gysylltu â Jeff Protheroe o NTfW ar 029 2049 5861 neu ebost jeff.protheroe@ntfw.org

Yn ôl i’r brig»
News from the Regions

Llwyddiant trydanol i brentis o Fôn

Gordon Love, Managing Director, Edmundsons Electrical, Sam Williams, Andrew Basham, Managing Director, Owen & Palmer Electrical, Bangor, and Phil Fagg, President, Electrical Contractors Association.

Mae Sam Williams, trydanwr o dan hyfforddiant, wedi dod i’r brig trwy Brydain ar ôl rhagori mewn cyfres o brofion heriol. Mae Sam, o Benllech, yn ail flwyddyn ei brentisiaeth gydag Owen & Palmer, yn Llandegai, Bangor.

Er mwyn sicrhau bod y safonau’n cael eu cynnal yn y profion y mae Sam a channoedd o ddarpar drydanwyr eraill yn eu sefyll bob blwyddyn, mae Cymdeithas y Contractwyr Trydan (ECA) yn mynd trwy’r canlyniadau. Mae pawb sy’n cael dros 90% yn cael eu henwebu am wobr. Prawf ymarferol yw’r AM2. Corff allanol sy’n ei osod ac yn ei farcio ac mae’n rhan o’r NVQ mewn gwaith trydan.

Ar ôl i’r ECA fynd trwy’r canlyniadau, gwahoddwyd Sam i gyfweliad rhanbarthol ym Manceinion. Llwyddodd i greu argraff ar y panel gyda’i wybodaeth dechnegol a’i ymrwymiad i’w yrfa a chafodd fynd ymlaen i gyfweliad ar lefel Brydeinig yn Llundain. Ar ôl creu agraff yno hefyd, dewiswyd Sam i fynd i noson wobrwyo yng ngwesty Tara Copthorne yn Kensington, Llundain, lle’r enillodd wobr Hyfforddai’r Flwyddyn (Oedolyn).

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Owen & Palmer, Mr Andy Basham: “Rydyn ni’n falch iawn o Sam ac mae’n bleser gennym ei groesawu i’r tîm fel trydanwr cymwysedig.”

Meddai Sam, “Chafodd neb fwy o syndod na mi pan enillais i’r wobr! Dwi wedi bod yn lwcus i gael hyfforddiant da yng Ngholeg Menai a chefnogaeth gan y cwmni. Ar ôl ennill y wobr, dw i hyd yn oed yn fwy penderfynol o fod yn llwyddiannus yn fy ngyrfa!”

Noddwyd y digwyddiad gan Edmonson’s sef cwmni cyfanwerthu nwyddau trydan. Roedd Andy Basham a Bill Ross sy’n diwtor yn y coleg gyda Sam yn y seremoni.

Yn ôl i’r brig»

ISA Training yw Canolfan Arbenigedd ddiweddaraf yr Habia Skills Academy

ISA Training yw’r darparwr hyfforddiant cyntaf yng Nghymru, a’r unig darparwr dysgu seiliedig ar waith yn y Deyrnas Unedig, i ddod yn Ganolfan Arbenigedd gyda’r Habia Skills Academy.

Mae ISA wedi dod yn Ganolfan Arbenigedd mewn Prentisiaethau ar ôl gwneud cais llwyddiannus a chael ei asesu gan arbenigwr yn y diwydiant.

Mae’r Canolfannau Arbenigedd yn rhwydwaith o ddarparwyr dysgu sy’n darparu rhaglenni o’r safon uchaf un.

Mark Izzard oedd yr asesydd ar ran yr HAS a dywedodd, ‘Mae ISA Training yn sefydliad ardderchog ar gyfer Prentisiaethau. Cefais fy ysbrydoli pan fûm i yno yn ddiweddar. Mae ISA yn herio dysgwyr ac yn eu helpu i ddeall y diwydiant yn iawn a meithrin sgiliau cryf. Mae’n rhoi cyfle iddynt weld sut y mae’r diwydiant yn amrywio trwy ymweld â salonau ym Mhrydain ac Ewrop.’
Er mwyn bod yn Ganolfan Arbenigedd, bydd colegau, canolfannau, cynhyrchwyr a chyflogwyr wedi profi eu bod yn bodloni meini prawf heriol dros gyfnod o amser. Yn ogystal, mae’n rhaid bodloni asesydd o’r diwydiant sy’n ymweld â’r safle.

