Awdurdod Abertawe a’i bolisi ‘meithrin ei weithlu ei hun’ ar restr fer am wobr genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae polisi “meithrin ei weithlu ei hun” wedi rhoi adran Gwasanaethau Adeiladu ac Eiddo Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe ar restr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol.

Mae’r awdurdod, sy’n recriwtio ac yn hyfforddi prentisiaid er mwyn datblygu ei allu a’i sgiliau i’r dyfodol, yn rownd derfynol categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014 a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

Trefnir y gwobrau, a rennir yn 13 categori, ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae adran Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe wedi datblygu strategaeth “o’r crud i’r bedd” i dargedu rhaglenni prentisiaeth a chyn-brentisiaeth. Mae hyn yn sicrhau bod ganddo gyflenwad parhaus o staff sydd wedi’u hyfforddi i gyflwyno gwasanaethau, gan gynnwys cynnal a chadw tai, newid ffenestri, gwasanaethu nwy a gwaith cynnal a chadw arall.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi recriwtio 17 o brentisiaid ac wedi recriwtio 12 pellach ar gyfer 2014/15, gyda 40 prentis yn gweithio i’r awdurdod ar hyn o bryd. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae 47 prentis wedi’u recriwtio.

“Mae gennym amcan allweddol i gyflawni a chynnal cymhareb 10 y cant o brentisiaid/crefftwyr,” meddai Emma Lewis, swyddog polisi a rhaglennu. “Rydym wedi llwyddo i ddisodli 30 y cant o’n gweithlu masnach gyda chyn-brentisiaid a bu gennym gyfradd cadw o 85 y cant o’r 120 o brentisiaid a recriwtiwyd dros y cyfnod o 10 mlynedd ers i ni ddechrau’r Rhaglen Brentisiaeth.”

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Prentisiaethau yw un o’r ffyrdd mwyaf ymarferol a chost effeithiol i fusnes adeiladu gweithlu medrus. Gall prentis ddysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwr eu hangen i gadw i fyny gyda’r datblygiadau yn eu diwydiant a chyflawni gofynion cwsmeriaid y gwasanaeth. Rydw i wrth fy modd fod Dinas a Sir Abertawe’n rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyfforddiant galwedigaethol.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —