Bydd toriadau’r Llywodraeth yn haneru nifer y cyfleoedd am brentisiaethau yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Bydd toriadau Llywodraeth Cymru i’w rhaglen brentisiaeth flaenllaw yn arwain at 49 y cant yn llai o brentisiaid yng Nghymru’r flwyddyn nesaf – ac mae newyddion hyd yn oed gwaeth ar y ffordd, yn ôl rhybudd sefydliad sy’n cynrychioli dros 100 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ar draws y wlad.

Datgela astudiaeth fanwl gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW):

  • 8,857 (49%) yn llai o gyfleoedd am brentisiaeth am y cyfnod 1 Awst, 2014 i 31 Mawrth, 2015, o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
  • 3,527 (32%) yn llai o gyfleoedd ym “meysydd blaenoriaeth” Llywodraeth Cymru o ddysgwyr 16-24 oed ac Uwch Brentisiaethau.
  • 5,330 (77%) yn llai o gyfleoedd yn y “maes heb fod yn flaenoriaeth” o ddysgwyr 25 oed neu’n hŷn.
  • bod £10.7 miliwn (16%) wedi’i dorri oddi ar gyllideb y Prentisiaethau am y cyfnod 1 Awst, 2014 i 31 Mawrth, 2015, o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Mae 22 o ddeiliaid contract a gomisiynwyd wrthi’n cyflwyno rhaglenni dysgu seiliedig ar waith i Lywodraeth Cymru trwy rwydwaith o 114 o sefydliadau. Ymgynghorwyd â phob un o’r deiliaid contract hyn yn ystod ymchwil fanwl NTfW i sicrhau cywirdeb.

Cyfanswm cyllideb y brentisiaeth a ddyrannwyd ar gyfer y cyfnod o 1 Awst, 2014 i 31 Mawrth, 2015 yw £56.1 miliwn, y mae angen £42.7 miliwn (76%) ohono i wasanaethu’r prentisiaid sydd eisoes ‘yn dysgu’.

“Gan mai dim ond £13.3 miliwn (24%) o’r gyllideb prentisiaethau sydd ar gael i ddechreuwyr newydd, bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y rhwydwaith darparwyr i gynnig cyfleoedd i gyflogwyr ac unigolion, gan gynnwys y rhai sy’n chwilio am lwybr dilyniant gan raglenni eraill Llywodraeth Cymru, fel Twf Swyddi Cymru a Hyfforddeiaethau,” esboniodd rheolwr gweithrediadau NTfW, Jeff Protheroe.

“Pan welwch y ffigurau mewn du a gwyn, yr unig air i’w disgrifio yw llwm – roedd 9,000 yn llai o brentisiaid na llynedd. Mae ein haelodau wedi bod yn crafu’u pennau oherwydd nid oedd lle i lacio yn y rhaglen brentisiaeth. Ymddengys bod y llywodraeth wedi cael cyngor gwael.”

Yn hytrach na thoriad o £7 miliwn, mae astudiaeth NTfW yn datgelu gostyngiad o £10.7 miliwn o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Rhoddwyd gwybod i’r NTfW hefyd, a chanddo gysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru, fod Llywodraeth Cymru’n cynllunio toriad pellach o £20 miliwn mewn rhaglenni prentisiaeth ym mis Mawrth. Ac mae ei aelodau’n adrodd ar doriadau mewn cyllid ar gyfer rhaglen lwyddiannus Twf Swyddi Cymru, a fydd yn lleihau’r cyfleoedd am waith.

Mae’r ffigurau llwm yn gwrthwynebu’r datganiadau mynych gan Lywodraeth Cymru am ei rhaglen brentisiaeth “safon euraidd” y mae gwledydd eraill y DU yn eiddigeddu wrthi oherwydd ei chyfraddau llwyddo o 86%.

Dros fis ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r toriad cychwynnol o £7 miliwn yn ei Rhaglenni Prentisiaeth a Recriwtiaid Ifanc, mae’r NTfW yn dal i aros am esboniad. Gadawyd darparwyr dysgu ledled Cymru’n ddiymadferth wrth ddelio ag ymholiadau am y rhaglenni gan gyflogwyr, dysgwyr a rhieni pryderus gan nad ydynt wedi cael y wybodaeth y mae arnynt ei hangen.

Mae’r NTfW yn edrych i gael cyfarfod brys gyda’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg newydd ei phenodi, Julie James, a gymerodd dros Ken Skates yn ad-drefniad y Cabinet yr wythnos diwethaf – ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi’r toriadau trwy ail-flaenoriaethu prentisiaethau.

“Byddwn yn croesawu sgwrs agored a didwyll gyda’r Dirprwy Weinidog newydd i gadarnhau pam y teimlwyd bod toriadau i raglennu dysgu seiliedig ar waith hynod lwyddiannus yn deilwng”, meddai Mr Protheroe. “Mae angen i ni gael tryloywder ar frys gan Lywodraeth Cymru.

“Rydym wedi sylwi fod y Gweinidog Addysg wedi ysgrifennu at bob cyngor yng Nghymru’n amlinellu’r toriadau oedd yn cael eu gwneud i gyllidebau ysgolion, ac eto nid ydym ni wedi cael unrhyw ohebiaeth o’r fath.

“Teimlir bod Llywodraeth Cymru’n cymryd darparwyr dysgu’n ganiataol oherwydd mae’n gwybod fod y rhwydwaith wedi cyflawni canlyniadau gwych ac wedi ymateb i anghenion Llywodraeth Cymru’n barhaus dros y degawd diwethaf.”

Mae’r NTfW wedi rhybuddio bod y toriadau mewn perygl o ddadsefydlogi’r rhwydwaith hyfforddi, gan godi gwrychyn dysgwyr a chyflogwyr a thanseilio’r holl waith da a wnaed gan y darparwyr dysgu dros y degawd diwethaf.

Mynegwyd ofnau difrifol y bydd rhai pobl ifanc ar Raglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth Twf Swyddi Cymru ar hyn o bryd yn methu symud ymlaen ar eu llwybr dysgu oherwydd bod y cyllid wedi dod i ben.

“Eironi’r sefyllfa yw bod y toriadau i’r gyllideb yn cyd-daro gydag ymgyrch genedlaethol yn y cyfryngau gan Lywodraeth Cymru yn hyrwyddo prentisiaethau,” meddai Mr Protheroe. “Ar ôl creu’r galw am brentisiaethau, mae Llywodraeth Cymru bellach yn methu ei ddiwallu.

“Rydym wedi treulio cymaint o amser ac ymdrech yn cysylltu cyflogwyr a dysgwyr ac yn codi eu disgwyliadau, ac nawr mae’r tir wedi’i dynnu dan ein traed a bydd hi’n anodd iawn adennill eu ffydd.

“Fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Gweithredu Sgiliau newydd ei lansio, mae twf a swyddi yn ogystal â chydraddoldeb a thegwch yn fesurau perfformiad allweddol. Pam torri’r arian a roddir i brentisiaethau, pan ei bod hi’n glir y gallant gyflawni ar y ddwy elfen?”

More News Articles

  —