Dywedodd Sarah Heenan, Rheolwr Dysgu a Datblygu gydag ISA, ‘Rydyn ni wrth ein bodd o gael ein cydnabod fel hyn. Ni yw darparwr cyntaf Cymru i gael ein cydnabod gan Habia am safon ardderchog ein gwaith ar Brentisiaethau Trin Gwallt. Mae hynny’n anrhydedd. Mae’n wych bod ein gwaith caled yn cael ei gydnabod ac mae’n deyrnged i frwdfrydedd ac ymroddiad ein staff, y dysgwyr a’r cyflogwyr.’

Yn ôl i’r brig»

Caidee’n denu’r cwsmeriaid diolch i Itec

Head start – Caidee (front) with Itec trainee Katy Cutter

Pan adawodd Caidee Belmont yr ysgol, ei bwriad oedd mynd i’r fyddin – ond yna cafodd ei chyflwyno gan Itec i fyd mwynach trin gwallt.

Mae gan bobl Treorci le i ddiolch, achos erbyn hyn mae Caidee’n berchennog a rheolwr salon trin gwallt boblogaidd, Colour Purple, ynghanol y dref – a hithau’n ddim ond 20 oed!

Mae Caidee’n cael ei chyflwyno fel esiampl o’r hyn y gall pobl ifanc ei wneud os ydynt yn ddigon penderfynol – ac mae mor frwd am y cymorth a gafodd gan Itec fel ei bod yn argymell y gwasanaeth i bobl ifanc eraill ddi-waith ac yn cynnig lleoliadau gwaith i eraill sy’n dilyn hyfforddiant Itec.

Ar ôl gadael Ysgol Gymunedol Sir y Porth, aeth Caidee ar gwrs hyfforddi gyda’r fyddin yn Swydd Efrog ond penderfynodd nad dyna oedd yr yrfa iddi hi. Cafodd ei chyfeirio at raglen hyfforddi Itec gan Gyrfa Cymru, syrthio mewn cariad â thrin gwallt a mwynhau profiad gwaith mewn salonau, gan ennill cymwysterau yn cynnwys NVQ Lefel 1, ASDAN ac ICT.

Dywedodd Caidee, “Rwy’n berson hyderus o ran natur a phan welais fod salon yn Bute Street yn cau, fe neidiais amdani, gan brynu’r stoc a chymryd y rhent. Mae busnes yn dda. Mae gennym ni gwsmeriaid rheolaidd ac mae’n mynd yn dda.”

Ac meddai, “Os ydw i’n cwrdd â rhywun tua fy oedran i sydd heb benderfynu beth i’w wneud neu heb gyfeiriad i’w gyrfa, rwy’n dweud wrthyn nhw am fynd at Itec. Maen nhw’n asesu’ch anghenion, yn eich helpu i gael cymwysterau, yn rhoi hwb i’ch hyder ac yn chwilio am gyfleoedd gwaith i chi. Fe weithiodd i mi!”

Erbyn hyn mae gan Caidee ddau steilydd a thri dan hyfforddiant – dau ohonynt o Itec – yn gweithio iddi yn Colour Purple. Dywedodd un ohonynt, Katy Cutter, “Rwy wrth fy modd. Mae Caidee wedi gwneud yn dda iawn. Mae’n dangos beth y gallwch ei wneud os ydych yn benderfynol.”

Yn ôl i’r brig»

Datblygu Cynllun Rhanbarthol ym maes Cyflogadwyedd a Chyflenwi Sgiliau

Elid Morris, Manager, Regional Learning Partnership South West Wales

Daeth nifer dda o bobl i weithdy llawn gwybodaeth a gyflwynwyd gan Elid Morris, Rheolwr Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru yng Nghynhadledd NTfW yn ddiweddar.

Er bod llawer o’r cynadleddwyr yn gwybod eisoes am waith arloesol y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol, esboniodd Elid sut roedd y gwaith yn cael ei ddatblygu, yn cynnwys cwblhau Cynllun Cyflenwi Rhanbarthol ym maes Cyflogaeth a Sgiliau, ar gyfer rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru.

Yn ogystal, bu Nick McNeill o Lywodraeth Cymru’n amlinellu papur trafod y Llywodraeth, Cyflenwi Cyflogaeth a Sgiliau 2014 – 2020. Mae’r papur hwn i’w weld yn http://www.rlpsww.org.uk/English/news/Documents/Annex_A.pdf

Esboniodd Nick wrth y cynadleddwyr y byddai’r Cynllun Cyflenwi Rhanbarthol yn ffitio i mewn i’r model hwn. Pwysleisiodd mai papur trafod ydoedd a gofynnodd i bobl anfon eu hymateb i Lywodraeth Cymru fel bod barn pawb yn cael ei hystyried.

Gofynnwyd i’r rhai oedd yn y gweithdy drafod a nodi i ba raddau roedd y ddogfen yn cyfateb i syniadau cyfredol y sector; gofynnwyd iddynt ystyried unrhyw agweddau penodol ar anghenion y rhanbarth y dylid eu cynnwys yn y cynlluniau; ystyried ffyrdd y gall y Bartneriaeth sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys a chael cyfraniad rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu’r cynllun; ac ystyried sut y gall rhanddeiliaid ehangach gymryd rhan yn y broses.

Cynhaliwyd trafodaethau llawn mewn grwpiau yn ystod y gweithdy. Gwnaed llawer o bwyntiau dilys ac ystyrlon, yn enwedig ynglŷn â dulliau o sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, a’r ffordd o ddatblygu’r Cynllun Cyflenwi Rhanbarthol yn y dyfodol. Sicrhaodd Elid bawb y byddai eu barn a’u hawgrymiadau’n cael eu hystyried a’u defnyddio i gryfhau’r broses ymgynghori yn syth. Cadarnhaodd Nick McNeill fod hynny’n wir o safbwynt Llywodraeth Cymru hefyd a nododd y manylion cysylltu perthnasol.

Ers y Gynhadledd ym mis Hydref, bu’r Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol yn dal i weithio ar y Cynllun Cyflenwi Cyflogaeth a Sgiliau ac mae wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa sydd i’w gweld ar wefan y Bartneriaeth.
http://www.rlpsww.org.uk/English/news/Documents/PositionStatementCYM.pdf

Yn ôl i’r brig»

Cyrsiau Adeiladu Coleg Cambria yn paratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith

Left-Right: Nigel Parry, Lewis Edwards and Sam Edwards

Mae dau o fyfyrwyr Adeiladu Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy yn dathlu wedi iddynt lwyddo i gael Prentisiaethau gyda chwmni cynnal ac atgyweirio tai lleol, sef Gwasanaethau Cynnal Cambria, sy’n rhan o Gynllun Tai Cymru a’r Gorllewin.

Llwyddodd y brodyr, Sam a Lewis, myfyrwyr gwaith bric yng Ngholeg Cambria i gael y swyddi wedi i’r cwmni gysylltu gydag adran adeiladu’r coleg yn holi a oedd ganddynt ymgeiswyr addas ar gyfer eu swyddi prentisiaeth.

Cafodd y ddau eu cyfweld, ac yn dilyn adborth gwych ynglŷn â’u cyfweliadau, roedd y ddau wrth eu bodd o gael cynnig y prentisiaethau.

Bydd Sam a Lewis yn dychwelyd i Goleg Cambria Glannau Dyfrdwy am un diwrnod bob wythnos i astudio cwrs Diploma CGC lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal, sy’n rhaglen 12 mis. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant yn y coleg a thystiolaeth yn y gweithle o wneud gwaith atgyweirio mewn meysydd fel Gwaith Maen, Coed, Plymio, Plastro ac Addurno. Bydd y brentisiaeth yn eu galluogi i fod yn aml-fedrus, a bydd hyn o fantais fawr iddynt yn y diwydiant adeiladu.

Dywedodd Dave Roberts Dirprwy Gyfarwyddwr Adeiladu yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy: “Ein prif nod yn yr adran Adeiladu yw cael myfyrwyr i mewn i waith. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant lleol er mwyn sicrhau ein bod nid yn unig yn darparu dysgwyr o’r safon gywir ar gyfer eu hanghenion, ond ein bod hefyd yn addasu rhaglenni hyfforddi ar gyfer anghenion y diwydiant lleol, lle bynnag y bo’n bosibl. Mae’n destament i’r cydweithio effeithiol yma bod dau o’n dysgwyr wedi cael eu cymryd ymlaen gan un sefydliad blaengar . Rydym yn falch iawn o’n holl fyfyrwyr sy’n llwyddo i ennill prentisiaeth”.

Dywedodd Nigel Parry, Pennaeth Gwasanaethau Cynnal Cambria yn y Gogledd: “Bu i’r ddau fyfyriwr greu argraff fawr arnaf, a doedd dim dewis gennyf ond cynnig prentisiaeth i’r ddau. Rwy’n falch o allu cynnig prentisiaeth i Sam a Lewis yn eu cymuned leol. Nid yn unig y mae o fudd iddynt hwy a Cambria, ond hefyd i’r economi leol.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Cymru & Gorllewin: “Mae darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl leol yn rhan graidd o’n busnes ac rwy’n falch o groesawu Sam a Lewis i’n sefydliad.
Dim ond yn ddiweddar iawn y mae Cambria wedi ymestyn i Ogledd Cymru ac rwy’n hynod o falch ein bod wedi ffurfio partneriaeth gref gyda Choleg Cambria. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hwy i ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer y gymuned leol.”

Yn ôl i’r brig»

Llwyddiant i ISA Training yng Ngwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont 2013

Left-Right Katie Cole Chwarae Teg, Shirley Davis-Fox ISA Training, Sian Lloyd BBC Presenter

Cafodd ISA Training eu gwobrwyo am eu cyfraniad arbennig at ddysgu seiliedig ar waith ar nos Wener 20 Medi mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr, Llangrallo. Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr oedd yn trefnu’r noson a chyflwynwyd gwobr Busnes Gwasanaethau Busnes y Flwyddyn i Gadeirydd Bwrdd ISA, Shirley Davis-Fox. “Roedden ni wrth ein bodd o gael cyrraedd y rhestr fer ond roedd ennill y wobr yn anhygoel,” meddai Shirley, “yn enwedig o weld safon y busnesau eraill oedd ar y rhestr fer ac, yn wir, yr holl fusnesau oedd yn bresennol ar y noson. Mae hyn yn glod i’r tîm cyfan sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ISA yn dal ar y blaen ym maes dysgu seiliedig ar waith yn y sector gwallt a harddwch.”

Roedd y panel beirniaid wedi’u plesio ag agwedd holistig ISA at hyfforddi prentisiaid, gan roi cyfle i bob prentis gael blas ar fwy na dim ond ‘rhaglen hyfforddi’. Cyfeiriai’r enwebiad at strategaeth unigryw ISA a oedd yn cynnwys trefnu lleoliad gwaith arloesol i 10 o ddysgwyr weithio yn Tarragona, Sbaen am bythefnos fel rhan o Raglen Leonardo y Comisiwn Ewropeaidd. Tynnwyd sylw hefyd at ymgyrch Shirley Davis-Fox i gofrestru pobl trin gwallt er mwyn codi safonau proffesiynol yn y sector, ac at yr hyn a gyflawnwyd gan ddysgwyr arbennig ISA.

Noddwyd y wobr gan Chwarae Teg a’i chyflwyno i Shirley gan Katie Cole o Chwarae Teg a Sian Lloyd sy’n gyflwynydd ar y BBC.

Yn ôl i’r brig»

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

14-17 Tachwedd 2013
The Skills Show yn yr NEC, Birmingham
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

3-7 Mawrth 2014
Wythnos Prentisiaethau
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

4 Mehefin 2014
Diwrnod VQ
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor

Yn ôl i’r brig»

More News Articles

  —