Y Cigydd Buddugol, Tomi’n Apelio Am Geisiadau Am Wobr VQ Yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Y cigydd a’r perchennog busnes Tomi Jones, Dysgwr VQ y Flwyddyn yng Nghymru’r llynedd.

Mae un o gigyddion mwyaf adnabyddus Cymru’n apelio i ddysgwyr a chyflogwyr wneud cais am y Gwobrau Cymhwyster Galwedigaethol (Gwobrau VQ) eleni, sy’n cael eu lansio heddiw (Dydd Mercher, 5 Chwefror).

Cafodd Tomi Jones, 24 oed a pherchennog Jones’s Butchers, Llangollen, hwb mawr i’w yrfa a’i fusnes ar ôl iddo ennill gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yng Nghymru yn 2013 ac nid oes ganddo unrhyw amheuaeth am werth hyfforddiant galwedigaethol.

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos yn glir ddilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol yn eu maes. Mae Gwobr Cyflogwr VQ y flwyddyn yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac sy’n gwneud gwir gyfraniad at wella sgiliau a chystadleugarwch cenedlaethol.

“Roedd ennill Gwobr VQ y llynedd yn gyflawniad enfawr i mi fel cigydd a chreodd y cyhoeddusrwydd o’i gwmpas lawer o archebion ychwanegol i’r siop ac i’m busnes ar-lein,” meddai Tomi, cyn bencampwr Cigydd Ifanc Cymru. “Mae’n profi bod gwaith caled ac ymroddiad yn eich cael chi i’r fan y dymunwch fod.

“Byddwn i’n sicr yn annog dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru i wneud cais am y wobr eleni. Mae fel y Loteri Genedlaethol, mae’n rhaid i chi gystadlu er mwyn ennill. Os enillwch chi, bydd yn eich datblygu chi fel unigolyn ac yn tynnu sylw atoch chi os ydych chi mewn busnes.”

Ers ennill y Wobr VQ, penodwyd Tomi’n llysgennad i ymgyrch ‘Sgiliau’r Dyfodol…Gair yn ei Bryd’ a chystadlodd yng nghystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc Masnachwyr Cig a Bwyd y Ffederasiwn Cenedlaethol yn yr NEC, Birmingham.

Eleni, ei nod yw canolbwyntio ar ehangu ei fusnes yn Llangollen ac mae ganddo gynlluniau cyffrous ar y gweill. Fel cigydd trydedd genhedlaeth, mae wedi bod yn rhedeg y busnes ers pedair blynedd ac mae’n cyflogi dau brentis.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth mewn Sgiliau Cigyddiaeth, mae’n bwriadu symud ymlaen i Lefel Pedwar y Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd gyda’r darparwr hyfforddiant arobryn Cwmni Hyfforddiant Cambrian eleni.

Anogir dysgwyr a busnesau ledled Cymru i ddilyn camau Tomi trwy wneud cais i Wobrau VQ eleni a gefnogir gan yr UE. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 4 Mehefin, sef Diwrnod VQ, sy’n ddathliad cenedlaethol o bobl sydd wedi cyflawni llwyddiant mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i’r ffurflenni enwebu gwobr yn: www.vqday.org.uk/vq-awards a rhaid iddynt gael eu llenwi erbyn 2 Mai.

Nod Diwrnod VQ, menter a sefydlwyd gan yr elusen addysg annibynnol, Edge Foundation, yw codi ymwybyddiaeth o’r rôl y mae dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol yn ei chwarae yn y gymdeithas ac yn economi’r DU. Mae Diwrnod VQ yn cefnogi’r uchelgais y dylai cymwysterau galwedigaethol, nad ydynt ddim ond ar gyfer pobl ifanc, yn cyflawni parch sy’n gydradd â llwybrau addysgol eraill.

Dywedodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru: “Mae’n bryd i Gymwysterau Galwedigaethol gael y gydnabyddiaeth maent yn eu haeddu. Nhw yw’r safon aur mewn rhagoriaeth broffesiynol a rhaid i ni sicrhau y cânt eu cefnogi ochr yn ochr â’r cymwysterau academaidd o ran eu gwerth i ddysgwyr ac economi Cymru.

“Mae gan Gymru gyfoeth gwirioneddol o bobl ddawnus ac ymroddedig sydd wedi rhagori ar eu hastudiaethau galwedigaethol ac mae Diwrnod VQ yn gyfle i ni ddathlu eu cyflawniadau. Fel y mae stori Tomi’n dangos i ni, mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae’n symbol o ymroddiad tuag at y proffesiwn a ddewiswyd gennych.

“Mae cyn bwysiced hefyd ein bod ni’n cydnabod rôl y cyflogwyr wrth hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle. Bydd eu cefnogaeth a’u hymrwymiad yn hollbwysig er mwyn cyflawni’n uchelgais o greu Cymru sy’n fwy hynod fedrus.”

Mae darparwyr dysgu ledled Cymru’n cael eu hannog i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ a chysylltu gyda dysgwyr o bob oedran. Cydlynir Diwrnod VQ a Gwobrau VQ yng Nghymru gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru ac fe’i hariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn bwysicach i’r economi ac i’r unigolyn gan eu bod yn cyflwyno’r gweithwyr hyfforddedig a dawnus y mae busnesau’n ysu amdanynt ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau y mae eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

More News Articles

  —