Mae angen ffyrdd cydgysylltiedig o helpu NEETs i gael gwaith

Postiwyd ar gan karen.smith

Gan yr Arglwydd Rowlands CBE,
Llywydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Un mater sy’n dal i drethu rhai o feddylwyr gorau Cymru yw sut i ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, sef NEETs.

Yn ddiweddar, paratôdd NTfW bapur ar NEETs ar gyfer Ymchwiliad Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hwnnw’n gwneud nifer o argymhellion allweddol ynghylch y broblem hon yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod tua 14,000 o bobl ifanc yn cael eu cyfrif yn NEET yng Nghymru.

Un o’r prif ffyrdd o fynd i’r afael â’r broblem hon yw’r rhaglen Adeiladu Sgiliau. Mae’r elfen ieuenctid yn Adeiladu Sgiliau wedi datblygu dros y blynyddoedd, yn bennaf i ddiwallu anghenion pobl ifanc nad ydynt yn mynd yn ôl i’r ysgol i’r chweched dosbarth nac yn mynd i’r coleg ac sydd wedi methu cael gwaith. Mewn ffordd, mae’n rhwyd ddiogelwch i gefnogi pobl ifanc.

Wrth i’r rhaglen Adeiladu Sgiliau ddatblygu, yn enwedig mewn ymateb i broblem NEETs, mae’n annog pobl ifanc i symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, yn enwedig trwy brentisiaethau a gwaith.

Gellir gweld effaith Adeiladu Sgiliau ym Mlaenau Gwent, un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Pan aeth y Cynulliad ati i sicrhau mwy o lefydd Adeiladu Sgiliau, aeth canran y bobl ifanc NEET i lawr o 9.1% i 6.6% rhwng 2008 a 2009.

Wrth i ddiweithdra ymhlith pobl ifanc gynyddu yn ystod y dirwasgiad, bydd problem NEETs yn siwr o gynyddu’n fawr os na wneir defnydd mwy strategol o Adeiladu Sgiliau. Felly, mae angen i’r holl asiantaethau perthnasol fynd ati mewn ffordd gydgysylltiedig a strategol.

Rhaid i’r strategaeth annog datblygu sgiliau trwy Adeiladu Sgiliau, sicrhau gwaith i bobl trwy Ganolfan Byd Gwaith a’u cadw trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill.

Mae’r rhaid gwneud mwy na siarad am ‘gydweithio a phartneriaethau’.  Mae angen canfod NEETs a phennu strategaeth effeithiol i ymyrryd gan wneud gwell defnydd o arian y trethdalwyr er mwyn cadw pobl mewn hyfforddiant, dysgu a swyddi hirdymor.

Er mwyn gwneud hyn, credwn bod angen dull symlach o drefnu cyllid a rhaglenni, gan gydgysylltu gwasanaethau mewn ffordd gyfannol a chynhwysol. Trwy gyfuno gwahanol ffrydiau cyllid mewn un rhaglen Adeiladu Sgiliau genedlaethol, hyblyg, gellir creu màs critigol a fydd yn golygu y gellir cynnig gweithgareddau arloesol a chysylltiedig i ddenu pobl ifanc, eu cadw a’u galluogi i symud ymlaen.

Mae’r NTfW yn argymell 2,000 o lefydd Adeiladu Sgiliau ychwanegol wedi’u hanelu’n benodol at NEETS 16-18 oed fel y gellir lleihau’r nifer erbyn mis Medi 2011. Yn ogystal, rydym am weld 2,000 o lefydd ychwanegol ar brentisiaethau ar gyfer pobl ifanc o dan 25 oed i roi cyfle iddynt symud ymlaen o Adeiladu Sgiliau.

Bydd angen pennu targedau cenedlaethol sy’n dipyn o her i gyd-fynd â’r cynnydd yn y buddsoddiad yn Adeiladu Sgiliau er mwyn sicrhau gostyngiad o 50% yn nifer y bobl ifanc NEET erbyn mis Medi 2011. Mae hefyd yn hanfodol bod gennym system o ganfod swyddi addas ar gyfer pobl ifanc..

Mae’n debygol y bydd cryn anghytuno ynghylch ein hargymhelliad y dylid cynnal adolygiad trwyadl o gyllido ysgolion ac addysg bellach, a fyddai’n sicrhau bod y cyllid yn dilyn y dysgwr mewn unrhyw drefniant i gydweithio gydag ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae hyn yn digwydd eisoes ym maes dysgu seiliedig ar waith ac addysg bellach ac yn sicrhau bod y cyllid yn dilyn y dysgwr.

Rydym hefyd yn cefnogi cymhorthdal cyflog ac iddo derfyn amser. Yn ddelfrydol, byddai’n lleihau wrth i’r person ifanc ddod yn bwysicach i’r busnes o safbwynt economaidd, i’w helpu i symud ymlaen i waith a phrentisiaeth ar ôl Adeiladu Sgiliau.

Rydym yn disgwyl yn eiddgar am ymateb Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’n hargymhellion.

Gan yr Arglwydd Rowlands CBE, Llywydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

More News Articles

  —