Mae ‘na gyffro yn y gwynt yn y sector dysgu seiliedig ar waith

Postiwyd ar gan karen.smith

Gan Arwyn Watkins,
Cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Mae ‘na gyffro yn y gwynt yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wrth i ddarparwyr hyfforddiant baratoi ar gyfer ‘skillscymru’, yr arddangosfa fwyaf erioed ym maes gyrfaoedd a sgiliau yng Nghaerdydd.

Disgwylir dros 20,000 o bobl o bob oed i Stadiwm y Mileniwm rhwng 16 ac 18 Medi i chwilio am gyfleoedd newydd cyffrous. Dywed Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y bydd parodrwydd pobl i ddilyn gyrfaoedd newydd ac ennill sgiliau newydd o gymorth mawr i ryddhau Cymru o afael y dirwasgiad.

A minnau’n gadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), rwy’n cytuno’n llwyr. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru barhau i fuddsoddi yn y dyfodol trwy annog pobl o bob oed i feithrin sgiliau sydd gyda’r gorau yn y byd. Ni fu erioed amser gwell i ystyried y dewisiadau ac i elwa ar y rhaglenni prentisiaeth sydd ar gael i bobl o bob oed yng Nghymru.

Er bod cyflogwyr yn croesawu cymwysterau academaidd, mae’n dod yn fwyfwy amlwg eu bod yn rhoi blaenoriaeth i weithwyr sydd â sgiliau galwedigaethol. Mae’n hen bryd i gymwysterau galwedigaethol gael eu cyfrif ar yr un gwastad â chymwysterau academaidd.

Mae yr un mor bwysig canfod ffordd o ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, neu NEETs. Gan fod y dirwasgiad economaidd wedi cael effaith ddifrifol ar gyflogaeth ledled y wlad, a bod nifer y NEETs yn cynyddu yng Nghymru, gallai ‘skillscymru’ – www.skillscymru.co.uk neu www.sgiliaucymru.co.uk – helpu i newid y sefyllfa.

Bydd yr achlysur newydd hwn yn creu awyrgylch bywiog a rhyngweithiol a ddylai ddenu pobl ifanc a rhai hŷn. Gallwn ddisgwyl i aelodau NTfW gynnig profiad rhyngweithiol i dynnu sylw at y cyfleoedd ardderchog sydd yng Nghymru i alluogi dysgwyr i ennill cymwysterau galwedigaethol sy’n arwain at waith.

Bydd yno nifer o arddangosiadau a dosbarthiadau meistr yn y rhan fwyaf o sectorau cyflogaeth a bydd y pwyslais ar annog ymwelwyr i roi cynnig ar wahanol weithgareddau.  Felly, os ydych yn ceisio penderfynu ar yrfa gyntaf neu’n ystyried newid cyfeiriad, cewch sgwrsio â phobl go iawn sy’n gwneud swyddi go iawn a dysgu 10 o sgiliau newydd mewn diwrnod!

Mae ‘skillscymru’ yn gyfle gwych i sgwrsio â dysgwyr sydd wedi dewis dilyn llwybr galwedigaethol i swydd. Bydd cyflogwyr yno hefyd i drafod y setiau sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn cael gwaith.

Bydd fy nghwmni i, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn annog ymwelwyr i ‘Roi cynnig arni’ gyda nifer o weithgareddau rhyngweithiol yn yr adran lletygarwch. Mae fy staff a minnau’n edrych ymlaen at gynnig gwybodaeth am raglenni prentisiaethau a hyfforddiant ychwanegol yn y gwaith, a chyngor am yrfaoedd yn y sector lletygarwch yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn hyrwyddo’r ychwanegiad diweddaraf i’n fflyd cerbydau eco-gyfeillgar a fydd yn cynnwys cliwiau ar gyfer cystadleuaeth yn ymwneud â lleihau eich ôl troed carbon wrth siopa, coginio a bwyta.

Rydym ni, mewn partneriaeth â nifer o ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, yn trefnu rhaglen gyffrous ar gyfer trelar y Gwir Flas gyda gweithgareddau fel gwneud smwddis, ysgwyd coctels a’n fersiwn arbennig ni o her omlet Saturday Kitchen, Her Omlet y Wynnstay.

Rhwng popeth, mae ‘na ddigon o reswm i edrych ymlaen yn gyffrous at eich dyfodol.

More News Articles

  —