Dirprwy Weinidog yn galw am gydweithio ar brentisiaethau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru’n galw am bartneriaeth gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a phobl ifanc wrth gyflenwi prentisiaethau yng Nghymru.
Daeth yr alwad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, mewn brecwast busnes yng nghwmni 200 o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yng Ngwesty’r Fro, Hensol, i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.
Oherwydd yr hinsawdd economaidd bresennol, dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n annog cyflogwyr i rannu cyfrifoldeb trwy gyd-fuddsoddi mewn prentisiaethau.
Thema’r achlysur oedd ‘Mae’n Amser Sôn am Brentisiaethau’ ac fe’i trefnwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a Pearson Work Based Learning er mwyn dangos y lles y gall Prentisiaethau ei wneud i unigolion, busnesau a’r economi ehangach.
“Mae’n rhaid datblygu partneriaeth er mwyn sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru yn dal i fodloni anghenion cyflogwyr a’u darpar weithwyr,” meddai’r Dirprwy Weinidog.
“Mae busnesau, pobl ifanc ac economi Cymru yn elwa ar brentisiaethau. Yn ogystal, mae prentisiaethau’n helpu pobl i ddod ymlaen yn y byd ac maent yn ffordd ymarferol a chost-effeithiol o feithrin gweithlu medrus ac ymateb i fylchau mewn sgiliau.
“Ar gyfartaledd, mae prentis yn gwneud busnes £214 yr wythnos yn fwy cynhyrchiol, a hyd yn oed fwy mewn rhai sectorau.”
Apeliodd Julie James ar ei chynulleidfa i ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddatblygu a llywio’r rhaglen ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru. Thema’r ymgynghoriad yw ‘Sicrhau bod y model prentisiaethau’n gweddu i anghenion economi Cymru’ a bydd yn cau ar 24 Ebrill.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, bu prentisiaethau yn rhan allweddol o’n system addysg a sgiliau,” meddai. “Bu cynnydd yn nifer y bobl sy’n cychwyn ar brentisiaethau o bron 18,000 yn 2011-12 i 28,000 yn 2012-13 a 27,500 yn 2013-14.”
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru raglen Sgiliau Hyblyg gwerth £2.4 miliwn i gefnogi tua 60 o gwmnïau yng Nghymru a trefnwyd bod £500,000 arall ar gael i gefnogi prentisiaethau yn y sector gofal.
Ymhlith y siaradwyr eraill yn yr achlysur a gyflwynwyd gan Jamie Owen o’r BBC roedd Paul Napier, is-gadeirydd rhanbarthol NTfW; a Robert Lloyd Griffiths, cyfarwyddwr rhanbarthol Sefydliad y Cyfarwyddwyr – y ddau ohonynt yn cefnogi’r alwad am bartneriaeth ar brentisiaethau er mwyn adeiladu economi Cymru.
Canmolwyd manteision prentisiaethau gan Carmela Carrubba, cyfarwyddwr Real SFX, Caerdydd a enillodd wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd a Dewi Foulkes a fu’n brentis gyda’r cwmni; Anthony Rees o Sgiliau Adeiladu Cyfle, Owain Phillips o Morganstone a Gareth Evans o Goleg Sir Benfro.
Yn ogystal, roedd yr achlysur yn gyfle i lansio Gwobrau Prentisiaethau Cymru sydd wedi’u cynllunio i gydnabod a gwobrwyo arferion gorau yn y defnydd o brentisiaethau ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 29 Hydref yn y Celtic Manor, Casnewydd.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
More News Articles
« Cyfle i gigyddion gystadlu yn WorldSkills UK am y tro cyntaf — Brecwast arbennig i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau »