Cadeirydd NTfW yn galw am fwy o arian ar gyfer prentisiaethau i gwrdd â’r galw yn y dyfodol
Mae corff sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r gyllideb ar gyfer prentisiaethau dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn ateb y galw yn y dyfodol.
Daeth yr alwad gan y Cadeirydd, Sarah John, yn ystod cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd lle’r esboniodd fod angen y buddsoddiad er mwyn cynnal y ddarpariaeth bresennol ac ariannu rhagor o raglenni prentisiaethau technegol a phroffesiynol.
Mae rhaglenni newydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, adeiladu a TGCh yn cael eu creu o ganlyniad i waith gan Cymwysterau Cymru.
“Er mwyn ein galluogi i sicrhau bod y rhaglenni hyn o safon uchel, mae angen i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod yr adnoddau’n costio mwy, nid yn unig yr offer ond y bobl hefyd,” meddai.
“Er mwyn cyflogi pobl broffesiynol mewn sectorau blaenoriaeth mae’n rhaid i ni gystadlu â’u cyflogau presennol a gall hyn ei gwneud yn anodd i ni ateb y galw. Felly, mae angen help i feithrin gallu er mwyn canfod, hyfforddi a pharatoi tiwtoriaid ac aseswyr newydd ac mae angen dull o adolygu’r adnoddau sydd ar gael ledled y sector ôl-16.”
Galwodd hefyd ar i Lywodraeth Cymru wneud mwy o waith cynllunio sgiliau traws-adrannol. “Er mwyn ateb gofynion gweithlu Cymru yn y dyfodol, credwn y byddai cyfarfodydd gyda grwpiau clwstwr o gyflogwyr wedi’u sefydlu gan dîm datblygu economaidd Llywodraeth Cymru a darpar fewnfuddsoddwyr yn help i gynllunio’r ddarpariaeth yn well,” meddai Ms John.
“Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen mynd ati mewn ffordd gydlynus i drefnu polisïau sgiliau ar draws adrannau’r llywodraeth er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym yng Nghymru ac ateb gofynion ein heconomi o ran sgiliau yn y dyfodol.”
Yn ogystal, roedd Ms John yn awyddus i weld NTfW a swyddogion Llywodraeth Cymru’n dal i gydweithio i sicrhau polisi ar brentisiaethau.
Roedd y gynhadledd, ‘Sgiliau’r Dyfodol ar gyfer Cenhedlaeth y Dyfodol’, yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod sgiliau cyflogwyr ac unigolion yn datblygu fel bod gweithlu Cymru yn gallu wynebu heriau awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a digidoleiddio yn y dyfodol.
Mewn anerchiad fideo a recordiwyd, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wrth y cynadleddwyr y dylai aelodau’r NTfW ymfalchïo yn eu hymdrech “nodedig” i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o greu 100,000 o brentisiaethau o safon uchel yn ystod ei thymor presennol.
Tanlinellodd ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i sicrhau cyflogadwyedd a hyfforddiant mewn sgiliau, yn cynnwys prentisiaethau, gyda phwyslais cryf ar wella ansawdd. Dywedodd y gellid gostwng nifer y fframweithiau prentisiaethau i 23 a bod bwriad i ganolbwyntio yn y dyfodol ar feysydd technegol a galwedigaethau crefftau.
Fel rhan o’r Cynllun Gweithredu ar Anabledd, byddai’r ddarpariaeth ddysgu’n gynhwysol gyda phrentisiaethau a chyfle cyfartal ar gael i bobl anabl. Yn y gynhadledd, lansiodd ddefnyddiau newydd i helpu ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith i recriwtio prentisiaid anabl. Yn ogystal, byddai Contract Cyflogwyr yn canolbwyntio ar gyfraniad cwmnïau at iechyd a lles eu gweithwyr a’r gymuned ehangach.
Er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael y gefnogaeth iawn ar yr amser iawn i’w helpu i gael gwaith, roedd wedi lansio Cymru’n Gweithio i gynnig cyngor arbenigol.
Dywedodd Huw Morris, cyfarwyddwr sgiliau, addysg uwch a dysgu gydol oes gyda Llywodraeth Cymru, bod Cymru’n cychwyn ar gyfnod o newid mawr ac amlinellodd gynllun sgiliau pum pwynt ar gyfer wynebu heriau’r dyfodol.
Roedd y cynllun yn cynnwys: un system sgiliau ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru; hawl i ddysgu gydol oes; tair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol, pob un yn paratoi cynllun sgiliau tair blynedd; sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i feithrin cymdeithas fedrus sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb; bwriedir gweithredu’r newidiadau o fewn pum mlynedd ar ôl y cyfnod ymgynghori a fydd yn dechrau yn yr hydref eleni.
Yn ôl Heledd Morgan, Arweinydd Ysgogi Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, erbyn y 2030au, roedd disgwyl y byddai 112,000 o swyddi Cymru mewn perygl oherwydd robotiaid ac awtomeiddio a byddai 65% o’r plant sydd yn yr ysgol heddiw mewn swyddi sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd.
Byddai’n bwysig bod gan bobl sgiliau trosglwyddadwy a oedd yn anodd eu hawtomeiddio, meddai.
Y siaradwyr eraill oedd yr Athro David James, Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Kevern Kerswell, prif weithredwr Agored Cymru, noddwyr cyswllt y gynhadledd.
Yn ogystal, roedd y gynhadledd yn cynnwys 10 gweithdy ar bynciau’n ymwneud â thema’r diwrnod. Arweiniwyd y gweithdai gan arbenigwyr o Lywodraeth Cymru, Anabledd Cymru, Cymwysterau Cymru, Jisc Cymru, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, FSB Cymru, Mind Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg, Gyrfa Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
More News Articles
« Cydweithio’n allweddol er mwyn sicrhau’r sgiliau angenrheidiol i Gymru — Jess yn brentis sy’n datblygu gyrfa’i breuddwydion trwy gyfrwng y Gymraeg »