Busnes marchnata digidol ar restr fer am wobr brentisiaeth genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Cyfarwyddwr Tree Frog Creative, Christopher Grice gyda’r prentisiaid Connor Todd a Beth Hearn.

Mae busnes dylunio gwefannau a redir gan ŵr a gwraig sydd hefyd yn cynnig ystod eang o atebion marchnata digidol ar restr fer am wobr brentisiaeth genedlaethol fawreddog.

Mae Tree Frog Creative yn Saltney, Sir y Fflint yn rownd derfynol categori Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014 a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

Trefnir y gwobrau, a rennir yn 13 categori, ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Sefydlwyd Tree Frog Creative ym mis Rhagfyr, 2011 gan Christopher a Karen Grice i helpu eu cwsmeriaid i dyfu trwy fusnes ar-lein ond gyda dull moesegol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar y sefydliadau y gweithiant gyda nhw a chymunedau lleol.

Deillia angerdd Christopher am hyfforddiant o’i gefndir ei hun fel gweithiwr gwe iau yn ei arddegau, lle daeth i ddeall yn llwyr deilyngdod dysgu seiliedig ar waith mewn diwydiant sy’n cyson ddatblygu.

Gan weithio’n agos gyda Choleg Cambria, mae’n annog dau brentis y cwmni a chyflogai Twf Swyddi Cymru i ddatblygu sgiliau trwy hyfforddiant a chymwysterau ffurfiol a thiwtora parhaus arloesol a datblygiad wedi’i hunangymell.

“Rydym ond yn derbyn prentisiaid os ydym wedi adnabod dilyniant gyrfa y tu hwnt i’w lleoliad,” meddai. “Ein bwriad yw dod â phrentisiaid pellach i mewn i weithio yn ein tîm ifanc cyfredol.”

Mae Tree Frog Creative yn gwireddu ei enw da gyda hyfforddiant mewnol arloesol sy’n cynnwys sesiynau datblygu tîm (cyfarfodydd pizza!), sesiynau mentora grŵp, arfarniadau bob tri mis, gweithio yn y gymuned ac annog prentisiaid i drefnu digwyddiadau cymdeithasol staff.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Prentisiaethau yw un o’r ffyrdd mwyaf ymarferol a chost effeithiol i fusnes adeiladu gweithlu medrus. Gall prentis ddysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwr eu hangen i gadw i fyny gyda’r datblygiadau yn eu diwydiant a chyflawni gofynion cwsmeriaid y gwasanaeth.

“Rydw i wrth fy modd fod cwmnïau fel Tree Frog Creative yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyfforddiant galwedigaethol.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —