Raglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel yn ennill gwobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr rhanbarthol datblygu sgiliau Anelu’n Uchel, Tara Lane, ac Andrew Bevan, cydlynydd prosiectau Anelu’n Uchel Blaenau Gwent, Jared Green, cydlynydd prosiectau Anelu’n Uchel Merthyr Tudful a Deb Ryan-Newton, rheolwr cyflogadwyedd Merthyr Tudful.

Mae Rhaglen Brentisiaethau lwyddiannus sy’n anadlu bywyd newydd i’r sector gweithgynhyrchu uwch yn ardaloedd dau awdurdod lleol yn y de wedi’i chydnabod â gwobr genedlaethol o bwys.

Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful a enillodd Wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.

Cafodd y Rhaglen Rhannu Prentisiaethau ei chreu chwe blynedd yn ôl i fynd i’r afael â lefelau diweithdra uchel a lefelau sgiliau cymharol isel yn y diwydiant gweithgynhyrchu ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful.

Eisoes, cafodd 123 o brentisiaid a nifer o gwmnïau fudd uniongyrchol o ddulliau gweithredu arloesol y rhaglen. Caiff y dysgwyr eu cylchdroi o gwmpas nifer o gyflogwyr er mwyn llenwi bylchau sgiliau trwy gael hyfforddiant yn y gwaith a chwblhau unedau tuag at eu prentisiaeth.

Dywedodd y rheolwr datblygu sgiliau rhanbarthol, Tara Lane: “Rydym mor falch ein bod wedi ennill y wobr bwysig hon eto a hoffem ddiolch i’n partneriaid, y cyflogwyr ac, yn bwysicaf oll, i’n prentisiaid am eu gwaith caled mewn blwyddyn a fu mor anodd i bawb.

“Mae wedi bod yn dipyn o her ond mae pawb wedi addasu i’r ffyrdd gwahanol o weithio a gallwn ymfalchïo nad ydym wedi colli yr un prentis trwy gydol y pandemig a’n bod wedi dal ati i gynnig rhaglen hyfforddi a chefnogi o safon uchel.

“Tîm bychan iawn ydym ni ac, er clod i’n staff, fe lwyddon nhw i gystadlu â’r cyflogwyr mawr eraill. Rhaid canmol eu hymdroddiad a’u hangerdd wrth helpu prentisiaid i sicrhau gyrfaoedd trwy raglen brentisiaethau.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Sefydlwyd Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel yn wreiddiol yn 2015 pan sylwodd Bwrdd Ardal Fenter Glyn Ebwy bod prinder gweithwyr â sgiliau Lefel 3 ac uwch ym Mlaenau Gwent. Ar ôl dwy flynedd, ymunodd Merthyr Tudful â nhw i geisio sicrhau twf busnesau a gwella sgiliau gan ostwng lefelau diweithdra.

Erbyn hyn, mae Anelu’n Uchel yn cydweithio â Choleg y Cymoedd, sy’n gysylltiedig â Choleg Gwent, a Choleg Merthyr Tudful i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus. Gwnânt hyn trwy gynnig prentisiaethau mewn Peirianneg Drydanol, Peirianneg Fecanyddol, TGCh, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg Ansawdd ynghyd â Gweinyddu Busnesau, Gweinyddu Masnachol, a Chyllid.

Y nod yw recriwtio 20 o brentisiaid newydd bob blwyddyn ac mae Anelu’n Uchel wedi sicrhau llwyddiant o 100% wrth drefnu bod tîm yn hwyluso’r drefn o sicrhau gwaith gyda gwahanol gyflogwyr a delio ag unrhyw broblemau wrth iddynt godi. Mae dros 30 o gyflogwyr wedi dod yn rhan o’r rhaglen.

“Mae Anelu’n Uchel yn batrwm gwych o gydweithio,” meddai Matthew Tucker, pennaeth cynorthwyol Coleg y Cymoedd. “Oherwydd llwyddiant y rhaglen, mae Anelu’n Uchel yn un o brif brosiectau’r sector.”

Wrth longyfarch Anelu’n Uchel, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —