Katie’r cogydd yn bwydo clwb cinio ac yn sôn am ei phrentisiaeth

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Bu prentis cogydd ifanc, Katie Duffy, yn coginio pryd o fwyd i Glwb Cinio Plas Llanelly yn Llanelli yn ddiweddar cyn siarad â’r 30 aelod am ei thaith fel prentis yn y diwydiant lletygarwch.

Katie, y prentis, a’i swyddog hyfforddi, yn sefyll yn y bwyty

Katie Duffy gyda’i swyddog hyfforddi, Craig Bennett, o Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae Katie, 18, a gyrhaeddodd rownd derfynol Cogydd Iau Cymru yn gynharach eleni, wedi ymuno â thîm Plas Llanelly yn ddiweddar fel dirprwy i’r prif gogydd Simon Davies ac mae wrth ei bodd â’r her newydd.

Dechreuodd ei gyrfa fel prentis cogydd yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli, gan ddilyn yn ôl traed ei mam, Laura, a fu unwaith yn weinyddes yno.

Ar ôl cwblhau ei Dyfarniadau Doniau Cymhwysol (AAA) a Phrentisiaeth Sylfaen Cogydd Lefel 2 gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae Katie yn bwriadu symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 Coginio Proffesiynol.

Yn ogystal â rownd derfynol Cogydd Iau Cymru, mae hi wedi cystadlu yng nghystadlaethau Cogydd y Dyfodol a’r Rotari er pan oedd yn 13 oed ac mae’n bwriadu parhau i gystadlu er mwyn dal i ddysgu a symud ymlaen.

Ei huchelgais yn y pen draw yw agor ei busnes ei hunan – patisserie yn ystod y dydd a bwyty gyda’r nos.

Mae Plas Llanelly yn gofyn i gogydd gwadd goginio ar gyfer aelodau Clwb Rotari Llanelli yn y Clwb Cinio bob mis ac fe gyflwynodd Katie y fwydlen oedd ganddi yn rownd derfynol Cogydd Iau Cymru sef cwrs cyntaf o eog mwg, prif gwrs o borc wedi’i frwysio a phwdin pannacotta fanila.

Ei swyddog hyfforddi yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, Craig Bennett, oedd ei chogydd commis am y diwrnod. “Mae Craig yn help enfawr i mi,” meddai Katie. “Rwy’n teimlo mai fe a Mam yw fy mhrif gefnogwyr.

“Rwy’n mwynhau’r swydd yn fawr ac wedi cael mwy o gyfrifoldeb ym Mhlas Llanelly lle rwy’n rhedeg y gegin pan nad yw’r prif gogydd Simon yn gweithio. Mae wedi dysgu cymaint i mi yn ystod y mis cyntaf ac rwy’n gwerthfawrogi’r holl help rwy’n ei gael.

“Rydw i eisiau cymryd rhan mewn rhagor o gystadlaethau er mwyn gwella fy hun a byddwn i wrth fy modd yn gallu fforddio mynd i’r École Ducasse, yr ysgol goginio enwog ym Mharis, rhyw ddiwrnod, i ddysgu crefftau crwst.”

Yn ôl Craig, mae Katie’n brentis delfrydol sy’n ymroi i ddysgu a datblygu ei sgiliau. “Fe wnaeth hi goginio pryd gwych i aelodau’r Clwb Rotari ac mae’n dod ymlaen yn ardderchog ym Mhlas Llanelly lle mae’r rheolwr Mark Johns a’r prif gogydd Simon Davies yn gefnogol iawn ohoni.

“Mae Katie’n llysgennad gwych dros Raglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru a Chwmni Hyfforddiant Cambrian.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Hyfforddiant Cambrian

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —