Blwyddyn gofiadwy i’r prentis ffermio arobryn Sophie

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae 2014 wedi troi’n flwyddyn gofiadwy i Sophie Gittins, merch ffermwr 20 oed yng Nghanolbarth Cymru.

Ar ôl cael ei henwi’n Fyfyriwr y Flwyddyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a chwblhau ei Phrentisiaeth mewn Amaethyddiaeth , a gyflwynwyd trwy gampws y Drenewydd Grŵp NPTC, mae hi wedi’i chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y wobr fawreddog Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014.

Sophie Gittins – blwyddyn gofiadwy i ferch ffermwr.

Mae hi ymhlith 36 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn 13 o gategorïau a fydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref. Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cyflawnodd Sophie, un o’r tri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ei chategori, 10 TGAU yn Ysgol Uwchradd y Trallwng cyn cwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Amaethyddiaeth yng Ngrŵp NPTC wrth weithio ar fferm ddefaid a bîff ei theulu yn Lower Llivior, Aberriw.

Nesaf ar agenda Sophie, sydd hefyd yn aelod o Sgwad Bowlio Iau Cymru, yw Gradd Sylfaen mewn Busnes Gwledig i’w pharatoi ar gyfer rôl rheoli fferm.

Er gwaetha’r ffaith mai hi yw’r unig ferch ar ei chwrs yn y coleg, enillodd barch ei chydweithwyr gwrywaidd yn gyflym, a derbyniodd Wobr Cymdeithas Sir Drefaldwyn y llynedd am ei gwaith caled a’i hymroddiad.

Integreiddiwyd syniadau a systemau a ddatblygwyd yn y coleg yn llwyddiannus ar y fferm gan Sophie, a gafodd ei chyflwyno i dechnolegau newydd ar ymweliad Rhaglen Symudedd Prentisiaeth i’r Iseldiroedd.

Hi sy’n cynllunio’r rhaglen fridio ar gyfer praidd o 2,000 o ddefaid ar y fferm yn ogystal ag iechyd, lles a maeth y gwartheg ifanc. Yn ogystal, mae’r fferm bellach yn magu 26,500 o ffesantod ar gyfer fferm helgig yn dilyn ei hanogaeth hi.

“Teimlaf fy mod i’n fodel rôl da i ferched sy’n dymuno dechrau yn y diwydiant amaethyddiaeth a symud ymlaen i redeg busnes” meddai. “Fy mwriad i yw parhau i ddatblygu ac ehangu’r busnes ac un diwrnod, cymryd dros y gwaith o redeg y busnes.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: “Mae prentisiaethau’n rhoi sgiliau, cymwysterau a’r profiad y mae ar ddysgwyr eu hangen wrth helpu’n busnesau i dyfu. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni gydnabod cyfoeth y doniau prentisiaeth sydd gennym yng Nghymru.

“Mae Sophie’n fodel rôl benywaidd gwych mewn diwydiant sy’n cael ei reoli gan ddynion yn draddodiadol. Mae hi wedi dangos gwir ymroddiad trwy gydol ei phrentisiaeth ac mae hi eisoes yn defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a enillwyd ganddi i effaith wych.
“Mae Sophie’n ysbrydoliaeth go iawn i unrhyw ferch sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiant amaethyddol ac rydw i wrth fy modd ei bod hi’n cael ei chydnabod am ei holl waith caled. Hoffwn ddymuno pob lwc iddi ar gyfer y Gwobrau Prentisiaeth.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil, lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —