Brecwast arbennig i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

Bu cyflogwyr brwd a dysgwyr ysbrydoledig yn sôn am eu llwybrau at lwyddiant o flaen cynulleidfa niferus mewn digwyddiad arbennig i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yng Nghymru.

Daeth dau gant o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ynghyd yng Ngwesty’r Fro, Hensol ar gyfer achlysur llwyddiannus ar y thema ‘Mae’n Amser Sôn am Brentisiaethau’. Cafodd ei drefnu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a Pearson Work Based Learning.

Cynhelir yr achlysur bob blwyddyn i dynnu sylw at y lles y mae prentisiaethau’n ei wneud i unigolion, busnesau a’r economi’n gyffredinol.

Ymhlith y siaradwyr roedd Carmela Carrubba, cyd-sefydlydd Real SFX, Caerdydd a Dewi Foulkes a fu’n brentis gyda’r cwmni. Real SFX enillodd wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd. Roedd Anthony Rees o Sgiliau Adeiladu Cyfle, Owain Phillips o Morganstone a Gareth Evans o Goleg Sir Benfro yn siarad yno hefyd.

Carmela Carrubba o Real SFX, Caerdydd yn siarad yn yr achlysur.

Carmela Carrubba o Real SFX, Caerdydd yn siarad yn yr achlysur.

Dywedodd Mrs Carrubba wrth y gynulleidfa ei bod hi a’i gŵr, Danny Hargreaves, wedi symud o Lundain i Gaerdydd i sefydlu eu busnes effeithiau arbennig yn 2011 ar ôl gweld bwlch yn y farchnad.

Erbyn hyn, mae’r cwmni’n gweithio ar gynyrchiadau fel Doctor Who, Sherlock a Casualty ac mae wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys un o wobrau Bafta Cymru a gwobr Prentis y Flwyddyn yn y sector creadigol.

Mae Real SFX wedi bod yn cydweithio â’r darparwr hyfforddiant Cyfle i ddatblygu rhaglen brentisiaethau benodol yn y cyfryngau creadigol a digidol ac mae hynny’n rhan hanfodol o gynllun busnes Real SFX.

Diolchodd Mrs Carrubba i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r gwaith o hyfforddi a datblygu prentisiaid o safon uchel oedd yn helpu’r busnes i dyfu. Dywedodd fod Cymru’n ganolbwynt i ddiwydiant y cyfryngau erbyn hyn.

“Mae pob un o’n prentisiaid yn wahanol ond mae ganddynt i gyd un peth yn gyffredin: angerdd, brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu,” meddai.

Defnyddiodd Dewi Foulkes brentisiaeth 12 mis i gymhwyso fel technegydd cynorthwyol gyda’r cwmni ac erbyn hyn mae’n helpu i ddarparu effeithiau arbennig, yn cynnwys ffrwydradau ar gyfer ffilmio. “Roedd y brentisiaeth yn gam cyntaf pwysig i’m cael i ar y llwybr i lwyddiant,” meddai. “Mae cyfoeth o dalent yng Nghymru a dylem ymfalchïo ynddo.”

Anthony Rees yw rheolwr rhanbarthol Sgiliau Adeiladu Cyfle, sef cynlun rhannu prentisiaethau llwyddiannus yn y diwydiant adeiladu yn ne-orllewin Cymru. Bu ef yn disgrifio sut yr oedd y cynllun wedi datblygu o 23 prentis yn 2006 i 140 heddiw er mwyn bodloni anghenion y diwydiant. Erbyn hyn, hwn oedd y cynllun prentisiaethau mwyaf o’i fath ym Mhrydain.

Dywedodd ei bod yn bwysig buddsoddi mewn pobl ifanc gan mai nhw fyddai gweithlu’r dyfodol a soniodd am y swyddi a gâi eu creu gan fuddsoddiad o biliynau o bunnau gan y llywodraeth yn seilwaith y Deyrnas Unedig dros y pum mlynedd nesaf.

Cyflwynodd ddau o gyn-brentisiaid y cynllun, Owain Phillips a Gareth Evans, a dywedodd y ddau ohonynt bod eu prentisiaeth wedi newid eu bywyd. Saer coed yw Mr Phillips ac erbyn hyn mae’n rheolwr safle dan hyfforddiant gyda Morganstone. Mae’n gweithio tuag at radd HNC a bu’n gweithio ar brosiect yn Uganda.

Gareth Evans o Goleg Sir Benfro yn annerch y gynulleidfa.

Gareth Evans o Goleg Sir Benfro yn annerch y gynulleidfa.

Darlithydd mewn gwaith saer yng Ngholeg Sir Benfro yw Mr Evans. Bu’n Bencampwr Gwaith Saer y Deyrnas Unedig ac mae wedi cynrychioli’r DU yng ngornest WorldSkills. Enillodd bedair medal aur mewn Gwaith Saer ar y Safle mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol ac mae wedi’i benodi yn arbenigwr cefnogi cydwladwyr ar gyfer Tîm y Deyrnas Unedig yng ngornest WorldSkills Sao Paulo 2015.

Dywedodd fod prentisiaid Cymru’n gallu gweithio i safonau sydd gyda’r gorau yn y byd ac y gallent ennill medalau aur.

Roedd y siaradwyr eraill yn yr achlysur a gyflwynwyd gan Jamie Owen o’r BBC yn cynnwys Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg; Paul Napier, is-gadeirydd rhanbarthol NTfW; a Robert Lloyd Griffiths, cyfarwyddwr rhanbarthol Sefydliad y Cyfarwyddwyr – y ddau ohonynt yn cefnogi’r alwad am bartneriaeth ar brentisiaethau er mwyn adeiladu economi Cymru.

Addawodd Mr Griffiths y byddai Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn gwneud ei ran yn lledaenu’r neges am yr angen am bartneriaeth gyda’r gymuned fusnes er mwyn darparu prentisiaethau.

Yn ogystal, roedd yr achlysur yn gyfle i lansio Gwobrau Prentisiaethau Cymru sydd wedi’u cynllunio i gydnabod a gwobrwyo arferion gorau yn y defnydd o brentisiaethau ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 29 Hydref yn y Celtic Manor, Casnewydd.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —